– Senedd Cymru am 4:23 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynglŷn â diwygio llywodraeth leol, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud datganiad. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Ar ddiwedd mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol. Roedd hwn yn nodi cynigion i sicrhau cadernid ac adnewyddiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys trefniadau ar gyfer gweithio’n rhanbarthol a rhoi mwy o rôl i gynghorau a chynghorwyr. Heddiw, fe gyhoeddais adroddiad yn crynhoi bron i 170 o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a gosodais y trywydd ar gyfer diwygio llywodraeth leol.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a fu’n craffu ar y cynigion diwygio. Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ystyriodd nifer o faterion yn ymwneud ag agweddau ar y Papur Gwyn a rhoi eu barn.
Dirprwy Lywydd dros dro, there are three main threads to our proposals on which I aim to update Members today. Firstly, there is the reform of our town and community councils. Town and community councils are an integral part of local government. Geographically, they are closest to people and communities and can be uniquely placed to see and provide a range of services that can have a significant impact on the well-being of their communities. The White Paper described practical reforms we are taking now to strengthen the role of town and community councils and to improve their operation and governance, enabling them to take on a wider provision of a wider group of services and assets.
However, if the potential of town and community councils is to be more widely realised, we need a root-and-branch review of the sector. That review is now under way. In broad terms, it will explore the potential part to be played by local government below principal council level. It will define the most effective model and structure to deliver this contribution effectively and it will consider how this can be applied across Wales. I expect the review to reach out to all relevant stakeholders and for it to be completed in a year. I’m very grateful to Gwenda Thomas and to Rhodri Glyn Thomas for agreeing to co-chair the review. They bring a wealth of experience of government at all levels in Wales and a particular grasp of the issues at stake in strengthening and reinvigorating this most local tier of democracy in Wales.
Chair, earlier today, I issued a written statement on a series of proposals for reform to the local government electoral system, and this has now been formally launched for consultation. Proposals include extending the franchise, the registration of voters, the electoral process, as well as proposals about who can stand as a candidate and who can act as a returning officer. The purpose of reforming the electoral system is to make it easier for people to vote and to extend the entitlement to vote. The proposals include extending the franchise to 16 and 17-year-olds and to all those who live, work and study in Wales. It explores options to make it easier for people to vote, such as all-postal voting, electronic voting and voting at places other than polling stations, such as supermarkets, libraries, leisure centres and bus and railway stations.
The consultation paper also proposes that individual councils should have the option to choose their system of election between the first past the post and the single transferable vote methods. Responding to clear views during the White Paper consultation, I now propose that this would require a two-thirds majority vote of a council’s membership, in line with the threshold for such a change to the National Assembly’s own electoral system.
Following consultation, Chair, I will seek to make legislative changes through a local government Bill. It is important for me to emphasise that any changes would apply to local government elections only. The National Assembly is considering reforms in respect of its own elections separately to this consultation, which the Llywydd herself is leading.
Chair, the third element in my statement today focuses on the reform of our principal councils, including a new approach to systematic and mandatory regional working to ensure that they are resilient, both financially and in terms of the services they provide. I intend to proceed with proposals that would see regional working becoming, over time, the norm in many areas of local government activity. This will build on the city and growth deals and will require economic development, strategic transport and strategic land-use planning to be undertaken on these footprints. These arrangements will operate under the direction of a joint governance committee for the area, comprising elected members of the constituent local authorities. Sufficient flexibility will allow the Swansea city bay region and Growing Mid Wales areas to operate with distinctive identities, but with a requirement for them to come together to consider the coherence of their plans across the south-west region as a whole.
For other services, mandated regional working, such as on education improvement, will be for regional joint governance committees to determine and to decide upon the most suitable collaborative footprint, within a statutory framework. There will also be scope for authorities to work across regions, for example, in developing the linguistic economic strategy for west Wales, as recommended by the report of the task and finish group on the Welsh language and local government.
Chair, as set out in the reforming local government White Paper, there is a need to give clarity and simplicity to the partnership arrangements for Bridgend County Borough Council in particular. Together with ministerial colleagues, discussions have taken place with the council and with local health boards. As a result, and in order to focus discussions over the summer, we propose that the Cwm Taf Local Health Board boundary should be adjusted to include the Bridgend local authority area. Working with our partners in local government and health boards, the Government will discuss that proposition and develop a formal consultation document, which will be the subject of a further statement in the autumn.
Llywydd, knitting together our reform proposals will be a new set of relationships between the Welsh Government and local government, based on mutual respect, and a new relationship between local authorities and their citizens, which recognises people as valuable assets and which enables them to co-design the future of their services and their communities.
