Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rwy'n credu ei bod yn briodol iawn inni achub ar y cyfle hwn, a diolch i chi, Dai Rees, am godi hyn. Wrth gwrs, mae llwybr yr arfordir wedi bod yn llwyddiant mawr. Yn wir, mae'r adroddiad ar gyfer 2014-15 yn dangos bod effaith economaidd llwybr yr arfordir yn cynhyrchu tua £16 miliwn o werth ychwanegol crynswth i economi Cymru, a thua 715 o flynyddoedd unigolyn o gyflogaeth bob blwyddyn. Yn wir, mae ymchwil ddiweddar yn dangos ei fod yn uwch na hynny. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, am y manteision iechyd a ddaeth i’r amlwg yn asesiad 2014. Ond rwy'n credu hefyd mai’r cysylltiadau sy’n bwysig—i'r llwybrau eraill, fel llwybr Taf, a llwybr yr arfordir i'r Cymoedd. Ac mae rhoi tystysgrifau am hynny a'r llwybrau, wrth gwrs, yn fater, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried.