Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
A gaf i dynnu eich sylw chi at achos diweddar etholwr oedd heb gartref, ac y bu Cyngor ar Bopeth a minnau yn ceisio ei helpu i sicrhau cartref argyfwng tan bod cartref mwy parhaol yn cael ei ddarparu ar ei gyfer o? Rydw i’n deall y pwysau sydd yna ar awdurdodau lleol, wrth reswm, ond yn yr achos yma, nid oedd y cyngor yn ystyried eu bod nhw’n gallu gweld yr unigolyn yma fel blaenoriaeth. Ond yn yr achos yma, beth oedd gennym ni oedd unigolyn oedd wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl ac a oedd wedi cael gweithiwr cefnogi wedi ei neilltuo ar ei gyfer o. Mewn achos o’r math yna, felly, a ydych chi, fel Prif Weinidog, yn cytuno bod yn rhaid ystyried y rhai sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl fel blaenoriaeth?