Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd dros dro. Tri phwynt. Un: rwy'n falch iawn o weld eich bod yn mynd i roi targedau lleihau carbon yn eich proses gaffael. Mae hynny’n cyd-fynd â chynyddu cefnogaeth i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, y sonnir amdano yn yr arolwg WWF a gyhoeddwyd heddiw, 'Neges mewn Potel'. Mae hynny'n golygu bod angen gwneud pethau’n haws i bobl i allu cwblhau eu teithiau ar y metro. Felly, hoffwn wneud ple am orsafoedd yng Nghaerdydd fel rhan o'r metro, felly os ydych am ail-leoli eich busnes i Bontypridd, does dim rhaid ichi fynd yn ôl i mewn i Gaerdydd Canolog neu Heol y Frenhines er mwyn mynd i Bontypridd; gallwch fynd o ble bynnag rydych chi'n byw. Ac, fel y dywedodd Julie Morgan, dydy’r cyhoedd ddim wedi cael llawer iawn o gyfleoedd i ymgysylltu, ond rwy’n meddwl bod hynny’n un o'r pethau sy'n cael ei fynegi’n gwbl glir gan fy etholwyr—bod rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio i bobl lle maent yn byw ac yn sicrhau bod dewisiadau eraill ar gael yn hytrach na theithio mewn car modur.
Yr ail bwynt sy’n fy nrysu i ychydig—. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod wedi prynu’r cerbydau newydd hyn a gyhoeddwyd ddoe, ond roeddwn yn meddwl tybed pwy sy'n berchen ar y trenau hyn, oherwydd roeddwn yn meddwl mai holl bwrpas y masnachfreintiau oedd mai nhw oedd yn gwneud y buddsoddiad. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi bod Llywodraeth y DU wedi gwneud smonach llwyr wrth benderfynu na fyddai yna ddim twf yng Nghymru, sydd braidd yn nodweddiadol o’u hagwedd tuag at Gymru, a'r diffyg buddsoddiad anffodus yr ydym wedi’i gael—felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny ychydig.
Rwy'n meddwl mai’r peth arall sy'n fy mhryderu yw'r diffyg cynnydd parhaus ar ddatganoli pwerau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i allu caffael y fasnachfraint rheilffyrdd a'r metro. Rwyf ar ddeall o adroddiad y pwyllgor economi bod ansicrwydd hyd yn oed dros y £125 miliwn hwn y mae Llywodraeth y DU, yn ôl y sôn, yn ei addo. A ydynt yn dal i fynnu ein bod yn mynd drwy boen trydaneiddio llawn a ninnau wedi gweld yn union pa mor hir y mae wedi’i gymryd ar reilffordd Llundain i Gaerdydd? Mae llawer o ffyrdd eraill y gallem wneud hyn sy’n cyd-fynd yn llawer gwell â thechnolegau modern, gan gynnwys batri a gan gynnwys pŵer hydrogen. Nid oes angen inni drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn llawn er mwyn cyflawni'r hyn yr ydym am ei gyflawni. Ond mae'n debyg ei fod yn arwydd o’r diffyg buddsoddiad hirsefydlog yn y system reilffyrdd yng Nghymru bod adeilad, yn anffodus, wedi cwympo ar y llinell y prynhawn yma, a bod rheilffordd Caerdydd i Gasnewydd wedi’i chau’n llwyr. Gwelais yr adeilad hwn wrth imi fynd heibio ddoe ac roeddwn yn meddwl ei fod yn edrych ychydig yn amheus, ond rwy'n falch na wnaeth gwympo wrth imi fynd heibio. Ond mae'n debyg ei fod yn arwydd o’r angen am fuddsoddiad go iawn yng Nghymru, a’r siom nad ydym yn mynd i gael dim symiau canlyniadol Barnett o’r cyhoeddiad HS2.