– Senedd Cymru am 7:20 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar Gyfnod 4 o Fil yr Undebau Llafur (Cymru), ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae helpu i fynd â’r Bil hwn drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn brofiad pleserus iawn. Mae wedi bod yn un o'r achlysuron braf hynny pan oedd yr holl ddadleuon gorau, a bron bob pleidlais, ar yr ochr gywir i’r ddadl.
A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith craffu ar y Bil: y tîm o swyddogion sydd wedi gweithio arno o safbwynt Llywodraeth Cymru; y rhai a roddodd dystiolaeth yn ystod y broses graffu, cyflogwyr ac undebau llafur; ac, wrth gwrs, yr aelodau pwyllgor hynny a fu'n goruchwylio'r gwaith craffu ar y Bil, gan gynnwys y rhai a oedd yn argyhoeddedig o gywirdeb yr achos a hyd yn oed y rhai sydd eto i weld y goleuni? Y canlyniad yw, os caiff y Bil ei gadarnhau heddiw, y bydd ewyllys ddemocrataidd y Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi ei datgan yn gadarn ac yn ffurfiol, ac wedi ei datgan i gefnogi'r model partneriaeth gymdeithasol a ddatblygwyd gennym yma yn y cyfnod datganoli.
Mae cynnal gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn fater i'r sefydliad hwn, gan roi ar waith y cynigion y mae pleidiau gwleidyddol wedi eu rhoi gerbron etholwyr yma yng Nghymru. Nid ydym yn ceisio ymyrryd â’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yng ngwledydd eraill y DU yn cael eu trefnu ac ni ddylai unrhyw un geisio ymyrryd yn y penderfyniadau a benderfynir yn ddemocrataidd yn y fan yma.
Llywydd, i rai ohonom, mae’r Bil hwn yn ein hatgoffa o pam y gwnaethom ni ymgyrchu dros ddatganoli ei hun—er mwyn sicrhau na ellid gwthio polisïau a dulliau gweithredu sydd yn wrthwynebus i ddewisiadau Cymru a ffyrdd Cymru o wneud pethau gan rai nad ydynt yn deall yr un o’r ddau. Gadewch i ni nodi’r wythnos olaf hon cyn toriad yr haf drwy roi’r Bil hwn ar y llyfr statud heddiw.
Llywydd, nid oes llawer ar ôl i'w ddweud ar y Bil hwn nad yw eisoes wedi'i ddweud yn y Siambr hon. Fodd bynnag, rwyf am roi un cynnig arall arni. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn hynod siomedig bod darn cyntaf o ddeddfwriaeth Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017—ie, ym mhumed tymor y Cynulliad—yn ceisio cefnogi eu tâl-feistri yn yr undebau llafur, a oedd yn gyfrifol am 91 y cant o’r rhoddion cofrestredig ar gyfer yr ymgyrch etholiadol ym mis Mai. Mae hyn, ar adeg o argyfwng cenedlaethol ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol, [Torri ar draws.] yn achosi pryder difrifol
Iawn, ni allaf glywed yr Aelod. Tawelwch, os gwelwch yn dda.
[Yn parhau.]—pryder difrifol am ein safonau addysgol yng Nghymru, a thangyflawni mewn llawer o agweddau eraill ar ddarpariaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r cynigion a nodir yn y darn hwn o ddeddfwriaeth arfaethedig yn ceisio dwyn yr amddiffyniad rhag streicio annemocrataidd oddi wrth y cyhoedd sy’n talu eu trethi yng Nghymru. Mae’r cynigion hyn yn ceisio tanseilio gwerthoedd tryloywder, atebolrwydd a bod yn agored yn y sector cyhoeddus, a bydd hyn yn galluogi’r ychydig i amharu ar y lliaws, ac yn atal y defnydd o weithwyr asiantaeth i gadw gwasanaethau allweddol i redeg yn ystod streiciau mewn sectorau arbennig.
Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r Bil hwn. Rydym yn credu bod Llywodraeth y DU yn iawn i gyflwyno Deddf yr Undebau Llafur 2016—Deddf sy'n ailgydbwyso buddiannau cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd drwy roi rhyddid i undebau llafur fynd ar streic, ac nad yw, yn groes i'r hyn y mae’n ymddangos bod llawer o bobl eraill yn ei gredu, yn cynnig atal amser cyfleuster, ond mae yn sicrhau mwy o dryloywder drwy ymestyn y gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth am yr amser a'r arian a neilltuir i hyn yn y sector cyhoeddus.
Mae Deddf y DU hefyd yn symud i roi diwedd ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, pan fo’r pwrs cyhoeddus yn syml yn talu amdano. Mae'r ffaith bod cost wirioneddol hyn gymaint yn uwch nag y byddai'r dystiolaeth a gafwyd yn y pwyllgor yn ein harwain i gredu, yn rhoi cymhelliant clir ar gyfer gwella tryloywder yn y sector hwn—bron i £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer y ddarpariaeth pro rata o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw hwn yn swm bach iawn, ac nid yw'n ddibwys, fel y dywedwyd wrthym mewn tystiolaeth. Mae hwn yn swm sylweddol o arian y byddai ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn gwerthfawrogi gallu ei fuddsoddi mewn mannau eraill, drwy gyflogi gweithwyr cymdeithasol neu gynorthwywyr addysgu ychwanegol, er enghraifft.
