Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi am ildio. Tybed a wnaiff rannu ei farn ynghylch pam mae rhai elfennau o'r Bil yn ei ffurf bresennol, o safbwynt Llywodraeth y DU, yn cynnwys cymalau machlud. Bydd rhai swyddogaethau a gaiff eu rhoi i Weinidogion y DU yn dod i ben. Ond pan ddaw at ddatganoli, er gwaethaf y datganiadau cyhoeddus mai mesur dros dro yw hwn er mwyn cadw trefn dda ar bethau, nid oes cymal machlud yn ymwneud â chipio grym dros feysydd cyfrifoldeb datganoledig.