– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gaffael gwasanaethau rheilffyrdd a’r metro. Ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaethpwyd o ran gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau a chaffael y metro. Ein gweledigaeth yw gwasanaeth rheilffyrdd modern, effeithlon, sy’n defnyddio technoleg fodern ac arferion gwaith modern i wneud gwelliant sylweddol i wasanaethau i deithwyr ledled Cymru.
Mae'r agenda hon yn ddi-os yn cyflwyno heriau, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd gwych i gyflawni ein dyheadau ehangach ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig amlfodd sy’n fwy ac yn well, gan wasanaethu anghenion teithwyr, cerddwyr, a beicwyr ar hyd a lled Cymru, p'un a ydynt yn dod o Gymru ynteu’n ymwelwyr sy’n ceisio gweld cymaint â phosibl o’n gwlad brydferth. Cefnogir yr agenda gan nifer o ymyriadau uchelgeisiol, gan gynnwys cynlluniau i drydaneiddio a gwella’r rheilffyrdd, metro’r gogledd, gwelliannau i'r rhwydwaith ffyrdd a'r M4, a gwelliannau parhaus i wasanaethau bws.
Rydym yn darparu’r ymyriadau hyn mewn cyd-destun rhannol ddatganoledig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn foddhaol. Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli rheolaeth a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru, fel yr argymhellodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Ac, yn absenoldeb cyllid a rheolaeth ddatganoledig, mae’n rhaid i Gymru dderbyn ei chyfran deg o fuddsoddiad mewn seilwaith, gan nodi’r tanfuddsoddi hanesyddol yma yng Nghymru, ac rydym yn parhau i wneud yr achos hwn. Rydym, fodd bynnag, wedi gwneud cynnydd da.
Yn 2014, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am fanyleb gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau, ac am ei gaffael, i Lywodraeth Cymru. Yn 2015, gwnaethom sefydlu cwmni dielw, Trafnidiaeth Cymru, i helpu i’n cynghori a’n cefnogi â phrosiectau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig i helpu i gaffael gwasanaethau rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar gaffael gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau i ddiwallu anghenion teithwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd hyn yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn bwriadu creu gwasanaeth rheilffyrdd sydd o fudd i Gymru gyfan, i gymunedau ar hyd y ffin ac yn Lloegr. Mae gennym gyfle unigryw drwy fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n cynnwys £734 miliwn ar gyfer metro’r de. Bydd y gallu a'r dulliau y byddwn yn eu datblygu wrth gyflawni metro’r de yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gyflwyno cysyniad y metro yn y gogledd, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o Gymru, mewn ffordd sy'n gweddu orau i anghenion lleol. Ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu, gwnaethom nodi ein blaenoriaethau, sy'n adlewyrchu'r gwasanaeth rheilffyrdd sydd ei eisiau ar bobl yng Nghymru. Yn seiliedig ar y blaenoriaethau hynny, a gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, rydym yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer contract nesaf y gwasanaeth rheilffyrdd. Rydym wedi llwyddo i ddenu pedwar o gynigwyr o ansawdd uchel.
Rwy'n falch bod rhanddeiliaid wedi cymryd rhan ac wedi ymgysylltu’n gadarnhaol ac yn rhagweithiol i'n helpu i ddatblygu ein syniadau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol. Mae Trafnidiaeth Cymru heddiw yn cyhoeddi’r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Rwy'n croesawu'r adroddiad diweddar gan aelodau'r pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau am y gwasanaeth rheilffordd nesaf. Mae'r adroddiad yn cydnabod yn briodol yr heriau y mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi fy ymateb i argymhellion yr adroddiad maes o law. Hoffem i bawb yng Nghymru elwa o wasanaethau rheilffyrdd mwy effeithlon ar drenau gwell, mwy modern. Drwy'r broses gaffael hon, hoffem sicrhau model cynaliadwy sy'n bodloni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y dull hwn yn ein galluogi i wneud y gorau o bob ceiniog sy'n cael ei buddsoddi, i ddarparu dyfodol tymor hir i’n cymunedau.
Rydym yn disgwyl nifer o ganlyniadau o'n hymarfer caffael ac i wasanaethau rheilffyrdd Cymru yn y dyfodol. Drwy'r broses gaffael, rydym wedi cymell cynigwyr i ddatblygu ceisiadau o safon uchel sy'n rhagori ar ein disgwyliadau. Rydym hefyd wedi cynnwys targedau lleihau carbon, gyda chymhellion i wella dros oes y contract. O leiaf, rwy’n disgwyl y caiff gwasanaethau ac amlderau presennol eu cynnal, yn ogystal â thwf mewn gwasanaethau mewn ardaloedd a flaenoriaethir a lle mae llawer o angen. Ochr yn ochr â hyn, hoffem weld gwelliannau yn ansawdd y cerbydau, fel darparu mannau gwefru wrth y sedd, mannau storio mwy effeithiol ar gyfer bagiau a beiciau, a thoiledau allyriadau rheoledig i greu rhwydwaith glanach. Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddarparu Wi-Fi am ddim i deithwyr yn y 50 gorsaf brysuraf yng Nghymru ac ar y trenau hynny lle nad oes yr offer angenrheidiol eisoes.
Ddoe, cyhoeddais y byddwn yn ychwanegu pum trên pedwar cerbyd ychwanegol i gynyddu faint o gerbydau sydd ar gael yn y fasnachfraint bresennol. Bydd cyflwyno'r trenau hyn yn caniatáu inni wneud gwaith cydymffurfio ar gyfer pobl â llai o symudedd ar y cerbydau dosbarth 150 a 158 presennol ac yn darparu opsiynau i gynyddu capasiti ar lwybrau prysur. Bydd y trenau ychwanegol hefyd yn darparu cyfleoedd i ddeiliad newydd y fasnachfraint gyflwyno gwelliannau yn gynnar yn ystod contract newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau.
Rwy’n disgwyl y darperir cerbydau newydd gwell yn gynnar yn y contract gwasanaethau rheilffyrdd newydd fel bod teithwyr yn cael y budd cyn gynted â phosibl a bod trenau’n gwbl hygyrch i bobl sydd â diffyg symudedd. Rwy’n disgwyl y cyflwynir gwelliannau i amser teithiau a gwelliannau i wasanaethau, gan gynnwys gwell gwasanaethau o'r gogledd i'r de i’r ddau gyfeiriad yn y bore a gyda'r nos gyda cherbydau o ansawdd gwell, a hefyd mwy o wasanaethau trên ar ddydd Sul ledled Cymru.
