5. 4. Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:01, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r ddadl hon yn digwydd ar frys. Ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff ynglŷn â Bil ymadael â’r UE Llywodraeth y DU—a gafodd ei alw’n Fil diddymu. Nid yw’n ddim llai nag ymgais i dynhau gafael Llundain ar Gymru. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fater o benderfynu sut i weithredu pleidlais refferendwm. Mae'n rhaid i ni i gyd gofio hefyd y bu dau refferendwm ar ddatganoli, Ym 1997 ac yn 2011 ymladdodd fy mhlaid yn galed yn rhan o’r ymgyrchoedd hynny, ar roedd y ddau yn llwyddiannus. Mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio ddwywaith i rymuso ein democratiaeth Gymreig ein hunain a'n sefydliadau cenedlaethol ein hunain. Mae'r Bil ymadael â’r UE yn diystyru ac yn deddfu yn erbyn y pleidleisiau hynny mewn ffordd sy'n annerbyniol.

Lle mae'n rhaid i fframweithiau ar gyfer gweithredu marchnad y DU fodoli, dylid cyd-benderfynu arnynt gan y Llywodraethau datganoledig. Mae gennym ddiddordeb clir mewn amaethyddiaeth, mewn diogelu'r amgylchedd, mewn cronfeydd strwythurol ac mewn meysydd eraill o reoleiddio sydd o fudd i bobl yn ein cymdeithas. Rhaid rhoi sylw clir i lais Cymru wrth benderfynu sut mae fframweithiau a phwerau newydd a'r rhai sy'n dychwelyd yn gweithredu, ac ni ddylai’r pwerau hynny gael eu rhyng-gipio gan San Steffan a'u gosod mewn rhyw fath o batrwm dros dro amhenodol lle mai ymddiried yn ewyllys da Whitehall fydd ein hunig amddiffyniad

Rydym yn dibynnu ar air y Llywodraeth mai dim ond trefniant dros dro fydd hwn. Fel y clywsom, nid oes cymal machlud yn y Bil i gyfraith yr UE a gedwir sy'n dod o dan gymwyseddau datganoledig. Nid oes darpariaeth ychwaith yn y Bil i ganiatáu i weinyddiaethau datganoledig ddod i gytundeb ffurfiol â Llywodraeth y DU. Ymddengys fod pob un o'r materion hynny yn amodol ar drafodaethau dwyochrog a byddant yn cael eu datrys yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU.

Felly, beth all y Cynulliad hwn ei wneud yn ymarferol? Mae cynnwys Bil parhad yn y cynnig hwn yn hanfodol. Mae Plaid Cymru yn credu ei bod yn hanfodol bod gennym Fil o'r fath i ddiogelu statws cyfansoddiadol Cymru. Mae'n haeddu cael ei ailadrodd ar gyfer y cofnod fod fy nghydweithiwr Steffan Lewis o blaid y Bil hwn gyntaf yn ôl ym mis Tachwedd 2016. Roedd hyn cyn i Bapur Gwyn y Bil diddymu gan Lywodraeth y DU gael ei gyhoeddi. Hyd yn oed cyn i fwriadau Llywodraeth y DU ddod yn amlwg, roedd Plaid Cymru yn credu y dylid cymryd camau i sicrhau bod modd cadw fframweithiau rheoleiddio’r UE yng nghyfraith Cymru. Cymerwyd y safbwynt hwnnw oherwydd ein bod yn rhagweld beth fyddai bwriadau Llywodraeth y DU. Eglurwyd y bwriadau hynny ym Mhapur Gwyn Bil diddymu Llywodraeth y DU, a basiwyd yn ystod y gwanwyn diwethaf, ond mae'n deg dweud bod Plaid Cymru wedi gweld y bygythiad hwn yn dod.

Felly, wrth gefnogi'r cynnig hwn, mae Plaid Cymru yn gryf o'r farn y byddai’r wlad hon mewn sefyllfa gryfach heddiw pe byddai Bil parhad eisoes wedi cael ei osod. Ond rydym yn y sefyllfa yr ydym ynddi, ac felly mae'n hanfodol bod y Bil hwn yn cael ei ddatblygu a'i gyhoeddi yn awr heb oedi pellach. Wrth gefnogi'r cynnig heddiw, mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen a chyhoeddi’r Bil.

Mae'r cynnig hefyd yn ei gwneud yn glir y byddai camau eraill yn cael eu cymryd pe bai Llywodraeth y DU yn parhau i fynd i lawr y llwybr hwn. Mae'n rhaid i bob llwybr seneddol, llywodraethol a chyfreithiol gael ei ddilyn er mwyn eu dal i gyfrif. Ni allwn gael math penodol o ymadael â’r UE lle mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn, Senedd Cymru’r dyfodol, yn cael ei danseilio neu ei fychanu, a gwn fod gwledydd datganoledig eraill yn teimlo'r un fath. Mae'n werth ystyried a chydnabod ei bod yn bosibl nad yw’r materion technegol a chyfansoddiadol hyn yn destun sgwrs yn y dafarn, ar y stryd neu yn y gweithle. Mae hynny'n ddigon teg. Ond mae pobl yng Nghymru yn disgwyl cael parch i’w gwlad ac i gael gwrandawiad. Rhaid bod cymryd rheolaeth yn ôl yn golygu pwerau yn dod i Gymru, ac i ni mae'n rhaid i hyn olygu bod yn rhaid i San Steffan drin y wlad hon gyda'r parch yr ydym yn ei haeddu.