Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mae Vikki Howells wedi codi’r ymgyrch bwysig hon yn gyson, ac er nad yw materion pensiwn wedi eu datganoli, a’u bod yn gyfrifoldeb Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr effaith anghymesur a gaiff y newidiadau sy'n deillio o Ddeddf Pensiynau 2011 ar nifer sylweddol o fenywod. Mae Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â’r materion hyn. Pwysleisiwyd hyn gan ein pryderon yn y Cyfarfod Llawn. Yn wir, gwn fod menywod o ymgyrch WASPI yn dod i mewn i gyfarfod ag Aelodau'r Cynulliad yr wythnos hon. Byddwn yn dal i gynnig ein cefnogaeth i ymdrechion yr ymgyrch hon, i dynnu sylw at effaith ddifrifol y newidiadau hyn, ac yn dilorni’r sylwadau sarhaus a wnaed. Unwaith eto, yn anffodus, mae hyn yn rhoi syniad o’r agwedd a’r diffyg gofid neu ddiddordeb yn anghenion pwysig y menywod hyn yr effeithiwyd arnyn nhw mor andwyol gan y newidiadau hyn o ran cydraddoldeb a newid oedran pensiwn y wladwriaeth.