Ar ddiwedd y mis hwn, byddaf yn cyhoeddi crynodeb o ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a metro’r de-ddwyrain. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drosglwyddo'r pwerau perthnasol sydd eu hangen i gyflawni a chynnal gwasanaethau rheilffyrdd yn llwyddiannus yn y dyfodol. Tra bod hyn yn digwydd, rydym yn bwrw ymlaen â chaffael gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan gytundeb asiantaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru. Oherwydd natur draws-ffiniol gwasanaethau rheilffyrdd, bu cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill rhwng swyddogion, a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru, a Network Rail ynghylch trosglwyddo llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi cyfle inni i ofyn i'n cynigwyr gyflwyno datrysiadau rheilffyrdd arloesol a chost-effeithiol yn y rhanbarth.
Mae gwasanaeth rheilffyrdd dibynadwy o safon, sy'n rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Cymru, yn ganolog i'n gweledigaeth. Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y daflen ‘Symud Gogledd Cymru Ymlaen—Ein Gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru a Metro Gogledd Ddwyrain Cymru’. Bydd metro’r gogledd-ddwyrain yn rhan o raglen ehangach o foderneiddio trafnidiaeth ledled y gogledd sy'n cydnabod y cyfleoedd i sicrhau twf economaidd a lles y gellir eu gwireddu drwy wella cysylltedd i bob math o drafnidiaeth o fewn y rhanbarth ac ar draws ffiniau.
Mae gwaith effeithiol ar draws ffiniau yn hanfodol os ydym am ddenu buddsoddiad a sicrhau'r manteision mwyaf posibl, ac rydym yn ceisio canfod ystod o ymyriadau posibl ar gyfer y tymor byr, canolig, a hir, er mwyn sicrhau’r budd mwyaf o ran cysylltedd ar draws y ffin i mewn i Loegr, Iwerddon, a thu hwnt.
Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a dros y ffin i nodi a datblygu’r mentrau pellach hyn ac, yn enwedig, i wella integreiddiad trafnidiaeth ar draws pob dull, gan gynnwys tocynnau integredig.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei sylwadau ynglŷn â gwaith y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau. Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn derbyn, rwy’n gobeithio, pob un o'n hargymhellion.
Yn gyntaf, o ran y broses gaffael, mae eich llythyr dyddiedig 12 Gorffennaf ataf am y rhinweddau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyhoeddi’r fanyleb ddrafft lawn i Aelodau'r Cynulliad, yn nodi na fyddwch yn cyhoeddi’r manylebau drafft yn llawn. Fodd bynnag, nid ydych wedi ei gwneud yn glir yn eich llythyr nac yn eich datganiad heddiw a gaiff y fanyleb derfynol ei chyhoeddi, pryd gaiff ei chyhoeddi, pryd—. Gwnaf ddechrau hynny eto. Nid ydych wedi ei gwneud yn glir yn eich llythyr ataf fi nac yn eich datganiad heddiw a gaiff y fanyleb derfynol ei chyhoeddi pan gaiff ei rhoi i gynigwyr yn y cam caffael olaf, wedi i’r gwahoddiad i dendro gael ei gyhoeddi. Rydych wedi cadarnhau cyn hyn na fyddwch ychwaith yn cyhoeddi'r meini prawf gwerthuso yn llawn. Mewn tystiolaeth lafar ar 6 Ebrill, roedd yn ymddangos bod cyfarwyddwr trafnidiaeth Llywodraeth Cymru hefyd wedi dynodi na fyddai'r fanyleb derfynol yn cael ei gwneud yn gyhoeddus pan gaiff ei rhoi i gynigwyr, a’i fod yn hytrach wedi dweud y gallai Llywodraeth Cymru ystyried cyhoeddi'r fanyleb derfynol unwaith y bydd y contract wedi'i ddyfarnu y flwyddyn nesaf.
Nawr, rwy’n deall mai’r arfer caffael arferol yw bod yr awdurdodau cyhoeddus hynny sy’n caffael masnachfreintiau rheilffyrdd ym Mhrydain yn cyhoeddi'r fanyleb, a rhof enghraifft ichi, cafodd gwahoddiad i dendro’r Adran Drafnidiaeth ar gyfer masnachfraint East Anglia ei gyhoeddi’n llawn ym mis Medi 2015. Hefyd, cyhoeddodd Transport Scotland y gwahoddiad llawn i dendro ar gyfer masnachfraint ScotRail ym mis Ionawr 2014. Felly, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru’n dangos ymagwedd wahanol at gaffael ac yn symud oddi wrth, efallai, arferion sefydledig. Nid ydych wedi egluro’n ffurfiol pa un a bydd y fanyleb derfynol yn cael ei chyhoeddi ai peidio, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi hyn ar y cofnod heddiw a dweud yn benodol a gaiff y gwahoddiad i dendro, gan gynnwys y fanyleb derfynol, ei gyhoeddi pan gaiff ei roi i gynigwyr yr haf hwn. Ac, os na chaiff, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud pam ddim, ac ystyried bod gwahoddiadau i dendro a manylebau ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd Prydain fel rheol yn cael eu cyhoeddi ac yn aml yn destun craffu cyhoeddus unwaith y byddant wedi cael eu cyhoeddi.
Gwnaf ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bod hwn yn gontract yr amcangyfrifir ei fod yn werth dros £4 biliwn am y fasnachfraint ei hun a'r seilwaith metro. Hwn, wrth gwrs, yw’r mwyaf a ddyfarnwyd erioed gan Lywodraeth Cymru ac mae llawer iawn o ddiddordeb yn ei gynnwys. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â hynny. Felly, a ydych, gan hynny, yn cytuno â mi bod tryloywder mewn contract mor fawr er budd y cyhoedd, yn enwedig o ystyried y dystiolaeth gan randdeiliaid sy'n awgrymu bod y broses gaffael wedi bod yn afloyw o'r cychwyn cyntaf?
Hoffwn ofyn rhai cwestiynau byr am gerbydau. Rwy'n meddwl ei bod yn newyddion da bod Cymru’n mynd i gael y trenau dosbarth 319 newydd i'w defnyddio ar fasnachfraint Cymru a'r gororau o 2018 hyd 2021, ond a wnewch chi amlinellu, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaiff y pum uned eu cyflwyno ar yr un pryd ai peidio, faint o unedau a fydd yn cael eu cymryd allan o wasanaeth a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r DDA, ar ba ran o'r rhwydwaith fydd y trenau hyn yn gweithredu, a pha gapasiti ychwanegol a gaiff ei greu yn sgil y cerbydau newydd?
Yn olaf, Llywydd dros dro, rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cynnal hyder y cyhoedd bod y fasnachfraint newydd wedi'i chynllunio'n benodol i sicrhau gwerth i ddefnyddwyr rheilffyrdd yng Nghymru. Rwy’n gobeithio felly y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ateb fy nghwestiynau mewn ffordd sy'n dangos sut y bydd masnachfraint newydd Cymru a'r gororau’n gwarantu y gwireddir y galw cyhoeddus am wasanaeth rheilffyrdd sy'n cynnig prisiau teg a fforddiadwy, trenau newydd, trenau modern, rhwydwaith integredig a gwasanaeth mwy ecogyfeillgar.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i gwestiynau, a diolch iddo, unwaith eto, am gadeirio ymchwiliad y pwyllgor i'r fasnachfraint newydd? Roedd yn ddarn rhagorol o waith, yn adroddiad trylwyr a chynhwysfawr iawn. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb iddo yn llawn. Yn y cyfamser, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod yr argymhellion yn sicr yn cyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd gwell a mwy integredig, un sy'n integreiddio'n dda â theithio bws a theithio llesol.
Dylwn ddweud ar y dechrau, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac agored, ac i ddiogelu uniondeb y broses gaffael, na fydd bob amser yn bosibl rhyddhau manylion penodol am gaffael neu wneud sylwadau amdanynt, oherwydd byddai gwneud hynny’n rhoi Llywodraeth Cymru mewn perygl o her gyfreithiol. Nawr, mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig am y fanyleb ddrafft a’r fanyleb derfynol—darnau cymhleth dros ben o waith, anhygoel o gymhleth, ac mae angen inni sicrhau'r gwerth gorau i drethdalwyr a'r canlyniadau gorau posibl mewn proses gystadleuol. Am y rheswm hwnnw, mae angen cydbwyso tryloywder y broses â’r gwerth gorau a'r canlyniadau gorau. Felly, er na fyddwn yn cyhoeddi’r fanyleb, ac er bod ein dull deialog gystadleuol yn wahanol iawn i lawer sy'n cael eu mabwysiadu mewn ardaloedd eraill, fel y dywedais yn fy natganiad byddaf yn cyhoeddi crynodeb o ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau ac ar gyfer y metro hefyd.
O ran y cerbydau, roeddwn yn falch o allu cyhoeddi cerbydau ychwanegol. Caiff manylion yr union broses o gyflwyno pob cydran eu cyflwyno maes o law i Aelodau, ond fe’u defnyddir mewn ffordd sy'n ein galluogi i addasu rhannau eraill o'r catalog cerbydau’n briodol i bobl sydd ag anawsterau symud. Ac o ran y capasiti ychwanegol, cyflwynir hynny lle bynnag y bydd y capasiti presennol wedi’i ymestyn. Caiff ei ddefnyddio, felly, ar sail ymateb i'r galw.
Fel teithiwr rheilffordd rheolaidd a chymudwr, rwyf wedi cymryd diddordeb brwd yn y fasnachfraint nesaf ac rwy’n gwybod bod llawer o Aelodau eraill yn y Siambr yn yr un sefyllfa. Nawr, rydym yn gwybod, o ran pwy fydd yn cynnal masnachfraint Cymru a'r gororau, bod pedwar o gynigwyr o’r sector preifat wedi cyflwyno eu hunain. Mae diddordeb mewn gwladoli rheilffyrdd a pherchenogaeth gyhoeddus o bob cwr o farn y cyhoedd. Mae’r rheswm arferol pam mae pobl am i’r rheilffyrdd fod mewn dwylo cyhoeddus yn ymwneud ag elw’n diflannu o’r rhwydwaith, ac mewn llawer o achosion ddim hyd yn oed yn mynd i ddwylo preifat, ond i mewn i reilffyrdd gwladwriaethol gwledydd eraill—ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld yr eironi hwnnw.
Hyd yn oed yng Nghymru, lle mae elw ar reilffyrdd yn isel a chymorthdaliadau’n uchel, mae elw’n dal i adael rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a mynd i'r Almaen. Nawr, rydym yn gwybod ei bod yn ymddangos nad yw’r sefyllfa ddeddfwriaethol ar lefel y DU yn caniatáu i gynigwyr o’r sector cyhoeddus gystadlu am y masnachfreintiau hyn, ac mae Deddf Cymru 2017, a gefnogwyd gan y Blaid Lafur yma ond nid gan fy mhlaid i, yn parhau i wrthod perchenogaeth gan y sector cyhoeddus. Felly, rwyf am droi fy sylw at fodelau di-ddifidend neu ddielw. Rydych wedi ymrwymo dro ar ôl tro i’r rhain yn eich gwahanol faniffestos. A yw'n wir nad yw rheilffordd ddielw, yn unol â'ch maniffesto, yn digwydd ac na all hynny ddigwydd nawr o fewn y fasnachfraint nesaf?
I symud ymlaen at fater gorlenwi ac ansawdd y cerbydau, sylwais ar y cyhoeddiad a wnaethoch ddoe bod pum trên newydd yn cael eu darparu y flwyddyn nesaf—pump. Rydym yn gwybod mai’r broblem fwyaf gyda'r fasnachfraint bresennol yw y cafodd ei dyfarnu ar sail dim twf. Cafodd y camgymeriad hwnnw ei gydnabod gan Lywodraethau Cymru blaenorol, ond doedd dim llawer y gellid ei wneud yn ei gylch. Nawr mae'n rhaid inni osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gofalu bod gennym ffordd o ymdrin ag unrhyw heriau sy'n codi yn y dyfodol. Byddai cymal terfynu’n caniatáu inni adolygu’r fasnachfraint nesaf yn rheolaidd yn ystod cyfnod y contract. Byddai hefyd yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys Llywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol, yr opsiwn i fynd â’r rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus pe byddai’r ddeddfwriaeth yn newid a bod hynny’n dod yn gyfreithlon. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys cymal terfynu i alluogi hynny i ddigwydd?
Mae fy nghwestiwn olaf ynglŷn â thrydaneiddio, ac mae'n gysylltiedig â chyhoeddiad ddoe am gerbydau. Bydd trenau trydan, ar ba ffurf bynnag, yn darparu profiad glanach, gwyrddach a mwy cyfforddus i deithwyr. A yw trydaneiddio’n dal i fod ar y trywydd iawn yng Nghymru, ac a gaiff ei gyflwyno yn unol â'r amserlen?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am ei diddordeb brwd mewn trafnidiaeth rheilffyrdd ledled Cymru? Nes inni gael pwerau cywerth â'r Alban, mae’r Aelod yn iawn, ni fyddem yn gallu galluogi cyrff cyhoeddus i gynnal ein gwasanaethau rheilffyrdd. Ond gallaf ddweud wrthi bod y fasnachfraint newydd—rwy’n meddwl fy mod ar gofnod cyhoeddus yn dweud bod yr elw a gafodd ei ennill yn y cyfnod cyfredol wedi bod yn ormodol, ond byddant yn cael eu capio yn y fasnachfraint nesaf, a bydd cymhellion hefyd i’r partner gweithredwr sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu gwella, o ran ansawdd ac o ran rheoleidd-dra gwasanaethau.
O ran Trafnidiaeth Cymru, sefydlwyd hwn gan Lywodraeth Cymru fel cwmni dielw i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Nawr, er bod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn dylunio ac yn ymgymryd â'r broses gaffael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r gororau a'r metro, ar ran Llywodraeth Cymru, cyn gynted ag y caiff y fasnachfraint ei gosod, Trafnidiaeth Cymru fydd yn goruchwylio prosesau rheoli ac uno gwasanaethau, fel marchnata a thocynnau integredig, a allai, unwaith eto, gael ei ddarparu ar sail egwyddorion dielw. Ond dros amser y dyhead yw sicrhau’r pwerau angenrheidiol a fyddai'n galluogi Trafnidiaeth Cymru i ymgymryd ag ystod lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn wir yn debyg o ran natur i weithrediadau Transport for London, a'r ffordd y maen nhw’n rheoli’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ym mhrifddinas y DU.
Mae’r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud bod y fasnachfraint a fabwysiadwyd gennym yn simsan ar y gorau, ac nad yw heddiw’n addas i'r diben. Roedd yn seiliedig ar dybiaeth o ddim twf ar adeg pan oedd llawer o arbenigwyr yn rhagweld lleihau nifer y teithwyr ar wasanaethau rheilffyrdd. Mae hynny wedi profi i fod yn gwbl anghywir. Dros gyfnod y fasnachfraint nesaf rydym yn disgwyl i nifer y teithwyr gynyddu 74 y cant, ac mae'n hanfodol, fel rhan o'r broses fasnachfraint, i allu dangos sut y bydd cynigwyr yn ymdrin â'r cynnydd yn nifer y teithwyr. Ond bydd yna gymalau terfynu a fyddai'n galluogi'r Llywodraeth i adolygu gweithrediad effeithiol y fasnachfraint ac a fyddai'n rhoi cyfleoedd rheolaidd i’r Llywodraeth asesu llwyddiant enillydd y broses gynnig yn y pen draw.
O ran trydaneiddio, rydym wedi bod yn glir iawn bod rhaid darparu trydaneiddio mewn ffordd amserol i Gaerdydd a bod rhaid iddo ymestyn ar draws i Abertawe, fel y cytunwyd. Ydy, mae'n golygu cost sylweddol, ond y ffaith amdani yw, yn ystod y cyfnod rheoli presennol, bod Cymru wedi gwneud yn anhygoel o wael o ran y swm sydd wedi’i wario ar ardal masnachfraint Cymru Network Rail. Dim ond tuag 1 y cant o fuddsoddiad y DU sydd wedi’i wario ar y rhwydwaith yn ardal masnachfraint Cymru a’r gororau—mae hynny’n gwbl annigonol o ystyried bod y fasnachfraint oddeutu 6 y cant o rwydwaith y DU. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y broses o foderneiddio rheilffordd y de’n parhau drwodd i Abertawe. Yn wir, mae'n hanfodol ein bod yn cael ein cyfran deg o fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd, ac os nad yw hynny'n bosibl, dylid ei ddatganoli inni gyda setliad ariannu teg. Mae hefyd yn werth dweud, rwy’n meddwl, bod moderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac yn arbennig o ran, unwaith eto, trydaneiddio, yn hanfodol o ran cyflawni ein hamcanion i leihau ein hôl troed carbon. O ran yr agenda datgarboneiddio, os na all Llywodraeth y DU foderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd drwy dde Cymru i gyd, bydd hynny’n cael effaith fawr ar ein hamcanion carbon, a byddai hynny'n rhywbeth na fyddem yn fodlon ag ef o gwbl.
Mae hefyd yn hanfodol, pe byddai Llywodraeth y DU yn penderfynu na fyddai trydaneiddio’n parhau drwodd i Abertawe, bod rhaid i’r arian, yn ein barn ni, ddal i ddod i Gymru. Ni ddylid ei wario yn rhywle heblaw Cymru. Fel y dywedais, os nad yw Llywodraeth y DU yn credu y dylent drydaneiddio’r rheilffordd honno, neu foderneiddio'r rhwydwaith cyfan, rhowch y pwerau a'r adnoddau i ni ac fe wnawn ni hynny.
Mae gan lawer o fy etholwyr ddiddordeb mawr yn natblygiad y metro a dyfarnu’r fasnachfraint newydd, ac maent wedi mynychu cryn dipyn o gyfarfodydd sydd wedi cynnwys trafod y manylebau ac ymgynghoriadau eraill a gynhaliwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Roeddent yn gobeithio gweld y ddogfen fanyleb yn gyhoeddus, ac rwy’n nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud yn gynharach na fyddai'n cyhoeddi'r ddogfen fanyleb, ond crynodeb o'r gofynion. Felly, maent wedi gofyn imi roi eu safbwynt, sef eu bod wir yn teimlo y dylent weld bod cymaint â phosibl yn cael ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd, yn amlwg, nid ydynt yn disgwyl gweld dim byd sy’n sensitif yn fasnachol, ond maent yn disgwyl gweld manylebau cynnig a meini prawf clir iawn yn y parth cyhoeddus, gan ei fod o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd imi am faint fydd ar gael i’r cyhoedd. Hefyd, rwy’n meddwl mai un o’r argymhellion gan y pwyllgor busnes oedd y dylid bod disgrifiad sy’n addas ar gyfer teithwyr, gan fod hyn yn ffordd unigryw o gaffael, ac rwy'n meddwl yn ôl pob tebyg mai dyma’r tro cyntaf iddo gael ei wneud yn y DU. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn wir yn amlwg bod y ffaith ei bod yn unigryw, nad yw'n symud mewn unrhyw ffordd oddi wrth fod yn agored ac yn dryloyw—. Felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i hynny.
