– Senedd Cymru am 7:02 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Ac felly yr eitem nesaf yw’r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2017-18, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig arferol ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Dyma’r cyfle cyntaf i wella cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a gafodd eu cyhoeddi a’u cymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Ionawr. Mae’r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf syml ei chwmpas ac nid yw eleni’n eithriad. Mae o natur weinyddol yn bennaf. Mae’n rheoleiddio nifer fach o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, yn newid rhwng cronfeydd adnoddau a chyfalaf ac yn trosglwyddo rhwng portffolios. Mae’n cynnwys addasiadau i gyllideb DEL Cymru i ystyried trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a gafwyd yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2017. Ac mae’n adlewyrchu newidiadau i ragolygon gwariant a reolir yn flynyddol, yn unol â’r manylion diweddaraf yr ydym ni wedi eu rhoi i’r Trysorlys yn San Steffan. Fodd bynnag, mae’n cynrychioli rhan bwysig o’r system gyllidebu a chraffu. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon yn ofalus ac am yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad hwnnw maes o law.
Llywydd, a number of the changes set out in this first supplementary budget flow from agreements made with the UK Government and others. Agreement on governance arrangements for the Cardiff capital city deal mean that the £20 million has now been released for this purpose; £7.18 million from the Home Office in respect of our portion of the immigration health surcharge receipts has been allocated to the health, well-being and sport main expenditure group in this supplementary budget; £20 million pounds from reserves has been released for investment in social care, while an additional £750,000 in revenue and £1.6 million in capital funding have been allocated for the provision of Wi-Fi on trains and in stations. And I am, of course, aware of the one specific recommendation made by the Finance Committee in this regard.
Llywydd, we must also reflect adjustments made to the Welsh departmental expenditure limit by the UK Government, and the supplementary budget updates the position set out in the final budget in January for both revenue and capital consequentials. This budget allows us to reflect the amendments made in ministerial portfolio responsibilities. Following the transfer of responsibility for Careers Wales to the Minister for Skills and Science, £18.8 million in revenue funding and £6 million of annually managed expenditure funding has been transferred from the education main expenditure group to the economy and infrastructure MEG. No budget has been cut as a result of the supplementary budget, and any negative adjustments at MEG level are offset by corresponding positive adjustments in other MEGs. The net effect on the overall budget of these changes is zero.
Over the coming months, I will carefully monitor our financial position, and intend to table a second supplementary budget to the usual timetable. I continue to explore with colleagues the case for in-year allocation from reserves, while retaining a level of resource sufficient to match the uncertain financial times in which we operate. This will allow us to respond where necessary to possible further pressures on the budget, and to carry forward funding through the new Wales reserve arrangements, to guard against further cuts to our budget in 2019-20 and beyond. Any further allocations from reserves in this year will be reflected in the second supplementary budget.
Llywydd, I’d like to thank the Finance Committee once again for their scrutiny of this supplementary budget, and I ask Members to support it.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch, Llywydd. Ac, yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cynigion, ac yn nodi bod y dyraniadau yn y gyllideb atodol hon yn gymharol fach. Fodd bynnag, croesawodd y pwyllgor y cyfle i drafod y newidiadau gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig ei ymrwymiad i barhau i ddefnyddio proses y gyllideb atodol.
O ran y cyllid ar gyfer y portffolios gofal cymdeithasol ac iechyd, llesiant a chwaraeon, bu’r pwyllgor yn trafod y ddau ddyraniad refeniw a wnaed o’r cronfeydd wrth gefn, sef £20 miliwn ar gyfer arian i ofal cymdeithasol, a £7.2 miliwn ar gyfer y gordal iechyd mewnfudo, fel rydym newydd glywed. O ran yr £20 miliwn, rydym yn nodi mai swm y cynnydd cyffredinol yw £18.7 miliwn mewn gwirionedd, oherwydd trosglwyddiadau allan o faes rhaglenni gwariant gwasanaethau cymdeithasol i fannau eraill yn y prif grŵp gwariant. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, roeddem yn falch o weld bod y cyllid yn cael ei ddyrannu i wasanaethau cymdeithasol, ac yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol yn unol â’u anghenion, ac rwy’n credu bydd fy nghyfaill Mike Hedges yn dweud ychydig mwy am y drefn honno.