As announced by the First Minister in the legislative programme statement on 27 June, a local government Bill is to be introduced into the Assembly during 2018 to give effect to these reform proposals and bring forward other supporting provisions. In order to maximise the opportunity to continue the dialogue and discussions with local government and other partners, I intend that the Bill will be introduced towards the end of the second year of the legislative programme.
Llywydd, ymdrech ar y cyd yw diwygio llywodraeth leol. Bydd y mesurau rwyf wedi eu hamlinellu heddiw yn rhoi amrywiaeth o ddulliau a system a fydd yn galluogi llywodraeth leol i feithrin cadernid a bod yn fwy effeithiol drwy weithio’n well a gweithredu’n fwy hyblyg fel awdurdodau unigol. Rwy’n edrych ymlaen nawr at glywed barn yr Aelodau.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gwybod ein bod wedi cyfarfod ac wedi cael sgyrsiau am ddatblygu’r cynigion hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n sicr yn gefnogol iawn i lawer–. Ceir llawer o uchelgais yma, ac, wrth gwrs, mae uchelgais a deddfwriaeth a chyflawni yn golygu adnoddau, ac rwy’n ofni na fydd digon o adnoddau gennych chi, ond nid wyf yn credu y byddai neb mewn gwirionedd yn dilorni’r weledigaeth yr ydych chi’n ceisio ei gwireddu. Yn amlwg, byddaf yn dechrau–. Edrychaf ar bob elfen yn ei thro a dweud y gwir.
Mae angen dybryd i ddiwygio cynghorau tref a chymuned. Dyma haen o ddemocratiaeth sy’n gost i’n trethdalwr ac fe ddylai fod yn dryloyw ac yn atebol, ac fe ddylai fod modd gwireddu’r amcanion mewn gwirionedd. Ond, yn anffodus, ar sawl achlysur, rwyf wedi derbyn cwynion a phryderon gan drigolion ynghylch didwylledd ac eglurder ar yr haen honno o lywodraeth, ac rwy’n ymwybodol bod yr aelodau ar y bwrdd, wrth gwrs, yn gyn Aelodau Cynulliad: Gwenda Thomas, Rhodri Glyn Thomas, ac, wrth gwrs, mae gennym ni William Graham. Felly, dyma dri pherson y mae gen i bob ffydd ynddyn nhw, wrth symud ymlaen.
Mae seddi diwrthwynebiad yn broblem nid yn unig ar gynghorau tref ond hefyd mewn prif awdurdodau. Yn yr etholiadau lleol diwethaf cafodd 92 ymgeisydd awdurdod—ymgeiswyr prif awdurdod—sedd heb gystadleuaeth, ac rwy’n gwybod bod hyn wedi ei grybwyll sawl gwaith yn Aberconwy, sef pam roedd pobl yn mynd i bleidleisio ac nad oeddent yn ymwybodol nad oedd unrhyw etholiad yn digwydd, oherwydd bod rhywun wedi hawlio’r sedd ar y cyngor yn ddi-wrthwynebiad. Felly, mae a wnelo eich prif nod cyffredinol â hygyrchedd, â chaniatáu gwell cyfle i bobl bleidleisio, ond rwyf hefyd o'r farn bod yn rhaid i ni gofio bod angen ymgeiswyr ar bobl y gallan nhw bleidleisio drostynt, felly mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni weithio arno o bosib, wrth symud ymlaen.
Mae'r ymgynghoriad ynghylch y posibilrwydd o ddiwygio system etholiadol llywodraeth leol yn ddiddorol, ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â bod yn agored ac ennyn diddordeb pobl, gwneud pethau’n fwy hwylus i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Pwy allai ddadlau â hynny?
Rwy’n cefnogi nifer o'r cynigion a amlinellwyd. Mae angen i ni fod yn fwy hyblyg er mwyn galluogi gweithwyr mewn cynghorau i sefyll etholiad fel cynghorwyr. Fe wn i am sefyllfa—ac rwyf wedi codi'r mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet—lle roedd rhywun ar gytundeb o bedair awr yr wythnos ac na châi sefyll i fod yn ymgeisydd ar gyfer y cyngor. Yn amlwg, ni fyddai achos o wrthdaro buddiannau heblaw ar ôl person i’r hwnnw gael ei ethol, petai yn cael ei ethol, felly mae angen i ni edrych ar hynny.
Mae angen i ni symleiddio pleidleisio drwy'r post. Rwy'n siŵr bod Aelodau eraill—hyd yn oed gydag etholiadau’r Cynulliad neu Seneddol, mae’r system bleidleisio trwy'r post, yn ôl pob tebyg ar draws y DU, ond rwy’n gwybod ei fod yn wir yng Nghymru, yn ddryslyd iawn ar gyfer yr henoed, pan eu bod yn gorfod rhoi pethau mewn gwahanol amlenni, ac yna, wyddoch chi, eu llofnodion ac ati. Rwyf wedi gweld cymaint o bapurau pleidleisio wedi eu difetha, pan fo pobl yn meddwl eu bod wedi pleidleisio yn gywir. Felly, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—a ydych chi’n bwriadu rhoi mwy o gig ar yr asgwrn ynglŷn â hyn.
