Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod tua 15,000 o bobl yn dod yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 2,800 o blant. O'r rheini, bydd ychydig o gannoedd yn byw ar y strydoedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddodd fy swyddfa i helpu i ddod o hyd i lety ar gyfer cyn-filwr y lluoedd arfog a ddaeth, oherwydd problemau iechyd meddwl, yn ddigartref. Yn ôl elusennau digartrefedd, amcangyfrifir bod 7,000 o gyn-filwyr yn byw ar y strydoedd yn y Deyrnas Unedig. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cysylltiedig eraill i sicrhau bod eich cyfamod lluoedd arfog yng Nghymru yn cael ei gyflawni?