1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.
7. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r sefyllfa ddigartrefedd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0741(FM)
Wel, mae ein pwyslais ar atal yn cael effaith gadarnhaol yn y gogledd a'r de, ac mae bron i 8,800 o aelwydydd wedi eu hatal rhag bod yn ddigartref.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod tua 15,000 o bobl yn dod yn ddigartref yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynnwys 2,800 o blant. O'r rheini, bydd ychydig o gannoedd yn byw ar y strydoedd. Yr wythnos diwethaf, llwyddodd fy swyddfa i helpu i ddod o hyd i lety ar gyfer cyn-filwr y lluoedd arfog a ddaeth, oherwydd problemau iechyd meddwl, yn ddigartref. Yn ôl elusennau digartrefedd, amcangyfrifir bod 7,000 o gyn-filwyr yn byw ar y strydoedd yn y Deyrnas Unedig. Beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cysylltiedig eraill i sicrhau bod eich cyfamod lluoedd arfog yng Nghymru yn cael ei gyflawni?
Wel, rydym ni wedi datblygu nifer o ddulliau ar wahân i gynorthwyo rhai o'r aelodau hynny o'n cymuned sydd yn y perygl mwyaf o fod yn ddigartref. Mae hynny'n cynnwys y llwybr tai newydd i helpu cyn-filwyr; y llwybr cenedlaethol ar gyfer cyn-droseddwyr; y llwybr i helpu pobl ifanc osgoi digartrefedd a fframwaith llety i bobl sy'n gadael gofal er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddod o hyd i lety addas. Mae’r llwybr hwnnw ar waith, oherwydd ein bod ni’n cydnabod, wrth gwrs, bod llawer o aelodau o'r lluoedd arfog, ynghyd, wrth gwrs, ag eraill sy'n arbennig o agored i niwed, sydd angen y cymorth penodol hwnnw.
Disgwylir i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ôl eich Llywodraeth, ddarparu rhyw fath o ddarpariaeth tywydd oer ar gyfer unigolion digartref a’r rheini sy'n cysgu ar y stryd, pa un a oes dyletswydd statudol arnynt ai peidio. Fodd bynnag, mae’r canllawiau ar y polisi hwn, Prif Weinidog, yn amwys iawn. Yn sicr, yn fy awdurdod fy hun, nid oes unrhyw dymereddau nac arwyddion sefydlog o ba fath o amodau tywydd sydd wedi eu cynnwys yn y polisi. Felly, gall sut y mae hyn yn cael ei gymhwyso amrywio ar sail feunyddiol bron yn ystod tywydd eithafol iawn. Pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cynnal o ran cyflwyno canllawiau mwy unffurf ar draws Cymru, fel nad yw ein pobl ddigartref mwyaf agored i niwed a phobl sy’n cysgu ar y stryd yn cael eu gadael, yn syml iawn, allan yn yr oerfel eithafol?
Mae'r broses honno wedi dechrau. Ond, wrth gwrs, nid oes unrhyw beth yn atal awdurdodau lleol rhag gwneud hyn eu hunain a dweud mewn gwirionedd beth fydd eu canllawiau, pa dymereddau y byddant yn eu cydnabod. Nid oes unrhyw beth yn eu hatal rhag gwneud hynny, ond, er hynny, rydym ni’n bwrw ymlaen â'r broses o ddechrau edrych ar gryfhau'r canllawiau i gyflwyno mwy o gysondeb ledled Cymru.
A gaf i dynnu eich sylw chi at achos diweddar etholwr oedd heb gartref, ac y bu Cyngor ar Bopeth a minnau yn ceisio ei helpu i sicrhau cartref argyfwng tan bod cartref mwy parhaol yn cael ei ddarparu ar ei gyfer o? Rydw i’n deall y pwysau sydd yna ar awdurdodau lleol, wrth reswm, ond yn yr achos yma, nid oedd y cyngor yn ystyried eu bod nhw’n gallu gweld yr unigolyn yma fel blaenoriaeth. Ond yn yr achos yma, beth oedd gennym ni oedd unigolyn oedd wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl ac a oedd wedi cael gweithiwr cefnogi wedi ei neilltuo ar ei gyfer o. Mewn achos o’r math yna, felly, a ydych chi, fel Prif Weinidog, yn cytuno bod yn rhaid ystyried y rhai sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl fel blaenoriaeth?
Anodd iawn wrth gwrs i—. Ynglŷn â phobl sydd â problemau iechyd meddwl, ni fyddai neb yn dadlau yn erbyn sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth sydd ei eisiau arnyn nhw. Pe bai’r Aelod yn ysgrifennu ataf i gyda manylion ei etholwr, byddwn i’n ddigon hapus, wrth gwrs, i ystyried y sefyllfa i weld beth allwn ni ei wneud i helpu.