Yna y mater arall yw fy mod wir yn croesawu'r arian ar gyfer y cerbydau newydd, y trenau newydd, a gyhoeddwyd ddoe. Nodaf fod Arriva wedi cyfrannu £1 filiwn, sydd i'w groesawu'n fawr o ystyried y ffaith y bydd proses o gynnig am y fasnachfraint yn fuan iawn. Hoffwn sicrwydd y bydd y trenau hynny’n parhau i fod ar gael i bwy bynnag sy'n ennill y fasnachfraint newydd.
A gaf i gymryd y pwynt olaf yn gyntaf? Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y cerbydau ar gael fel y bydd teithwyr, cyn gynted ag y bo modd yn y fasnachfraint newydd, yn gallu profi gwelliannau o ran ansawdd y trenau sy’n eu cludo. O ran y fanyleb, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y gofynion, pan gânt eu cyhoeddi fel dogfen gryno, mor llawn ac mor hygyrch i deithwyr ag y bo modd. Mae’r Aelod wedi cynrychioli ei hetholwyr yn gyson ag angerdd a phenderfyniad dros drafnidiaeth rheilffyrdd a metro’r de yn benodol, a byddwn yn edrych ymlaen at gyfathrebu ymhellach gyda hi yn seiliedig ar ei hymgysylltiad â’i hetholwyr. Rwy'n meddwl ei bod yn werth dweud eto bod Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi'r ymateb i'w hymgynghoriad diweddaraf heddiw, ac rwy'n meddwl y bydd hwnnw'n ddefnyddiol i dynnu sylw at y meysydd hynny sydd wedi peri’r pryder mwyaf i deithwyr ledled Cymru, ac y bydd hynny wedyn, pan gaiff y ddogfen i grynhoi’r gofynion ei chyhoeddi—eu bod yn cyd-fynd yn dda iawn. Mae dau ymgynghoriad wedi digwydd yn ystod y broses hon. Maent wedi denu nifer sylweddol o ymatebion o bob cwr o Gymru, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd gwaith yr Aelod ac eraill yn y Siambr hon o hyrwyddo pwysigrwydd y fasnachfraint nesaf a datblygiad metro’r de-ddwyrain.
Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’n croesawu'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet o'r arian i ychwanegu cerbydau newydd, yn enwedig gan ein bod wedi clywed sawl gwaith yn ein hymholiadau am broblemau â phrinder cerbydau addas. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae rheilffyrdd canol y Cymoedd yn rhan hanfodol o'r jig-so a fydd yn gwneud metro’r de. Felly, a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw ymrwymiad cadarn i'r math o gerbydau ar gyfer y rheilffyrdd hyn, yn enwedig o ran a fyddant yn cynnwys opsiynau rheilffordd ysgafn? Oherwydd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod, ni ellir cludo nwyddau ar reilffordd ysgafn. Felly, a all roi ymrwymiad inni y bydd cludo nwyddau’n dal i fod yn rhan o'r strategaeth rheilffordd ar gyfer rheilffyrdd craidd y Cymoedd, a hefyd, wrth gwrs, ar gyfer y rheilffyrdd eraill?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud, o ran rheilffyrdd craidd y Cymoedd, ei bod yn gwbl hanfodol cael gwasanaethau mor aml ag y bo modd, ac nid yn unig yn aml, ond hefyd yn ddibynadwy? Rydym yn agnostig i foddau yn ystod y broses hon, ond yr hyn yr ydym wedi ei ddweud wrth y cynigwyr yw ein bod yn disgwyl i’r drafnidiaeth a ddarperir o fewn ardal y metro fod yn gwbl integredig, a byddem yn disgwyl i ba bynnag ddatrysiadau a defnyddir fod yn ddibynadwy a bodloni’r niferoedd mwy o deithwyr sy'n cael eu rhagweld, ac y cydnabyddir gan fwyaf nawr, rwy’n meddwl, eu bod yn gywir.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad heddiw. A gaf i ddechrau drwy groesawu cyhoeddiad ddoe, ynghyd â’m cydweithwyr, am y cerbydau ychwanegol i gynyddu capasiti? Fel llawer o’m cydweithwyr yma, rwy'n siŵr, roedd fy mewnflwch yn llawn o ohebiaeth gan etholwyr am gyfyngiadau ein cerbydau presennol, yn enwedig pan fyddwch yn teithio o'r gogledd i'r de neu i'r gwrthwyneb, naill ai ar drên un cerbyd neu ar drên dau gerbyd gorlawn. Rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn gyfarwydd â'r profiad hwnnw. Yn wir, yn eich datganiad heddiw rydych yn sôn am well gwasanaethau rhwng y gogledd a’r de i’r ddau gyfeiriad yn y bore a gyda'r nos, ac am gerbydau o well ansawdd fel rhan o hynny, ac am sut y bydd yr ymarfer caffael yn chwilio am wasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol, ac yn edrych ar welliannau sy'n cynnwys pethau fel ei wneud yn deithio modern mewn gwirionedd—felly, darparu pwyntiau gwefru. Er ei bod yn wych gweld y Wi-Fi ar lawer o drenau Arriva, ac mae wedi chwyldroi fy mhrofiad ar y trên, rwy’n meddwl y byddai’n eithaf braf pe gallech blygio i mewn eich iPad, gan fod Wi-Fi nawr ar gael iddo, a’i wefru tra ar y daith. Rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n cael ei gyflwyno ar yr holl gerbydau yn y dyfodol.
Er bod gwelliannau rhwng y gogledd a'r de yn allweddol, rwy’n meddwl, fel y byddwch yn ei wybod, bod cysylltiadau o'r dwyrain i'r gorllewin ac i'r gwrthwyneb yn hanfodol i economi gogledd-ddwyrain Cymru. Roeddwn yn falch o weld y gwaith yn dechrau o'r diwedd ar dro Halton yr wythnos yma. Tybed a allech ymhelaethu ar yr hyn a ddywedwch yn eich datganiad am y cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, ond hefyd, yn wir, pa waith y mae Trafnidiaeth Cymru wedi ei wneud ac yn mynd i’w wneud o ran gweithio gyda’r gweithredwyr hynny dros y ffin yng ngogledd-orllewin Lloegr, fel Merseytravel, i wneud yn siŵr bod gennym wasanaeth gwirioneddol gydgysylltiedig ar draws y ffin yn y gogledd.
Dim ond un peth olaf. Rydych yn dweud yn y datganiad
‘Bydd metro’r gogledd-ddwyrain yn rhan o raglen ehangach o foderneiddio trafnidiaeth ledled y gogledd sy'n cydnabod y cyfleoedd i sicrhau twf economaidd a lles y gellir eu gwireddu â gwell cysylltedd ar gyfer pob math o drafnidiaeth yn y rhanbarth ac ar draws ffiniau.’
