Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Disgwylir i awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ôl eich Llywodraeth, ddarparu rhyw fath o ddarpariaeth tywydd oer ar gyfer unigolion digartref a’r rheini sy'n cysgu ar y stryd, pa un a oes dyletswydd statudol arnynt ai peidio. Fodd bynnag, mae’r canllawiau ar y polisi hwn, Prif Weinidog, yn amwys iawn. Yn sicr, yn fy awdurdod fy hun, nid oes unrhyw dymereddau nac arwyddion sefydlog o ba fath o amodau tywydd sydd wedi eu cynnwys yn y polisi. Felly, gall sut y mae hyn yn cael ei gymhwyso amrywio ar sail feunyddiol bron yn ystod tywydd eithafol iawn. Pa drafodaethau fyddwch chi’n eu cynnal o ran cyflwyno canllawiau mwy unffurf ar draws Cymru, fel nad yw ein pobl ddigartref mwyaf agored i niwed a phobl sy’n cysgu ar y stryd yn cael eu gadael, yn syml iawn, allan yn yr oerfel eithafol?