12. 11. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:20 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 7:20, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae helpu i fynd â’r Bil hwn drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn brofiad pleserus iawn. Mae wedi bod yn un o'r achlysuron braf hynny pan oedd yr holl ddadleuon gorau, a bron bob pleidlais, ar yr ochr gywir i’r ddadl.

A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith craffu ar y Bil: y tîm o swyddogion sydd wedi gweithio arno o safbwynt Llywodraeth Cymru; y rhai a roddodd dystiolaeth yn ystod y broses graffu, cyflogwyr ac undebau llafur; ac, wrth gwrs, yr aelodau pwyllgor hynny a fu'n goruchwylio'r gwaith craffu ar y Bil, gan gynnwys y rhai a oedd yn argyhoeddedig o gywirdeb yr achos a hyd yn oed y rhai sydd eto i weld y goleuni? Y canlyniad yw, os caiff y Bil ei gadarnhau heddiw, y bydd ewyllys ddemocrataidd y Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi ei datgan yn gadarn ac yn ffurfiol, ac wedi ei datgan i gefnogi'r model partneriaeth gymdeithasol a ddatblygwyd gennym yma yn y cyfnod datganoli.

Mae cynnal gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn fater i'r sefydliad hwn, gan roi ar waith y cynigion y mae pleidiau gwleidyddol wedi eu rhoi gerbron etholwyr yma yng Nghymru. Nid ydym yn ceisio ymyrryd â’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yng ngwledydd eraill y DU yn cael eu trefnu ac ni ddylai unrhyw un geisio ymyrryd yn y penderfyniadau a benderfynir yn ddemocrataidd yn y fan yma.

Llywydd, i rai ohonom, mae’r Bil hwn yn ein hatgoffa o pam y gwnaethom ni ymgyrchu dros ddatganoli ei hun—er mwyn sicrhau na ellid gwthio polisïau a dulliau gweithredu sydd yn wrthwynebus i ddewisiadau Cymru a ffyrdd Cymru o wneud pethau gan rai nad ydynt yn deall yr un o’r ddau. Gadewch i ni nodi’r wythnos olaf hon cyn toriad yr haf drwy roi’r Bil hwn ar y llyfr statud heddiw.