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn elfen arall. Mae'n ffordd o alluogi rhywun i bleidleisio pan nad yw’n bresennol ar y diwrnod hwnnw mewn gwirionedd. Rwy’n gwybod bod eich cynlluniau ar gyfer pleidleisio electronig a chael un gofrestr etholiadol yn syniad da, ond serch hynny mae mecanwaith yn bod ar hyn o bryd o’r enw pleidleisio drwy ddirprwy, ac rwy’n gwybod pryd bynnag yr wyf i wedi sôn wrth bobl, nid ynghylch pleidleisio drwy'r post, ond am bleidleisio drwy ddirprwy, maen nhw wedi edrych arnaf gydag elfen o anghrediniaeth, heb ddeall beth yw pleidleisio drwy ddirprwy. Nid wyf yn sicr ai’r gair 'procsi' yw'r ffordd orau i'w ddisgrifio mewn gwirionedd. Felly, pe gallech chi ystyried symleiddio'r broses honno, mae'n ddull arall o’i gwneud yn haws i bobl bleidleisio os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.
Nodaf eich cynnig i awdurdodau gael dewis rhwng systemau etholiadol—y cyntaf i’r felin neu bleidlais sengl drosglwyddadwy. Meddwl oeddwn i tybed a fyddai rhywfaint o ddryswch rhwng gwahanol awdurdodau. Ydych chi mewn gwirionedd yn ystyried cyflwyno hyn ar sail awdurdod lleol, yn unigol? Neu a yw hyn yn mynd i fod yn unffurf ledled Cymru?
Gan symud ymlaen at y mater o feiri wedi eu hethol yn uniongyrchol, rwyf eisoes wedi datgan yn glir fy mod i o blaid hyn, o ran awdurdod lleol—nid yn rhanbarthol—. Yn Lloegr, mae gofyniad o 10 y cant ar gyfer refferendwm. Nac oes, fel arall y mae hi: 5 y cant yn Lloegr, 10 y cant yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl, unwaith eto, tybed a oes modd efallai inni ystyried gostwng y trothwy hwnnw er mwyn i awdurdodau lleol—neu bobl, y gymuned o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, y gallan nhw mewn gwirionedd efallai fynd allan a—.Mae'n ffigur gwell i’w ddewis, onid yw, 5 y cant?
Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi o'r blaen—mae cynghorau ar draws y ffin yn talu cyflogau sydd ar gyfartaledd tua hanner yr hyn a delir yng Nghymru, ac mae cynghorwyr yn cynrychioli mwy na dwywaith y nifer o etholwyr. Dyma enghraifft: Yn Lloegr, cyfartaledd o £6,893, ac maen nhw’n cynrychioli 8,959. Yng Nghymru, gallan nhw fod ar £13,300 a’u cyfartaledd yw 3,300. Felly, mae angen i ni edrych mewn gwirionedd ar gynnig gwerth i’n hetholwyr a’n pleidleiswyr, ac mae yna gydbwysedd yn y fan yma y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Nawr, diwygio'r prif gynghorau—yn sicr, rwy’n cytuno ac yn croesawu cydweithio ar swyddogaethau cefn swyddfa. Mae yna lawer o arfer da, ac fe wnes i ddarganfod hynny fy hun mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf. Mae pum cyngor dosbarth yng Ngwlad yr Haf yn rhannu canolfan alwwadau ganolog ar gyfer ymholiadau a thaliadau. Nawr, os gellir gwneud hynny dros y ffin, gellir ei wneud yma. Ond, wrth gwrs, oherwydd bod y portffolio hwn wedi bod gennyf ers peth amser, rwy'n ymwybodol o'r holl ganllawiau a phopeth sy'n ymwneud â'r agenda cydweithio, ac roedd honno’n rhaglen a fethodd i Lywodraeth Cymru. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod pa ddulliau—y ffon, y foronen, neu ychydig o'r ddau—yr ydych chi am eu defnyddio a fydd mewn gwirionedd yn sicrhau y ceir gwell cydweithio. Nid wyf yn ei gweld hi’n ymarferol ein bod ni’n mynd i barhau â 22 prif weithredwr, 22 pennaeth cyllid, 22 pennaeth gwasanaethau cymdeithasol. Rwy'n croesawu cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, a cheir model yma yr ydych chi wedi ei grybwyll yn eich datganiad, ac y dylid ei gyflwyno, rwy’n credu, ledled Cymru.