Mae hynny’n gwbl allweddol i etholaeth fel fy un i, lle dim ond un orsaf prif linell sydd ar hyn o bryd, felly mae cynnwys bysiau, a gwneud hynny’n gydgysylltiedig, wir yn hanfodol. Hefyd, er fy mod yn croesawu cyhoeddi gorsafoedd ychwanegol ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a fydd yn allweddol i fy etholwyr yn y gorllewin i gyrraedd y gwaith—rwy’n gwybod ein bod wedi gwneud y cyhoeddiadau hynny’n ddiweddar, ond, efallai, yn y dyfodol y gellid rhoi ystyriaeth bellach i’r posibilrwydd o orsafoedd ychwanegol ar y rheilffordd honno, efallai yn Greenfield, a fyddai nid yn unig yn cysylltu pobl sy'n mynd i weithio o orllewin Sir y Fflint i'r dwyrain, ond hefyd yn fodd i gysylltu â'r bysiau i, efallai, adfywio tref Treffynnon, a gallai hefyd ddarparu cysylltiadau da â dociau Mostyn, lle yr wyf yn teimlo ei fod yn ymgorffori’r cysylltiad rhwng egni gorllewin gogledd Cymru a gweithgynhyrchu uwch y dwyrain.
Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau, yn benodol am y pwynt pwysig a gododd am gydweithio traws-ffiniol o ran teithio ar y trên. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r prosbectws Trac Twf 360, sydd wedi cael ei roi at ei gilydd gan y tasglu rheilffyrdd trawsffiniol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gymru yn ogystal ag o ardal partneriaeth menter lleol Swydd Gaer a Warrington a Glannau Mersi. Rwy'n meddwl ei bod yn hanfodol, wrth ddatblygu cynnig cytundeb twf i ogledd Cymru, ac, yn yr un modd, cytundebau twf ar ochr Lloegr, bod uchelgeisiau prosbectws y Trac Twf 360 yn cael eu cynnwys yn y gofynion a wneir i Lywodraeth y DU yn arbennig i sicrhau bod y gwelliannau i'r seilwaith ar ochr Lloegr i'r ffin yn cyd-fynd yn dda â gwelliannau ar ochr Cymru i'r ffin hefyd.
Rwy'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig, wrth inni ddatblygu'r weledigaeth ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain, ein bod yn ystyried y cymunedau hynny nad ydynt ar hyn o bryd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith rheilffyrdd na’r rhwydwaith bysiau. Mae'r Aelod yn sôn am ddwy gymuned benodol: un yw Mostyn, lle ceir porthladd sy'n tyfu ac yn ehangu, a’r llall yw Greenfield, cymuned hanesyddol sy'n gartref i nifer sylweddol o bobl. Byddai'r ddwy mewn sefyllfa well â system metro integredig lle mae gwasanaethau bysiau dibynadwy a mynych yn gweithio gyda gwasanaethau rheilffyrdd sydd, unwaith eto, yn fwy mynych ar draws prif reilffordd y gogledd.
Mae’r Aelod hefyd yn iawn pan ddywed bod rhaid i ansawdd profiad y teithwyr fod yn ddigon da i annog mwy o bobl i deithio’n fwy rheolaidd ar y trên yn hytrach na bod yn ataliad—mae hynny hefyd yn wir am wasanaethau bysiau. Rydym wedi gweld buddsoddiad da mewn bysiau yn ddiweddar. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi Trenau Arriva Cymru yn y cyhoeddiad ddoe, ond rydym yn credu, yn y fasnachfraint nesaf, na ddylai disgwyliadau teithwyr o fasnachfraint Cymru a'r gororau fod yn ddim llai na’r disgwyliadau a fyddai gennych yn unman arall yng ngorllewin Ewrop. Dyna pam yr ydym yn gofyn i'r cynigwyr fod mor uchelgeisiol ag sy'n bosibl o ran sicrhau bod y cerbydau o'r safon uchaf ac yn cynnig yr holl dechnoleg fodern a chysuron i deithwyr.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe am ddefnydd arian o’r pwrs cyhoeddus i helpu i sicrhau cerbydau trên newydd i gledrau Cymru, sut fedrwn ni fagu unrhyw hyder y gall Llywodraeth Cymru gaffael masnachfraint gwerth chweil i Gymru tra bod y trenau newydd hyn a gyhoeddwyd ddoe mewn gwirionedd yn cyfateb i ychwanegiad o ychydig o drenau ail-law o’r 1980au, ac felly ond yn ychwanegiad i’r stoc reilffordd anaddas o’r oes o’r blaen sy’n bla yng Nghymru nawr? Mae gennym ni staff iau na’r rhain.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn. Ond rwy'n meddwl bod y sail ychydig yn anghywir. Y rheswm pam yr ydym wedi ymyrryd i gefnogi'r rhwydwaith rheilffyrdd ar hyn o bryd yw oherwydd y tanariannu hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith y rhwydwaith rheilffyrdd, a hefyd oherwydd bod y cytundeb masnachfraint a ffurfiwyd dros ddegawd yn ôl wedi’i lunio mor wael. Caiff y fasnachfraint newydd ei chynllunio i ymdrin â’r niferoedd teithwyr sy’n cynyddu—rydym yn disgwyl iddynt gynyddu dros 70 y cant—ac yna, o ganlyniad, rydym yn disgwyl gweld mwy o drenau'n gweithredu ac rydym yn disgwyl gweld trenau o ansawdd gwell yn cael eu defnyddio cyn gynted â phosibl yn y fasnachfraint nesaf. Rydym wedi ymyrryd o ddyletswydd i deithwyr a ddylai gael eu rhoi’n gyntaf gan y gweithredwr nesaf a gan y gweithredwr hwn, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu budd teithwyr dros elw a sicrhau bod y profiad o deithio ar drenau Cymru’n cael ei wella.
Mae gen i nifer o siaradwyr sydd am gael eu galw, felly os gall unigolion gyrraedd eu cwestiynau, efallai y gallaf gwblhau’r rhestr, ac os gall Gweinidogion fod yn gryno hefyd. Jenny Rathbone.