O ran benthyca, mae gan y pwyllgor ddiddordeb mewn penderfyniadau i ailddosbarthu dyled, er enghraifft gwarantau dyled a dyled cymdeithasau tai, a sut y gallai hyn effeithio ar flaenoriaethu o ran gwariant cyfalaf a chynlluniau benthyca yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried hyn wrth graffu ar y gyllideb ddrafft yn yr hydref. Cawsom gyfle hefyd i ystyried yn gryno oblygiadau’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen i gefnogi Cylchffordd Cymru o ran y gyllideb. Cawsom sicrhad gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd unrhyw brosiectau eraill yn wynebu’r un cyfyngiadau o ran y costau sy’n cael eu nodi yn y cyfrifon, a’r costau na chânt eu nodi yn y cyfrifon. Mae’n sicr y bydd rhagor o waith craffu ar oblygiadau’r penderfyniad hwn wrth i’r Cynulliad archwilio’r gyllideb ddrafft, ond mae’n enghraifft o ba mor fuddiol yw hi i gael cyllideb atodol i gael craffu ar y broses gyllidol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae’r prif grŵp gwariant economi a seilwaith yn dangos dyraniad ychwanegol ar gyfer darparu Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Rydym yn annog—a dyma unig argymhelliad y pwyllgor—Llywodraeth Cymru i sicrhau bod contractau ar gyfer unrhyw fasnachfraint drenau yn y dyfodol yn cael eu drafftio’n dynn er mwyn osgoi gosod cyfrifoldeb ar y cwmnïau i ailfuddsoddi unrhyw elw er mwyn talu am welliannau.
O ran y cyllid ar gyfer y byrddau iechyd, y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl fyrddau iechyd lleol am y cyfnod tair blynedd hyd at 2016-17 oedd gorwariant net o £253 miliwn, sef bron £0.25 biliwn, wrth gwrs. Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i fodloni gofynion ariannol y byrddau iechyd, a ni chytunwyd eto sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu. Rydym yn dal i bryderu am orwariant y byrddau iechyd, ac mae effaith Deddf cyllid y gwasanaeth iechyd genedlaethol o ddiddordeb i nifer o bwyllgorau’r Cynulliad ar hyn o bryd. Felly, byddaf, fel Cadeirydd, yn cysylltu â Chadeiryddion y pwyllgorau hynny, er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei ystyried yn briodol yn y dyfodol.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, ac o fod wedi cymryd rhan yn y gwaith craffu ar y gyllideb atodol gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad a gafodd ei grybwyll gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, ac mae casgliadau hwnnw yn ein hadroddiad, adroddiad eithaf cryno, sydd wir werth ei ddarllen—byr, ie—ond werth ei ddarllen pan gaiff yr Aelodau gyfle i wneud hynny.
Hon yw’r gyllideb atodol gyntaf, fel yr ydym wedi ei glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i gytuno â geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Efallai mai dim ond un modd technegol o wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i gyllideb yw cyllideb atodol, ond fe ddaeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad ei fod yn fodd priodol a'r mecanwaith mwyaf priodol i wneud y math hwn o addasiadau yn ystod y flwyddyn. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y mecanwaith yn y dyfodol gan Ysgrifenyddion cyllid y dyfodol. Mae'n dryloyw, yn ddealladwy ac mae'n system sydd wedi gweithio yn absenoldeb datrysiad gwell. Rydym yn credu mai cyllidebau atodol yw'r ffordd ymlaen. Ac rydym ni yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi ymwneud â’r pwyllgor mewn modd agored a thryloyw iawn, ond fe wnaethom ni gwestiynu pa un a fyddai Ysgrifenyddion y Cabinet dros gyllid yr un mor agored yn y dyfodol felly gallai fod achos dros edrych ar sicrhau cynnal proses y gyllideb atodol yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y broses mor ddidrafferth yn y dyfodol ag y mae hi wedi bod hyd yn hyn.
Heb fynd i’r holl feysydd y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi eu crybwyll, rwyf yn gwerthfawrogi mai cyllideb atodol weinyddol yw hon yn bennaf a’i bod yn cynnwys addasiadau a gwahanol symiau canlyniadol i floc Cymru, a ddeilliodd o gyllideb 2017 y DU.
