Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ, ym mis Mai dathlwyd pumlwyddiant llwybr arfordir Cymru. Mae llawer o bobl wedi cerdded ar hyd y llwybr hwnnw a mwynhau manteision y daith, ond, fel y cyfryw, nid ydyn nhw’n cael unrhyw gydnabyddiaeth am gerdded y daith. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yn dibynnu ar bwy fydd yn cymryd yr awenau yn hyn o beth, o ran sut y gallwn annog mwy o bobl mewn gwirionedd i fynd ar y daith honno, rhoi tystysgrif iddynt, fel sy’n digwydd ar deithiau cerdded gwych eraill ledled y wlad hon, fel bod pobl yn cael eu cydnabod am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni? Efallai y gellid defnyddio hynny hefyd fel agwedd fuddiol ar dwristiaeth, sef cael tystysgrifau ar gyfer agweddau neu elfennau o’r daith.