Soniasoch am hyblygrwydd o dan y tri phrif gyd- bwyllgor llywodraethu rhanbarthol. Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru, er enghraifft, wedi ei ddisgrifio yn aml fel un sy’n anhylaw a rhy fawr. Mae gennym ni fwrdd iechyd yno nawr sydd mewn mesurau arbennig. Felly, os ydych chi’n bwriadu modelu llywodraeth leol ar y sail honno, yna mae mwy o waith i'w wneud yn hynny o beth. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddoch chi bod gennych chi fy nghefnogaeth i a fy ngrŵp ar gyfer llawer o hyn, wrth symud ymlaen. Byddwn yn chwilio am y glo mân, a byddwn yn craffu ac yn herio pan fyddwn ni’n teimlo y gallai fod yn or-feichus ac yn ddryslyd i'r etholwyr, ac yn fwy costus. Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma, ond hefyd am ei pharodrwydd i gymryd rhan mewn deialog reolaidd ynglŷn â rhai o'r cynigion hyn ac am y syniadau adeiladol y mae eisoes wedi eu cyfrannu at y ddeialog honno. Rwy’n gobeithio y bydd hi'n gweld bod rhai o'r pethau yr ydym ni yn eu cynnig ynglŷn â chynghorau tref a chymuned yn adlewyrchiad o ran o'i phrofiad uniongyrchol ei hun, ac roeddwn i eisiau diolch iddi yn arbennig am ei chymorth wrth sicrhau gwasanaethau William Graham yn rhan o’r tîm adolygu. Rwy’n cytuno i raddau helaeth â hi bod seddau diwrthwynebiad yn bethau yr hoffem ni weld eu dileu yn ein democratiaeth, o ran y prif gynghorau, ond mae'n nodwedd arbennig o gynghorau tref a chymuned. Ac mae’r rhai sy'n gweithredu yn y maes hwnnw, ac rwy’n credu eu bod yn aml yn gwneud gwaith da iawn, maen nhw eu hunain yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod hwn yn fan gwan pan ein bod ni’n cyfeirio ato fel haen ddemocrataidd, pan fod cyn lleied o ddemocratiaeth yn aml yn y ffordd y mae pobl yn y pen draw yn dod yn gynghorwyr tref a chymuned.
Diolchaf i Janet Finch-Saunders am yr hyn a ddywedodd am y cynigion ynglŷn â’r system etholiadol. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni yng Nghymru. Bydd y rhain yn bwerau newydd y byddwn ni’n eu hetifeddu. Mae'r papur ymgynghori yn gymysgedd o nifer fach o gynigion lle’r ydym ni’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn eithaf ymrwymedig i ddatblygu syniadau, megis ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, ac yna ystod llawer ehangach o syniadau lle mae gennym ni ddiddordeb mewn clywed beth sydd gan bobl i'w ddweud. Tynnodd y siaradwr sylw at y cwestiwn yr ydym ni’n ei ofyn yn yr ymgynghoriad ynghylch pa un a ydym ni’n tynnu llinell yn y lle iawn rhwng pobl sy'n gweithio i gyngor ac yn cael sefyll i fod ar y cyngor. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth fod, ar un pegwn, prif staff uwch mewn swyddi gwleidyddol-gyfyngedig; ni ddylent gael yr hawl i sefyll etholiad. Ond, ar hyn o bryd, rydym ni’n gwahardd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, rhywun sy'n gweithio nifer fach iawn o oriau rhag sefyll mewn etholiad. Mae’r gwaharddiad hwnnw yn disgyn yn anghymesur ar fenywod, ac rydym ni’n gofyn y cwestiwn ynghylch pa un a allem ni dynnu’r llinell mewn lle gwahanol.
Byddai cofrestr electronig ar gyfer Cymru gyfan yn golygu y byddai llai o angen i bleidleisio drwy ddirprwy, ond ni fyddai'n cael gwared arno, oherwydd, petai pobl ar wyliau yn Lloegr neu’n cael eu galw i ffwrdd i weithio yn Lloegr, er enghraifft, byddech yn dal i fod angen pleidleisio drwy ddirprwy. Byddwn yn edrych ar y pwynt mae hi’n ei wneud am y derminoleg sydd o bosib yn ddryslyd.