Yn benodol, croesawaf yr £20 miliwn ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a hefyd y ddarpariaeth o £750,000 ar gyfer Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Trafodwyd hynny yn helaeth iawn yn ystod ein sesiynau craffu. Roedd hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennyf ddweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar gynnig heddiw gan ei fod yn y pen draw yn gwneud addasiadau i’r gyllideb flaenorol, ac nid oeddem ni’n cefnogi honno.
Byddaf i’n fyr iawn, Llywydd. Byddwn ni hefyd yn ymatal oherwydd mae hynny’n unol â’r hyn a wnaethom ni ar y gyllideb y mae’r gyllideb atodol yma yn ei newid, wrth gwrs. Rwy’n gwybod bod gyda fi ‘blaenorol’—‘previous’, felly—gyda’r gyllideb atodol ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n well i mi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fy mod i’n gadael i’r gyllideb atodol yma fynd trwyddo. Rwy’n credu fy mod i wedi ei ypsetio fe unwaith yn barod heddiw felly nid ydw i’n mynd i’w wneud yr ail waith. Nid ydw i’n credu bod yna lawer gen i i’w ychwanegu at y craffu manwl. Yr unig beth y byddwn i yn ei ddweud yw bod lot o graffu ar y cyllidebau atodol—rwy’n credu ei bod yn beth da bod yna gyllidebau atodol—ond a ydym ni’n cael y balans iawn gyda’r brif gyllideb a’r lefel o wybodaeth sydd gyda ni? Roedd yna gyfeiriad at y ffaith nad oes angen, a dweud y gwir, unrhyw arian ychwanegol ar gyfer gweithredu’r polisi newydd ar gyfer y parc ceir newydd yng Nglyn Ebwy oherwydd bod modd symud arian o fewn yr adnoddau sydd yno, sydd yn codi cwestiwn gen i, a dweud y gwir: a oes yna ddigon o dryloywder a manylder gyda ni, wrth basio’r gyllideb lawn, ynglŷn â beth yw dibenion penodol y symiau sydd yn cael eu dynodi o dan y prif benawdau? Felly, mae’n fater o gael y balans. Mae lot o graffu ar y gyllideb atodol yma—sydd mewn gwirionedd, fel roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, yn newidiadau gweinyddol, a dweud y gwir, lle efallai nad ydym ni cweit wedi cael digon o wybodaeth eto wrth edrych ar y gyllideb gyflawn, er mwyn ein galluogi ni i wneud ein gwaith fel Senedd.
A gaf i ddod i mewn?
Iawn, wrth gwrs.
Gwnaf i jest ddod â’r newyddion o lawenydd mawr i’r Aelod y bydd hyd yn oed mwy o amser i graffu ar y gyllideb ddrafft lawn yn ystod yr hydref, o estyn y cyfnod o bum wythnos i wyth wythnos. So, gobeithio bod hynny’n help.
Wel, rwy’n falch. ‘Haleliwia’, ddywedaf i, wrth gwrs. Rŷm ni i gyd yn edrych ymlaen. Mae’n biti ein bod ni’n gorfod aros tan ar ôl yr haf ar gyfer hynny, ond yn sicr rwy’n edrych ymlaen at weld hefyd beth fydd canlyniadau’r trafodaethau eraill sydd yn mynd ymlaen rhwng y Pwyllgor Cyllid a’r Ysgrifennydd Cabinet o ran ailstrwythuro’r broses gyfan, er mwyn galluogi’r math o dryloywedd roeddwn i’n cyfeirio ato’n gynt.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n awyddus i godi dim ond tri phwynt byr iawn. Yn gyntaf, croesawaf benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynhyrchu cyllideb atodol gyntaf ar gyfer ei chraffu gan y Pwyllgor Cyllid. Cytunaf yn gryf ag argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, a’r hyn a ddywedwyd gan Nick Ramsay a Simon Thomas, sef:
Er nad yw'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon yn sylweddol, mae'r Pwyllgor yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod cyflwyno cyllideb atodol yn fecanwaith priodol ar y cam hwn ac yn dymuno i’r weithdrefn hon barhau i gael ei defnyddio.'
Yn anffodus, ni chafodd ei roi yn y Rheolau Sefydlog, ond rwy'n credu ei fod yn dod, yn awr, yn ddefod ac arfer ei fod gennym, ac rwyf yn credu y byddai unrhyw Ysgrifennydd y Cabinet yn y dyfodol na fyddai’n dod ag ef ymlaen yn wynebu Pwyllgor Cyllid a Chynulliad anhapus iawn.
