<p>Lleisiau Cleifion</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd lleisiau cleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0743(FM)[W]

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 18 Gorffennaf 2017

Mae’n hollol allweddol bod llais dinasyddion yn cael ei glywed yn barhaus wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Wel, ydy, mae, ac wrth gwrs mae’ch Llywodraeth chi yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chael gwared â chynghorau iechyd cymunedol statudol. Rydw i’n gweld hwn yn gam yn ôl, ac yn gam peryglus, a dweud y gwir, yn enwedig i ni yn y gogledd, oherwydd mae angen llais cryf, annibynnol gyda phresenoldeb lleol sy’n gallu herio’r byrddau iechyd a herio’r Llywodraeth hefyd pan fod angen gwneud hynny. Mae’r cyngor iechyd yn y gogledd wedi gwneud dros 500 o ymweliadau ward yn y flwyddyn diwethaf, sef rhyw 500 yn fwy nag y mae Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru wedi’u gwneud yn y gogledd. Mae angen ehangu rôl y cyngor iechyd nid ei ganoli i mewn i ryw gorff genedlaethol annelwig. Nawr, mae’r model newydd sydd yn cael yn grybwyll yn eich ymgynghoriad chi wedi’i seilio ar gyngor iechyd yr Alban, sydd wedi’i ddisgrifio yn ddiweddar fel ‘toothless hamster’. A ydych chi’n cytuno y byddai dilyn y trywydd hwnnw yng Nghymru yn gamgymeriad mawr?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 18 Gorffennaf 2017

Wel, rydym ni’n gwybod bod sawl un wedi dadlau bod eisiau model newydd er mwyn sicrhau bod yna gynrychiolaeth effeithiol o ddinasyddion ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw hwn yn rhywbeth sy’n mynd i wanhau llais y dinasyddion. Rydym ni’n moyn clywed beth yw barn pobl ynglŷn â’r cynlluniau sydd gyda ni ar gyfer corff annibynnol newydd, ac wrth gwrs rydym ni’n hapus iawn i glywed beth sydd ag Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’w ddweud i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy’n cryfhau llais cleifion.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu’r penderfyniad i adeiladu ysbyty newydd â’r dechnoleg ddiweddaraf gwerth £350 miliwn yng Nghwmbrân, o’r enw Ysbyty Athrofaol y Grange? Bydd yn helpu i foderneiddio gwasanaethau iechyd ledled Gwent i’m hetholwyr yn Islwyn hefyd. Dywedodd Judith Paget, prif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, a dyfynnaf,

Rydym ni wedi cael cefnogaeth wych gan bobl leol sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd gan eu bod yn deall y manteision y bydd yr ysbyty hwn...yn eu cynnig.

Prif Weinidog, onid dyma Lywodraeth Llafur Cymru a gwasanaeth iechyd gwladol Cymru mewn synergedd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn gwrando ar gleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? Sut gallwn ni barhau â'r arfer da hwn er budd ein pobl, sy'n gwybod mai yn nwylo Llafur Cymru i mae’r GIG fwyaf diogel?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ni chroesawyd y datganiad hwnnw gan feinciau'r Ceidwadwyr. Roedden nhw’n cwyno amdano. Rwy'n synhwyro brwdfrydedd yr Aelod, sy'n wych, ond nid yw cymaint â’r Aelod dros Dorfaen, y mae ei frwdfrydedd yno i bawb ei weld yn y Siambr ei hun. Ond mae hyn yn dangos, wrth gwrs, ein bod ni’n buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd modern i’n pobl, ac mae hon yn enghraifft wych o hynny'n digwydd o dan Lywodraeth Llafur Cymru.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:05, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

I ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol, dywedodd Cyngor Undebau Llafur Bro Clwyd, wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar 29 Mehefin, ansawdd a llywodraethu gofal iechyd yng Nghymru, yn cynnig diddymu cynghorau iechyd cymuned, mai Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, oherwydd ei gyfansoddiad, yw'r corff delfrydol i fod yn llais a chorff gwarchod ein cleifion. Sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad hwnnw ac i'r ymateb gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru y byddai'r cynigion yn arwain at ddiwedd trefniadau hirsefydlog a sefydlwyd i roi grym yn nwylo pobl leol i fonitro sut y mae eu gwasanaethau GIG yn gweithio, ac, er enghraifft, ni fyddai gan y corff llais y dinesydd newydd arfaethedig hawliau cyfreithiol i ddwyn sefydliadau iechyd i gyfrif am y ffordd y maen nhw’n darparu eu gwasanaethau?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, byddwn ni’n archwilio’r ymateb hwnnw, ynghyd â llawer o rai eraill, a bydd hynny’n hysbysu’r penderfyniad terfynol y byddwn yn ei wneud. Nid yw'r ffaith bod rhywbeth wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer yn golygu o reidrwydd y dylai barhau yn y dyfodol, ond edrychwn ymlaen at ganlyniadau'r ymatebion a gawn drwy'r ymgynghoriad.