Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Yn 2014, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am fanyleb gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau, ac am ei gaffael, i Lywodraeth Cymru. Yn 2015, gwnaethom sefydlu cwmni dielw, Trafnidiaeth Cymru, i helpu i’n cynghori a’n cefnogi â phrosiectau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig i helpu i gaffael gwasanaethau rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar gaffael gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau i ddiwallu anghenion teithwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd hyn yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn bwriadu creu gwasanaeth rheilffyrdd sydd o fudd i Gymru gyfan, i gymunedau ar hyd y ffin ac yn Lloegr. Mae gennym gyfle unigryw drwy fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys £734 miliwn ar gyfer metro’r de. Bydd y gallu a'r dulliau y byddwn yn eu datblygu wrth gyflawni metro’r de yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gyflwyno cysyniad y metro yn y gogledd, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o Gymru, mewn ffordd sy'n gweddu orau i anghenion lleol. Ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu, gwnaethom nodi ein blaenoriaethau, sy'n adlewyrchu'r gwasanaeth rheilffyrdd sydd ei eisiau ar bobl yng Nghymru. Yn seiliedig ar y blaenoriaethau hynny, a gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, rydym yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer contract nesaf y gwasanaeth rheilffyrdd. Rydym wedi llwyddo i ddenu pedwar o gynigwyr o ansawdd uchel.
Rwy'n falch bod rhanddeiliaid wedi cymryd rhan ac wedi ymgysylltu’n gadarnhaol ac yn rhagweithiol i'n helpu i ddatblygu ein syniadau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol. Mae Trafnidiaeth Cymru heddiw yn cyhoeddi’r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Rwy'n croesawu'r adroddiad diweddar gan aelodau'r pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am y gwasanaeth rheilffordd nesaf. Mae'r adroddiad yn cydnabod yn briodol yr heriau y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi fy ymateb i argymhellion yr adroddiad maes o law. Hoffem i bawb yng Nghymru elwa o wasanaethau rheilffyrdd mwy effeithlon ar drenau gwell, mwy modern. Drwy'r broses gaffael hon, hoffem sicrhau model cynaliadwy sy'n bodloni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y dull hwn yn ein galluogi i wneud y gorau o bob ceiniog sy'n cael ei buddsoddi, i ddarparu dyfodol tymor hir i’n cymunedau.
Rydym yn disgwyl nifer o ganlyniadau o'n hymarfer caffael ac i wasanaethau rheilffyrdd Cymru yn y dyfodol. Drwy'r broses gaffael, rydym wedi cymell cynigwyr i ddatblygu ceisiadau o safon uchel sy'n rhagori ar ein disgwyliadau. Rydym hefyd wedi cynnwys targedau lleihau carbon, gyda chymhellion i wella dros oes y contract. O leiaf, rwy’n disgwyl y caiff gwasanaethau ac amlderau presennol eu cynnal, yn ogystal â thwf mewn gwasanaethau mewn ardaloedd a flaenoriaethir a lle mae llawer o angen. Ochr yn ochr â hyn, hoffem weld gwelliannau yn ansawdd y cerbydau, fel darparu mannau gwefru wrth y sedd, mannau storio mwy effeithiol ar gyfer bagiau a beiciau, a thoiledau allyriadau rheoledig i greu rhwydwaith glanach. Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddarparu Wi-Fi am ddim i deithwyr yn y 50 gorsaf brysuraf yng Nghymru ac ar y trenau hynny lle nad oes yr offer angenrheidiol eisoes.
Ddoe, cyhoeddais y byddwn yn ychwanegu pum trên pedwar cerbyd ychwanegol i gynyddu faint o gerbydau sydd ar gael yn y fasnachfraint bresennol. Bydd cyflwyno'r trenau hyn yn caniatáu inni wneud gwaith cydymffurfio ar gyfer pobl â llai o symudedd ar y cerbydau dosbarth 150 a 158 presennol ac yn darparu opsiynau i gynyddu capasiti ar lwybrau prysur. Bydd y trenau ychwanegol hefyd yn darparu cyfleoedd i ddeiliad newydd y fasnachfraint gyflwyno gwelliannau yn gynnar yn ystod contract newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau.
Rwy’n disgwyl y darperir cerbydau newydd gwell yn gynnar yn y contract gwasanaethau rheilffyrdd newydd fel bod teithwyr yn cael y budd cyn gynted â phosibl a bod trenau’n gwbl hygyrch i bobl sydd â diffyg symudedd. Rwy’n disgwyl y cyflwynir gwelliannau i amser teithiau a gwelliannau i wasanaethau, gan gynnwys gwell gwasanaethau o'r gogledd i'r de i’r ddau gyfeiriad yn y bore a gyda'r nos gyda cherbydau o ansawdd gwell, a hefyd mwy o wasanaethau trên ar ddydd Sul ledled Cymru.
Ar ddiwedd y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi crynodeb o ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a metro’r de-ddwyrain. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drosglwyddo'r pwerau perthnasol sydd eu hangen i gyflawni a chynnal gwasanaethau rheilffyrdd yn llwyddiannus yn y dyfodol. Tra bod hyn yn digwydd, rydym yn bwrw ymlaen â chaffael gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan gytundeb asiantaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru. Oherwydd natur draws-ffiniol gwasanaethau rheilffyrdd, bu cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill rhwng swyddogion, a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru, a Network Rail ynghylch trosglwyddo llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi cyfle inni i ofyn i'n cynigwyr gyflwyno datrysiadau rheilffyrdd arloesol a chost-effeithiol yn y rhanbarth.
Mae gwasanaeth rheilffyrdd dibynadwy o safon, sy'n rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Cymru, yn ganolog i'n gweledigaeth. Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y daflen ‘Symud Gogledd Cymru Ymlaen—Ein Gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru a Metro Gogledd Ddwyrain Cymru’. Bydd metro’r gogledd-ddwyrain yn rhan o raglen ehangach o foderneiddio trafnidiaeth ledled y gogledd sy'n cydnabod y cyfleoedd i sicrhau twf economaidd a lles y gellir eu gwireddu drwy wella cysylltedd i bob math o drafnidiaeth o fewn y rhanbarth ac ar draws ffiniau.
Mae gwaith effeithiol ar draws ffiniau yn hanfodol os ydym am ddenu buddsoddiad a sicrhau'r manteision mwyaf posibl, ac rydym yn ceisio canfod ystod o ymyriadau posibl ar gyfer y tymor byr, canolig, a hir, er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o ran cysylltedd ar draws y ffin i mewn i Loegr, Iwerddon, a thu hwnt.
Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a dros y ffin i nodi a datblygu’r mentrau pellach hyn ac, yn enwedig, i wella integreiddiad trafnidiaeth ar draws pob dull, gan gynnwys tocynnau integredig.