Mae ein cynigion ar Gynrychiolaeth Gyfrannol ganiataol mewn llywodraeth leol yn union hynny; byddai'n ddewis i awdurdodau lleol ei wneud eu hunain. O ran y trothwy ar gyfer refferendwm i gael meiri etholedig: nid ydym yn bwriadu newid y cyfle i gael refferendwm mewn ardaloedd lle mae galw am faer etholedig, ac, unwaith eto, yn rhan o'r ymgynghoriad, rwy'n ymwybodol iawn y byddwn yn edrych ar fater y trothwy y mae’r Aelod wedi cyfeirio ato. Mae'n debyg nad wyf yn gwbl gytûn â hi ynglŷn â nifer y cynghorwyr sydd gennym ni yng Nghymru. Credaf fod y nifer fwy neu lai yn briodol. Mae'r cynghorwyr yr wyf i’n eu gweld yn gweithio'n galed iawn ac mae ganddyn nhw nifer fawr o bleidleiswyr i’w cynrychioli. Mae'r arolygon etholiadol wedi dechrau yng Ngheredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys. Rydym ni’n disgwyl i hynny, maes o law, arwain at ostyngiad bach yn nifer y cynghorwyr yng Nghymru. Mae'r cynigion ar gyfer Cyngor Conwy, er enghraifft, yn cynnig gostyngiad o ychydig dros 10 y cant yn nifer y cynghorwyr a fyddai ar gael ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw.
Yn olaf, i ymateb i'r pwyntiau a wnaed am ddiwygio prif gynghorau, rwy'n credu mai’r gwahaniaeth yn y cynigion a welwch chi gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yw eu bod yn ffrwyth gwaith caled i geisio dod i gytundeb gydag awdurdodau lleol, ond hefyd yn benderfyniad, pan fyddwn ni wedi cytuno ar ffordd ymlaen ar weithio rhanbarthol, ar fframweithiau, ar ardaloedd ac ar swyddogaethau, ac yna byddwn yn gwneud hynny yn orfodol. Pan fyddwn ni wedi cytuno, yna bydd angen grym y ddeddfwriaeth o dan y cytundeb hwnnw fel bod pawb yn glir os ydych chi wedi dod at eich gilydd ac wedi cytuno i gyflawni swyddogaeth, nid oes dianc rhag y cytundeb hwnnw.
Rwy'n credu bod hynny er budd awdurdodau lleol. Mae gormod o awdurdodau lleol wedi sôn wrthyf am enghreifftiau lle maen nhw wedi gweithio'n galed iawn ac wedi buddsoddi llawer mewn trefniant rhanbarthol, ac mae un o'r partneriaid yn cerdded ymaith ar y funud olaf, ac mae angen gwneud llawer o waith ymddatod yn gyflym iawn. Ni all awdurdodau lleol yng Nghymru wynebu dyfodol felly, Llywydd. Gweithio rhanbarthol yw ffordd y dyfodol—yn systematig, yn orfodol ond yn gytûn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich parodrwydd i gael deialog barhaol am y materion yma ac am faterion yn eich portffolio chi. Cymhlethdod yr holl haenau o lywodraeth sy’n cael eu creu, yn ogystal â lle mae’r atebolrwydd yn gorwedd a’r craffu yn digwydd—dyna sy’n dod i’r amlwg i mi, beth bynnag, o glywed eich datganiad chi heddiw yma.
Yn benodol, mae gen i bryder mawr fod y berthynas rhwng y dinesydd a’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau yn mynd yn un pell a diystyr. Mae gan hynny oblygiadau mawr i ddemocratiaeth—lle mae pobl yn barod yn teimlo’n ddi-rym mewn penderfyniadau ar faterion sy’n eu heffeithio nhw o ddydd i ddydd. Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, ac rwy’n dal o’r un farn.
Mae hi hefyd yn destun pryder i mi nad ydych chi’n bwriadu cyflwyno’r system bleidleisio gyfrannol—STV—i bob awdurdod yng Nghymru. Yn yr Alban, mae defnyddio’r system bleidleisio gyfrannol yn rhan arferol o ddemocratiaeth, ac mae’n sicrhau bod yna gystadleuaeth ar gyfer holl seddau’r cynghorau a bod yr holl bleidleisiau yn cyfri. Rwyf i o’r farn bod gadael i gynghorau unigol benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno system etholiadol gyfrannol yn mynd i achosi dryswch ac yn golygu na fydd yn digwydd yn gyson ar draws Cymru ac, yn wir, na fydd yn digwydd o gwbl. Rwy’n cytuno ei bod hi’n bwysig rhoi rhyddid i gynghorau benderfynu ar nifer fawr o faterion, ond nid yw hwn yn un ohonyn nhw.
Cyn i mi gyflwyno’r tri chwestiwn penodol, mi fyddaf i dipyn bach yn fwy cadarnhaol a datgan cefnogaeth lwyr Plaid Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i bobl 16 ac 17 oed. Mae hyn wedi bod yn bolisi gan Blaid Cymru ers nifer fawr o flynyddoedd, oherwydd rŷm ni’n credu bod llais a chyfraniad pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn hollbwysig.
