5. 4. Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:59, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.] —â Theyrnas Unedig fywiog yn y dyfodol ar ôl Brexit. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n brin o amser. Rwyf eisoes wedi cael un ymyriad.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithio'n agos â gweinyddiaethau datganoledig i nodi meysydd nad oes angen fframweithiau cyffredin arnynt ac a allai, felly, gael eu rhyddhau o'r trefniant trosiannol. Tu hwnt i hynny, fodd bynnag, mae angen fframweithiau ar draws y DU sy'n parchu'r setliad datganoledig y cytunwyd arno. Wedi'r cyfan, os cytunir ar y fframweithiau, ni fydd unrhyw broblem gyfansoddiadol. Er nad yw’r Bil hwn yn cymryd cymwyseddau presennol yn ôl oddi wrth y Cynulliad, nid oes, fel y clywsom, ddyddiad terfyn ar gyfer y cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig a grëwyd gan fodel cyfraith yr UE a gedwir y bydd yn ei gyflwyno. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau y byddai hyn yn cael gwared ar gymhellion i Weinidogion Cymru gytuno ar fframwaith y DU. Ar y llaw arall ac mewn gwirionedd, fodd bynnag, rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn wedi galw'n gyson am fframwaith y cytunwyd arno. Felly nid oes unrhyw reswm pam na allai’r Bil ddatgan y byddai'r cyfyngiad ar gymhwysedd datganoledig yn dod i ben pan fydd fframweithiau y cytunwyd arnynt yn dod i rym. At hynny, er bod cytundebau rhyngwladol ym meysydd datganoledig amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd yn cael eu neilltuo i Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i'r egwyddorion sy'n berthnasol i'r meysydd hyn ddarparu sylfaen ar gyfer cytundebau yn y dyfodol ar fframweithiau cyffredin rhwng Llywodraethau’r DU fel sail i unrhyw gytundeb masnach rydd.

Felly, mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn mynd i'r afael â’r materion hyn ac eraill, ac rwy’n croesawu, felly, gadarnhad gan Lywodraeth y DU ar y mater o welliannau. Trefnwyd Ail Ddarlleniad y Bil ar gyfer tymor yr hydref yn San Steffan, yn benodol er mwyn rhoi amser i’r gweinyddiaethau datganoledig fynd drwy'r Bil yn fanwl yn ystod yr haf. Felly, gadewch i ni fynd trwy'r Bil hwnnw mewn modd cyfrifol, nodi'r gwelliannau y gallwn i gyd gytuno arnynt, ac ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Senedd i’w cyflwyno nhw ar yr Ail Ddarlleniad. Diolch.