Diolch, Llywydd dros dro. Tri phwynt. Un: rwy'n falch iawn o weld eich bod yn mynd i roi targedau lleihau carbon yn eich proses gaffael. Mae hynny’n cyd-fynd â chynyddu cefnogaeth i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, y sonnir amdano yn yr arolwg WWF a gyhoeddwyd heddiw, 'Neges mewn Potel'. Mae hynny'n golygu bod angen gwneud pethau’n haws i bobl i allu cwblhau eu teithiau ar y metro. Felly, hoffwn wneud ple am orsafoedd yng Nghaerdydd fel rhan o'r metro, felly os ydych am ail-leoli eich busnes i Bontypridd, does dim rhaid ichi fynd yn ôl i mewn i Gaerdydd Canolog neu Heol y Frenhines er mwyn mynd i Bontypridd; gallwch fynd o ble bynnag rydych chi'n byw. Ac, fel y dywedodd Julie Morgan, dydy’r cyhoedd ddim wedi cael llawer iawn o gyfleoedd i ymgysylltu, ond rwy’n meddwl bod hynny’n un o'r pethau sy'n cael ei fynegi’n gwbl glir gan fy etholwyr—bod rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bobl lle maent yn byw ac yn sicrhau bod dewisiadau eraill ar gael yn hytrach na theithio mewn car modur.
Yr ail bwynt sy’n fy nrysu i ychydig—. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod wedi prynu’r cerbydau newydd hyn a gyhoeddwyd ddoe, ond roeddwn yn meddwl tybed pwy sy'n berchen ar y trenau hyn, oherwydd roeddwn yn meddwl mai holl bwrpas y masnachfreintiau oedd mai nhw oedd yn gwneud y buddsoddiad. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth y DU wedi gwneud smonach llwyr wrth benderfynu na fyddai yna ddim twf yng Nghymru, sydd braidd yn nodweddiadol o’u hagwedd tuag at Gymru, a'r diffyg buddsoddiad anffodus yr ydym wedi’i gael—felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny ychydig.
Rwy'n meddwl mai’r peth arall sy'n fy mhryderu yw'r diffyg cynnydd parhaus ar ddatganoli pwerau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i allu caffael y fasnachfraint rheilffyrdd a'r metro. Rwyf ar ddeall o adroddiad y pwyllgor economi bod ansicrwydd hyd yn oed dros y £125 miliwn hwn y mae Llywodraeth y DU, yn ôl y sôn, yn ei addo. A ydynt yn dal i fynnu ein bod yn mynd drwy boen trydaneiddio llawn a ninnau wedi gweld yn union pa mor hir y mae wedi’i gymryd ar reilffordd Llundain i Gaerdydd? Mae llawer o ffyrdd eraill y gallem wneud hyn sy’n cyd-fynd yn llawer gwell â thechnolegau modern, gan gynnwys batri a gan gynnwys pŵer hydrogen. Nid oes angen inni drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn llawn er mwyn cyflawni'r hyn yr ydym am ei gyflawni. Ond mae'n debyg ei fod yn arwydd o’r diffyg buddsoddiad hirsefydlog yn y system reilffyrdd yng Nghymru bod adeilad, yn anffodus, wedi cwympo ar y llinell y prynhawn yma, a bod rheilffordd Caerdydd i Gasnewydd wedi’i chau’n llwyr. Gwelais yr adeilad hwn wrth imi fynd heibio ddoe ac roeddwn yn meddwl ei fod yn edrych ychydig yn amheus, ond rwy'n falch na wnaeth gwympo wrth imi fynd heibio. Ond mae'n debyg ei fod yn arwydd o’r angen am fuddsoddiad go iawn yng Nghymru, a’r siom nad ydym yn mynd i gael dim symiau canlyniadol Barnett o’r cyhoeddiad HS2.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Gwnaf geisio bod mor gryno â phosibl, ond mae'r Aelod yn llygad ei lle i ddweud bod rhaid bod targedau lleihau carbon yn ymestyn, a bydd hynny’n digwydd drwy gydol y fasnachfraint. Mae'n hanfodol bod y metro yn galluogi, fel yr amlinellodd yr Aelod, cymunedau i fod yn fwy cysylltiedig fel y gall pobl deithio mor gyflym a di-dor â phosibl rhwng eu cartrefi, eu mannau gwaith a gwasanaethau. Mae hefyd yn bwysig bod gwasanaethau’n ddeniadol ac yn gyfleus am yr un rhesymau ag a roddais i Aelodau eraill.
Rydym yn gwneud cynnydd da, o ran yr ymarfer caffael, wrth ymwneud â'r Adran Drafnidiaeth, yn enwedig yn y tri maes allweddol hynny sydd wedi peri pryder i swyddogion: amser, yn bennaf oll, gan gynnwys trosglwyddo asedau rheilffyrdd craidd y Cymoedd; cyllid priodol; a’r Gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau, y cytundeb asiantaeth. Maent i gyd yn gwneud cynnydd da, gan gynnwys y cwestiwn o ariannu a'r £125 miliwn yr ydym wedi cael sicrwydd y bydd ar gael ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd. O ran yr opsiynau, soniodd yr Aelod am ddau ddatrysiad arloesol fel dewisiadau amgen yn lle rheilffyrdd confensiynol—un oedd hydrogen a'r llall oedd batri—mae’r cynigwyr yn cael eu hannog i ddatblygu opsiynau sy'n arloesol ac sy’n gweddu i anghenion teithwyr yn anad dim arall. Unwaith eto, o ran y cerbydau, byddant ar gael ar ddechrau'r fasnachfraint nesaf. Mae'n gwbl hanfodol bod gan deithwyr ffydd yn y gweithredwr masnachfraint newydd ac, felly, bydd yn bwysig defnyddio cerbydau newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i’r fasnachfraint gael ei dyfarnu a dechrau gweithredu.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich datganiad heddiw ac yn enwedig y sylwadau a wnaethoch am wasanaethau dydd Sul. Mae hwn yn fater pwysig iawn i fy etholwyr, sydd ar hyn o bryd yn wynebu gwasanaethau dim ond unwaith bob dwy awr ar y cyswllt rheilffordd drwodd i Aberdâr. Byddwn yn croesawu unrhyw fanylion pellach y gallech eu rhoi am ddarparu gwasanaethau dydd Sul. Nid ydym yn byw yn yr 1870au yng Nghymru mwyach, lle’r oedd pobl yn mynd i'r capel ar fore Sul, ac yna roedd gweddill y dydd yn ddiwrnod o orffwys. Rwy’n ymdrin â gwaith achos gan etholwyr sy'n methu â manteisio ar gyfleoedd gwaith ar hyn o bryd oherwydd y diffyg gwasanaethau rheilffyrdd ar y Sul.
