Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i'r Aelod am hynna. Rwyf yn credu ei bod hi’n briodol i ganiatáu hyblygrwydd i awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd y mae craffu yn gweithio orau yn eu hamgylchiadau eu hunain, ac i gynllunio trefniadau craffu ar gyfer trefniadau rhanbarthol sy'n cyd-fynd â'r ffordd y maen nhw’n cyflawni agweddau eraill ar eu cyfrifoldebau. Rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedodd Hefin David am y ffaith fod craffu wedi gwella yn ddiweddar. Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar—adroddiad annibynnol—a oedd yn edrych ar bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban, a Chymru oedd yr unig ran o Brydain lle yr adroddodd y rhai a oedd ymwneud â chraffu eu bod yn credu bod y system wedi gwella, a'u bod erbyn hyn yn well am graffu nag oedden nhw yn y gorffennol. Mae rhan o hynny o ganlyniad i gyngor a buddsoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i gymryd eu cyngor. Dywedais yn fy natganiad agoriadol, Llywydd, fy mod i’n awyddus i roi cymaint o gyfle â phosib, cyn cyflwyno’r Bil, i weithio gydag awdurdodau lleol eu hunain a phartneriaid, megis Swyddfa Archwilio Cymru, ar rai o fanylion y Bil cyn ei gyflwyno, a bydd gwaith craffu yn sicr yn rhan o’r trafodaethau parhaus hynny.