Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
A gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ei gweithredoedd i gefnogi ymgyrch Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth i gael cyfiawnder i'r menywod di-ri yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau annheg Llywodraeth y DU i'r system pensiynau? Ac, arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddai ymgyrchwyr WASPI hefyd yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cofnodi ei bod yn condemnio’r sylwadau annifyr, ansensitif a sarhaus gan Weinidog dros Bensiynau y DU y dylent yn syml chwilio am gyfleoedd prentisiaeth er mwyn lliniaru eu caledi ariannol.