Yn ogystal â hynny, hoffwn ddweud, drwy edrych ar gaffael y metro drwy lens y fasnachfraint rheilffyrdd yn unig, rwy’n meddwl weithiau ein bod yn colli'r cyfle i drafod pwysigrwydd y ddarpariaeth bysiau’n iawn. Felly, byddwn yn croesawu rhagor o fanylion am hynny hefyd. Yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar godi safonau byw ein cymunedau yn y Cymoedd, yr ardaloedd hynny sydd bellaf o'r farchnad swyddi â’r lefelau uchaf o dlodi fel arfer yw’r ardaloedd hynny sydd bellaf yn ddaearyddol o'r rhwydwaith rheilffyrdd eu hunain. Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd darpariaeth bysiau’r metro yno.
Unwaith eto, dim ond i orffen, os caf gysylltu â’r hyn a ddywedais yn gynharach am wasanaethau dydd Sul, mae llawer iawn o gymunedau yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr ledled Cymoedd y de, lle nad oes dim gwasanaethau bws ar ddydd Sul. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol o ran trenau a bysiau ein bod yn ceisio sicrhau’r agwedd honno ar wasanaethau Sul. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiynau, nid yn unig heddiw, ond y cwestiynau y mae hi wedi eu gofyn droeon wrth inni geisio datblygu cytundeb masnachfraint sy'n fwy addas i anghenion ei hetholwyr hi a phobl ledled Cymru. Mae’r Aelod yn llygad ei lle: mae natur gwaith a'r ffordd o fyw wedi newid yng Nghymru a ledled y byd yn y degawdau diwethaf, i'r fath raddau nes y dylem nawr ddisgwyl bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar ddiwrnodau’r penwythnos yn llawer, llawer gwell nag yr oeddent yn yr 1980au a'r 1990au ac yn rhai rhannau o'r byd hyd yn oed heddiw. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd gwell gwasanaethau ar y Sul, nid yn unig o ran gwasanaethau rheilffyrdd o dan y fasnachfraint newydd, ond hefyd gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud ochr yn ochr â hynny i ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
Bydd yr Aelod yn gwybod y bu ymgynghoriad diweddar lle amlinellwyd nifer o argymhellion. Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn iach. Rydym bellach yn gweithio drwy’r ymatebion hynny. Yn fy marn i, nid yw gwasanaethau bws, ers dadreoleiddio, wedi gwasanaethu’r diben o sicrhau y gall pobl fynd yn ôl ac ymlaen i wasanaethau ac i’r gwaith, yn gyflym ac yn llyfn, y tu hwnt i gymhellion elw gweithredwyr. Rydym yn gweld tua 100 miliwn o deithiau teithwyr yn digwydd ar fysiau bob blwyddyn, ac eto rydym ni, fel gwasanaeth cyhoeddus cyfunol—Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol—yn gwario dros £200 miliwn ar wasanaethau bws lleol bob blwyddyn. Felly, mae'n amlwg y dylem ddisgwyl gwell darpariaeth bysiau ledled Cymru a darpariaeth sy'n fwy cydnaws ag anghenion teithwyr.
O ran gallu pobl i fynd i’r gwaith ac yn ôl, mae'n ffaith eithaf rhyfeddol, yn ardal Trac Twf 360 o Brydain, bod tua chwarter o'r holl bobl sy’n cael cyfweliad am swydd yn gwrthod mynd ar y sail syml na allant gael trafnidiaeth i gyrraedd eu cyfweliad am swydd. Dyna ystadegyn brawychus. Gall teithio ar fws fod yn un o'r galluogwyr mwyaf o ran symud pobl allan o ddiweithdra ac i'r gweithle, sydd, yn ei dro, yn un o'r prif ddulliau o ddileu tlodi.
Ac yn olaf, Hefin David.
Diolch, Gadeirydd. Rwy'n siŵr yr hoffai’r Siambr gyfan gydnabod yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd gyda chwymp yr adeilad yn Sblot a chau’r llinell o Gaerdydd i Gasnewydd, ac anfon dymuniadau gorau i'r gwasanaethau brys a'r unigolyn a anafwyd.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod y pwyllgor economi, yn eu hymchwiliad, wedi gofyn—. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU yn 2011 am fwy o gerbydau diesel a’r ateb a ddaeth yn blwmp ac yn blaen oedd na allent eu cael oherwydd trydaneiddio’r rheilffyrdd, sydd wedi ein harwain yn rhannol at y broblem hon heddiw. Felly, cymerodd Llywodraeth Cymru gamau amserol.
Ond, hoffwn roi mwy o sylw i ddau gwestiwn a ofynnodd Russell George a gofyn am ychydig bach mwy o fanylion. Mae'r cerbydau ychwanegol yn bump gwaith pedwar, sy'n cael ei hysbysebu fel 20 o drenau ychwanegol. Sut y gallant rannu, ac a ellir eu rhannu mewn ffordd a fydd yn sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl? Ynteu a oes rhaid eu defnyddio mewn blociau o bedwar? Mae rheilffordd Rhymni i Gaerdydd yn daer eisiau trenau ychwanegol ar adegau prysur, a byddai dim ond dau o'r trenau hynny, er enghraifft, yn ddefnyddiol ar y rheilffyrdd hynny, ond byddai rhagor o wybodaeth am sut y gallant rannu yn ddefnyddiol iawn. Yn ei ddatganiad dywedodd y bydd y cerbydau newydd yn caniatáu datblygu cerbydau presennol ar gyfer pobl sydd ddim yn symud cystal. A all roi rhagor o wybodaeth inni am sut yn union y caniateir hynny?
Gallaf, wrth gwrs. Fe wnaf edrych ar sut yn union y gellir ffurfweddu’r cerbydau. Maent yn cael eu cyflwyno fel pum trên pedwar cerbyd, ond fy nealltwriaeth i yw bod modd eu hisrannu a’u hymestyn neu eu byrhau fel y bo'n briodol, ond holaf am hynny ac ysgrifennaf at yr Aelodau. O ran sut y gellir eu defnyddio wedyn i sicrhau bod cerbydau eraill yn cydymffurfio, wel, yn y bôn, gallant gymryd lle—. Gellir cymryd rhai cerbydau oddi ar y rheilffordd i wneud gwaith arnynt i sicrhau eu bod yn cydymffurfio o ran symudedd. Felly, nid unig ddiben y cerbydau ychwanegol fydd gwasanaethu’r diben o gynyddu capasiti lle mae capasiti wedi’i ymestyn ar hyn o bryd; byddant hefyd yn cael eu defnyddio i gymryd lle’r cerbydau sy'n cael eu cymryd oddi ar y rheilffordd er mwyn i’r gwaith gael ei wneud.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.