Part of the debate – Senedd Cymru am 7:17 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i'r holl Aelodau hynny sydd wedi cydnabod pwysigrwydd cyflwyno’r gyllideb atodol hon.
I acknowledge Adam Price’s comments on the balance between the main budget and the supplementary budget, but, as Simon Thomas said, it’s part of the cycle in terms of how we deal with these issues, and, by seeing what we’ve said in the supplementary budget, the Finance Committee can prepare the ground for the scrutiny work that they will undertake in the autumn on the full budget.
Fe wnes i sylwi ar un neu ddau o bwyntiau a wnaed, yn benodol am y gyllideb. Soniodd Nick Ramsay am yr £20 miliwn ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae honno'n enghraifft dda o'r hyn y gall y gyllideb atodol ei wneud. Yn syth ar ôl i’r trefniadau fod wedi eu sefydlu i oruchwylio'r cytundeb, fe wnaeth hynny ddatgloi y drws at yr arian sy’n dod gan Lywodraeth y DU yn yr achos hwn. Roedd yn £10 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae'n £10 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, a rhan Llywodraeth y DU o'r fargen sydd wedi ei datgloi gan y trefniadau hynny, ac rydym ni’n adrodd amdanynt yn y fan yma. Cyfeiriodd Mike Hedges at y ffaith mai’r buddiolwr unigol mwyaf o ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y gyllideb atodol yw'r £20 miliwn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac roeddwn i’n teimlo ei bod yn iawn i ddefnyddio elfen gwasanaethau cymdeithasol y fformiwla llywodraeth leol i ddosbarthu’r arian hwnnw, gan ei fod ar gyfer y dibenion gofal cymdeithasol hynny.
Byddwn yn ddiau yn trafod y sgyrsiau ehangach hynny am fuddsoddi mewn iechyd a phwysau eraill ar gyllideb Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb ddrafft yn yr hydref. Mae’r cefndir i hynny, Llywydd, yn parhau i fod yn ansicr iawn. Mewn sgyrsiau diweddar â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, fe wnes i barhau i bwyso am roi terfyn ar y rhaglen o gyni ariannol yn y Deyrnas Unedig, ond, hyd yn hyn, mae'r polisi hwn yn parhau i fod ar waith yn gadarn. Er bod y gyllideb atodol hon yn sefydlu sylfaen gref ar gyfer y flwyddyn gyfredol, hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei chwrs, nid oes unrhyw amheuaeth bod penderfyniadau cyllidebol anoddach o'n blaenau. Cynigiaf y cynnig.