Llywydd, mae bwriad Llywodraeth y DU ar gyfer y Ddeddf hon yn parhau i fod yn ddigyfnewid. Dylai'r mesurau diogelwch newydd hyn gael eu defnyddio i amddiffyn cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Bydd Bil Cymru yn egluro bod cysylltiadau diwydiannol yn fater a gadwyd, a bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu ar y cyfle cyntaf posibl, yn dilyn rhoi Deddf Cymru ar waith, er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus yn briodol.
Rwy'n falch iawn o gael gwrthwynebu'r Bil hwn.
Hoffwn atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur y wladwriaeth Brydeinig pan gafodd ei chyflwyno yma yn ystod y Cynulliad diwethaf. Rydym ni hefyd wedi gwrthwynebu’r holl welliannau a gafodd eu cyflwyno gan y Ceidwadwyr yn y lle hwn trwy gydol taith y Bil yma yn ystod tymor y Cynulliad yma, gan herio pob ymdrech ddi-flino gan y Ceidwadwyr i ymosod ar hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Dim ond drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr, diwydiant, cyflogwyr a’r Llywodraeth y gallwn ni wneud ein gorau dros ein gwlad a thros ein heconomi, a thrwy barchu’r gweithlu yn llawn y gallwn leihau anghydfod a’r angen am weithredu diwydiannol.
Y trueni mwyaf efo’r Bil yma ydy’r ffaith bod angen i’w wthio fo drwy’r broses ddeddfwriaethol mor gyflym, a’r rheswm am hynny, wrth gwrs, ydy oherwydd bod yn rhaid ei basio fo cyn y bydd Ddeddf Cymru yn weithredol gan, wrth gwrs, y bydd Deddf Cymru yn cymryd pwerau o’r Cynulliad yma. Mae’n siomedig iawn na chawsom ni, felly, gyfle i ehangu hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy, er enghraifft, ddadwneud rhai o elfennau’r Deddfau sydd yn deillio yn ôl i gyfnod Margaret Thatcher.
Felly, mi fuasem ni wedi gallu creu Deddf i amddiffyn yr hawliau sydd gan weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod, ond hefyd Ddeddf a fyddai’n ehangu ar hawliau gweithwyr, ac, yn y broses, gryfhau’r berthynas rhwng y cyflogwr, yr undebau a’r gweithwyr. Efallai, yn wir, y cawn ni gyfle i edrych ar hyn rhywdro eto.
Mae’r Bil yma yn ymgais glir gan y sefydliad cenedlaethol yma i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru oddi wrth ymosodiadau’r Ceidwadwyr ar yr hawliau hynny, ac, yn amlwg, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw yma. Mae Plaid Cymru yn credu mewn amddiffyn a hyrwyddo’r rhan gadarnhaol y gall ac y dylai undebau llafur ei chwarae yng nghymdeithas Cymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddechrau trwy gydnabod y ffaith bod Plaid Cymru wedi cefnogi’r Bil trwy’r broses ac wedi bod yn help mawr yn y broses o graffu arno ac o ddod â’r Bil i rym?
Llywydd, I haven’t taken up with Janet Finch-Saunders in previous debates her repeated assertion that this is the first piece of legislation to have made its way through the Assembly during this year. Now, I’m sure I was here when the land transaction Bill completed its Stage 4. I was almost certainly here when the landfill disposals tax Bill completed its fourth stage. Many of us were here when the public health Bill also made its way onto the statute book earlier this year. I’m afraid Janet’s grasp of arithmetic is every bit as secure as her grasp of Welsh priorities and preferences, and I probably wasn’t surprised at that. I was much, much more disappointed that her grasp of democracy turns out to be as faulty as her grasp of simple arithmetic. This Bill has now come before this Assembly in every part of its process. It has been voted on here at Stage 1. It has been voted on at committee at Stage 2. It was here again for voting at Stage 3, and it’s to be voted upon by this National Assembly again at Stage 4. And yet, we hear from the Conservative Party that its weak and failing Government at Westminster, which secured as many as eight seats in Wales in the general election barely a month ago, is going to find time on the floor of the House of Commons to try to overturn the democratically asserted will of this National Assembly. Well, I really, really hope that they know better than to try to do that. It would be both a democratic outrage as far as the National Assembly is concerned and it would be a terrible waste of the very small political capital that that failing Government still has in its locker. We shall put this Bill on the statute book today confident in the belief that we are doing the right thing and that people with more sense than we’ve heard this afternoon will know better than to try to overturn it elsewhere.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriaf y pleidlais tan y cyfnod pleidleisio.