Ni waeth pa mor fach yw’r newid, rwyf yn credu y dylid cynhyrchu cyllideb atodol. Mae'n rhoi eglurder i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Siambr hon, llawer mwy na fydda’r dewis arall, sef llythyr at y Pwyllgor Cyllid, yn ei wneud, dim ond dweud wrthym am yr hyn oedd newydd ddigwydd. Rwy'n credu mai hon yw’r ffordd iawn, ac rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi parhau i wneud hyn.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw pa mor falch yr wyf fod yr arian ychwanegol i’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol nid drwy'r asesiad o wariant safonol llawn, ond trwy ran y gwasanaethau cymdeithasol o'r asesiad o wariant safonol. Dim ond gwahaniaeth bach fydd hyn yn ei wneud, ond mae'r egwyddor, yn fy marn i, yn un pwysig, ac yn un yr wyf wedi galw amdani o’r blaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, oherwydd pe byddai symiau mwy o lawer dan sylw, byddai'n dechrau cael effaith sylweddol ar ba awdurdod fyddai’n cael yr arian ychwanegol.
Yn olaf, ar iechyd, nododd y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru, ar gyfer rhai byrddau iechyd lleol, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i alluogi byrddau iechyd lleol i fodloni eu galwadau ariannol, a bod ad-dalu y gorwario hwn eto i'w gytuno. Mae'r pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr effaith y mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 wedi ei chael o ran nodi gwelliannau i gynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, a chynllunio’r gweithlu, cynaliadwyedd gwasanaethau yn y dyfodol, a gwaith i fynd i'r afael a pha un a yw'r dyraniadau rhwng byrddau iechyd lleol yn adlewyrchu anghenion yn gywir. Yn syml, a yw’r gorwario oherwydd rheolaeth ariannol wael neu a yw'r gyfran ariannu yn anghywir?
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i'r holl Aelodau hynny sydd wedi cydnabod pwysigrwydd cyflwyno’r gyllideb atodol hon.
I acknowledge Adam Price’s comments on the balance between the main budget and the supplementary budget, but, as Simon Thomas said, it’s part of the cycle in terms of how we deal with these issues, and, by seeing what we’ve said in the supplementary budget, the Finance Committee can prepare the ground for the scrutiny work that they will undertake in the autumn on the full budget.
Fe wnes i sylwi ar un neu ddau o bwyntiau a wnaed, yn benodol am y gyllideb. Soniodd Nick Ramsay am yr £20 miliwn ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae honno'n enghraifft dda o'r hyn y gall y gyllideb atodol ei wneud. Yn syth ar ôl i’r trefniadau fod wedi eu sefydlu i oruchwylio'r cytundeb, fe wnaeth hynny ddatgloi y drws at yr arian sy’n dod gan Lywodraeth y DU yn yr achos hwn. Roedd yn £10 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae'n £10 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, a rhan Llywodraeth y DU o'r fargen sydd wedi ei datgloi gan y trefniadau hynny, ac rydym ni’n adrodd amdanynt yn y fan yma. Cyfeiriodd Mike Hedges at y ffaith mai’r buddiolwr unigol mwyaf o ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y gyllideb atodol yw'r £20 miliwn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac roeddwn i’n teimlo ei bod yn iawn i ddefnyddio elfen gwasanaethau cymdeithasol y fformiwla llywodraeth leol i ddosbarthu’r arian hwnnw, gan ei fod ar gyfer y dibenion gofal cymdeithasol hynny.
Byddwn yn ddiau yn trafod y sgyrsiau ehangach hynny am fuddsoddi mewn iechyd a phwysau eraill ar gyllideb Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn craffu ar y gyllideb ddrafft yn yr hydref. Mae’r cefndir i hynny, Llywydd, yn parhau i fod yn ansicr iawn. Mewn sgyrsiau diweddar â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, fe wnes i barhau i bwyso am roi terfyn ar y rhaglen o gyni ariannol yn y Deyrnas Unedig, ond, hyd yn hyn, mae'r polisi hwn yn parhau i fod ar waith yn gadarn. Er bod y gyllideb atodol hon yn sefydlu sylfaen gref ar gyfer y flwyddyn gyfredol, hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn newid ei chwrs, nid oes unrhyw amheuaeth bod penderfyniadau cyllidebol anoddach o'n blaenau. Cynigiaf y cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar gyfer yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.