Buasem ni hefyd yn croesawu eich bod chi yn cefnogi ymestyn yr hawl i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn astudio yng Nghymru bleidleisio. Fe ddylai pawb sydd yn galw Cymru yn gartref iddyn nhw, ac sydd eisiau gweld Cymru yn llwyddo, gael y cyfle a’r rhyddid i gymryd rhan mewn etholiadau sydd yn effeithio ar eu bywydau nhw.
Gan droi at y cwestiynau, hoffwn i ddechrau holi pa oblygiadau fyddai gan ymestyn y fasnachfraint etholiadau lleol—beth fyddai hynny yn ei olygu wedyn ar gyfer etholiadau’r Cynulliad? Beth ydy’r berthynas rhwng beth rydych chi yn ei gyflwyno yn y fan hyn a’r drafodaeth sydd yn mynd ymlaen ynglŷn ag etholiadau’r Cynulliad—ychydig o eglurder am hynny?
Ar yr elfen o weithio’n rhanbarthol, rwy’n falch o weld sôn am y gallu i awdurdodau gydweithio i ddatblygu strategaeth ieithyddol ac economaidd ar gyfer y gorllewin, fel yr ydym ni, fel Plaid Cymru, wedi’i argymell yn y Siambr hon, a hefyd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a llywodraeth leol, o dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas. Yn dilyn datganiadau o gefnogaeth gennych chi a’r Prif Weinidog yn ddiweddar i hyn, mi fuaswn i’n licio gweld beth ydy’ch gweledigaeth chi. Beth ydych chi’n meddwl ydy manteision cydweithio yn rhanbarthol yn y gorllewin?
Yn olaf, mae’n edrych yn debyg y bydd strategaeth economaidd y Llywodraeth yn rhoi pwyslais mawr ar bolisïau rhanbarthol neu ar weithio’n rhanbarthol, er nad ydym wedi gweld y strategaeth honno eto, a hithau dros flwyddyn ers yr etholiad. Pa gydweithio sydd wedi bod yn digwydd, ac sydd yn digwydd, rhyngoch chi a’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y berthynas yma rhwng y strategaeth economaidd a diwygio llywodraeth leol? Diolch.
Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr i Sian Gwenllian am y sylwadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr i chi hefyd am fod yn fodlon siarad dros yr amser, gan rannu rhai syniadau, a phrynhawn yma i ddweud lle rydym yn gallu cytuno ar rai pethau pwysig—i ymestyn yr hawl i gofrestru ac i bleidleisio i bobl 16 ac 17 oed, a hefyd yr hawl i bobl sy’n byw yma yng Nghymru fod yn rhan o’n proses ddemocrataidd ni. Mae hynny’n bwysig fel neges i bobl sydd wedi dod i Gymru ac sy’n byw yma nawr, yn gweithio yma ac yn astudio yma. Maen nhw’n rhan o’r cymunedau yma yng Nghymru, ac rŷm ni eisiau ymestyn yr hawl iddyn nhw i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd leol hefyd.
A gaf i ddweud fy mod yn rhannu pryderon sydd gan Sian Gwenllian am gymhlethdod ac atebolrwydd? Rydym yn trial, yn beth rydym yn ei roi ymlaen, cynllunio ffordd lle y gallwn ni helpu pobl i ddeall y system rydym yn mynd i’w chreu yn y dyfodol, ac yn cadw pobl yn atebol am y penderfyniadau y maen nhw’n mynd i’w gwneud.
It’s partly why, Llywydd, we have a requirement in the White Paper for statutory engagement strategies by local authorities. It’s why we say that local authorities will be obliged to televise their proceedings. We want to make sure that what goes on in our local authorities is opened up to their local citizens. It’s why I believe the role of local councillors, in the way that we are going to set up the new system, will be absolutely central. It’s partly why I didn’t agree with Janet Finch-Saunders in her view that we should have a significantly reduced number of local councillors. If there is a greater degree of—. [Interruption.] Sorry, I hope didn’t misrepresent what you said. [Interruption.]
Na, nid oes unrhyw ymyriad ar ddatganiad nawr.
