Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Wel, rydym wedi ymrwymo, fel y dywedodd Carl Sargeant, i ddysgu’r holl wersi perthnasol o dân trasig Tŵr Grenfell, a chymryd yr holl gamau priodol. Dyna pam mae Carl Sargeant wedi cynnull grŵp cynghori ar ddiogelwch tân. Nid ydym am ragfeddiannu gwaith y grŵp hwnnw, ond mae angen i ni nodi achos cryfach na’r hyn sydd gennym nawr dros brofion gorfodol.