Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mae dau fater yr wyf yn awyddus i’w codi. Amser cinio heddiw, cynhaliodd teuluoedd yng Nghymru, yr effeithiwyd arnyn nhw gan sgandal y gwaed halogedig, gyfarfod ar risiau'r Senedd i dynnu sylw at yr effaith a gafodd hyn ar bobl yng Nghymru. Yn amlwg, dros yr haf bydd negodi a thrafodaethau’n digwydd ar ffurf yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn amlwg mae hyn wedi bod yn achos brwydr galed iawn gan deuluoedd yng Nghymru. A fyddai arweinydd y tŷ yn ymrwymo i sicrhau y bydd gan y Cynulliad ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd pan fyddwn ni’n dychwelyd ar ôl toriad yr haf?
Roedd gennyf ail fater. Roeddwn eisiau codi—yr ail fater yw cronfa ddŵr Llanisien yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd. Fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, mae brwydr faith wedi bod ynghylch y gronfa hon ac mae pawb sy’n byw yn lleol wrth eu bodd fod Dŵr Cymru bellach wedi cymryd drosodd ac yn cynllunio i fuddsoddi ynddi. Ond, yn y lle cyntaf, mae angen draenio'r gronfa ac mae hyn wedi cael ei gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru. A fyddai'n bosibl i Ysgrifennydd y Cabinet drefnu ei fod yn adrodd i'r Cynulliad, yn ddiweddarach yn y flwyddyn, am gynnydd y cynllun cyffrous hwn, a hefyd am y swyddogaeth fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn hyn yn y dyfodol?