Gadewch i mi roi’r hyn a ddywedais mewn ffordd wahanol, Llywydd. Rwy'n credu y byddai Janet yn rhagweld nifer llai o gynghorwyr nag yr ydym ni yn ei ragweld. Ac nid oeddwn i’n cytuno gyda hi ar hynny, oherwydd credaf y bydd swyddogaeth y cynghorydd lleol yn ganolog wrth gynorthwyo dinasyddion yn y dyfodol i ddeall system lle y mae rhai penderfyniadau'n cael eu gwneud yn rhanbarthol. Nid wyf yn credu bod hyn yn sylweddol wahanol i'r ffordd mae systemau yn gweithio ar hyn o bryd. Mae cynghorydd lleol yn cael ei ethol i gynrychioli ei ward, ond pan ei fod yn dod i wneud penderfyniadau ar lefel y cyngor, mae’n rhaid iddo ystyried yr hyn sy'n iawn ar gyfer yr holl ardal honno, nid yn unig yr hyn sy'n iawn ar gyfer ei ward ei hun. Mae cynghorwyr bob amser yn gorfod cydbwyso’r tyndra rhwng cynrychioli'r etholwyr lleol a gwybod beth sy'n iawn ar gyfer yr awdurdod cyfan y maen nhw’n ei gynrychioli, yn union fel y mae pobl yn dod i'r Cynulliad hwn yn cynrychioli etholaeth ond wedyn yn siarad o safbwynt eu plaid yn ei chyfanrwydd. Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw ei gwneud yn ofynnol i arfer y ffordd honno o feddwl yn rhanbarthol. Byddwn yn ei gwneud hi’n gwbl glir bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan aelodau etholedig o blith yr awdurdodau lleol cyfansoddol, ac rydym ni wedi llunio dewislen o ddewisiadau y bydd awdurdodau lleol eu hunain yn gallu ei defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn gallu craffu ar y penderfyniadau, ac y cânt eu dwyn i gyfrif amdanynt ar y lefel awdurdod lleol hwnnw.
Gadewch i mi droi, os caf i, at y cwestiynau a ofynodd Siân Gwenllian tuag at ddiwedd ei chyfraniad. O ran cydweithio rhanbarthol yn y gorllewin, rwyf yn awyddus i ddatblygu’r awgrymiadau a nodwyd yn yr adroddiad a gynhyrchwyd o dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn y rhan honno o Gymru ynglŷn â’r ffyrdd y gallan nhw weithio ar draws eu ffiniau ac yn rhanbarthol i fanteisio ar y cysylltiad rhwng y Gymraeg a chyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd yn y rhan honno o Gymru. Credaf fod yna gyfleoedd i rannu adnoddau, i ddysgu o’r ffordd y mae rhai awdurdodau lleol wedi llwyddo i gryfhau gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu ar gyfer y bobl hynny a fyddai'n dewis manteisio ar wasanaethau awdurdodau lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r adnoddau hynny mewn ffordd sy'n fanteisiol i ddatblygiad economaidd yn y dyfodol yn y rhan honno o'r wlad.
O ran gweithio gyda chyd-Aelodau eraill o’r Cabinet, rwyf nid yn unig wedi trafod y materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi o ran strategaeth yr economi, ond rwyf hefyd wedi siarad â fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros addysg ynglŷn â gwella addysg ac anghenion dysgu ychwanegol. Siaradais â fy nghyd-Aelod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â gwaith rhanbarthol yn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn wir, prin bod unrhyw gyd-Aelodau Cabinet nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd y mae gwaith rhanbarthol o'r math a nodir yn y cynigion hyn yn berthnasol i’r cyfrifoldebau y maen nhw hefyd yn eu cyflawni.
Byddwn yn parhau â’r trafodaethau hynny, yn edrych ymlaen at ddod â Bil gerbron y Cynulliad, ac yn deall yr hoffai pleidiau ar draws y Cynulliad weld manylion ein cynigion a’u hystyried yn ofalus pan gânt eu cyhoeddi.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae diwygio llywodraeth leol yn creu cyfle ac rwy'n credu y gall diwygio weithio'n dda ar yr amod mai’r prif nod yw dod â llywodraeth leol yn nes at y bobl y mae'n ei wasanaethu. Felly, mae’r elfen o leoliaeth, rwy’n credu, yn allweddol.
Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at swyddogaeth fwy i gynghorau tref a chymuned. Credaf fod hynny yn argoeli’n addawol mewn rhai achosion. Mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig, gall y cynghorau hyn fod â swyddogaeth gref a pherthnasol, ac rydych chi’n sôn am y ffordd y maen nhw wedi, mewn rhai achosion, achub llyfrgelloedd lleol a gwasanaethau eraill drwy eu cymryd o dan eu hadain. Yn sicr, mae modd argymell y math hwnnw o weithredu pan fydd gwasanaethau lleol o dan fygythiad. Ond beth fyddai eich argymhelliad pan fydd gwasanaethau dan fygythiad mewn ardaloedd mwy trefol nad oes ganddyn nhw gynghorau cymuned? Beth fyddai swyddogaeth, er enghraifft, grwpiau gwirfoddol, a allai chwarae rhan berthnasol iawn, ond a fyddai unrhyw faterion yn codi o ran democratiaeth a mandad democrataidd i redeg pethau? Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn ar hynny.
Fel y dywedwch chi, mae cymysgedd o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Felly, unwaith eto, beth sy'n digwydd pan fydd y gwasanaethau lleol o dan fygythiad mewn ardal lle nad yw'r cyngor cymuned lleol yn gwneud llawer? O gofio bod cymaint o wasanaethau o dan fygythiad y dyddiau hyn, a ddylid cael rhyw fath o lawlyfr gweithredu gennych chi, fel Gweinidog, o ran sut orau i amddiffyn gwasanaethau lleol yn yr achosion hyn?
O ran eich newidiadau arfaethedig i sut y cynhelir etholiadau yng Nghymru, rwy’n edrych ymlaen at glywed eich barn ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Yn amlwg, rydych chi wedi ymrwymo i geisio sicrhau rhai newidiadau penodol megis yr oedran pleidleisio, ond rydych chi’n dal i ystyried agweddau eraill. Rwy'n credu bod llawer i'w drafod ynglŷn â’r newidiadau i reolau etholiad ac fe gawn ni yn ôl pob tebyg ddadl gadarn ar y mathau hyn o gynigion yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond rwy’n gobeithio y byddwch chi’n troedio'n ofalus wrth i chi ystyried materion perthnasol fel diogelwch ar y rhyngrwyd.
Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o’r Aelodau yn cytuno y dylai dyletswyddau swyddog canlyniadau etholiad fod yn rhan statudol o waith prif weithredwr y Cyngor, ac y dylai fod yn rhan o'i lwyth gwaith rheolaidd, heb unrhyw daliadau ychwanegol cysylltiedig. Felly, rwy’n tueddu i gytuno â chi ar y pwynt hwnnw, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi’n prysuro ymlaen â hynny.
Ar y mater o weithwyr y cyngor yn cael sefyll fel ymgeiswyr, rwy’n credu y dylai pobl fel menywod cinio a dynion lolipop a phobl eraill mewn swyddi tebyg gael sefyll mewn etholiadau cyngor, felly byddai newid y rheolau yma yn glodwiw, fel y mae Janet Finch-Saunders wedi ei amlygu, ac fel y gwnaethoch chi yn dda iawn drwy ei gynnwys yn rhan o'ch cynigion. Y cwestiwn yw: pa swyddogion llywodraeth leol nad ydynt yn gymwys? Tybed a allech chi ddweud wrthyf i ymhle yn union yr ydych chi’n teimlo y dylid tynnu’r llinell honno.
Ar y mater o gynghorwyr annibynnol, rwy’n credu ei fod yn bwynt teg, os ydyn nhw’n aelodau o blaid, mae gan y cyhoedd hawl i wybod. Sut ydych chi'n bwriadu cael yr wybodaeth hon a beth fydd yn digwydd i ymgeiswyr sy'n methu â datgelu aelodaeth o blaid?
Ar y mater o ACau yn gweithredu fel cynghorwyr hefyd, rwy'n credu bod hwn yn bwnc dadleuol. Gan na fûm i erioed yn gynghorydd, nid wyf i’n gymwys mewn gwirionedd i farnu ar ba un a allwch chi wneud y ddwy swydd yn llwyddiannus. Roeddech chi eich hun yn gynghorydd ar un adeg, ac yn awr rydych chi yn Aelod Cynulliad, ond erioed ar yr un pryd, hyd y gwn i. Ond rwy’n gwybod am o leiaf un Aelod yma a wnaeth y ddwy swydd am rai blynyddoedd, felly nid wyf yn credu ei bod hi’n amhosibl gwneud y ddwy. Y broblem efallai yw bod cyflog AC yn sicr yn gyflog llawn amser. Felly, os yw AC yn dymuno parhau i fod yn gynghorydd, efallai y dylid cael gwaharddiad ar hawlio’r cyflog cynghorydd gan olygu pe byddai ef neu hi yn dymuno parhau i fod yn gynghorydd, y byddai’n ymgymryd â’r dyletswyddau cyngor fel rhai di-dâl. Felly, tybed a ydych chi’n credu y gallai hyn fod yn gyfaddawd derbyniol yn yr achos hwn. Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. A gaf i ddweud fy mod i’n credu ei fod wedi gwneud cyfres o bwyntiau pwysig am gynghorau tref a chymuned? Fy asesiad i o'r sector, ar ôl holi amdano ym mhob rhan o Gymru, yw hyn: pan fo gan gynghorau tref a chymuned berthynas dda gyda'u prif awdurdod, pan fo ganddyn nhw adnoddau ac uchelgais, maen nhw’n gwneud gwaith gwasanaeth cyhoeddus pwysicach heddiw nag y maen nhw wedi ei wneud fwy na thebyg erioed o'r blaen o ran helpu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau cyni. Ond dyma’r broblem, yn rhy aml ac mewn gormod o achosion, nid yw'r berthynas cystal ag y dylai fod, nid yw sylfaen adnoddau cynghorau cymuned bach iawn yn ddigonol i ganiatáu iddyn nhw ymgymryd ag ystod ehangach o ddyletswyddau ac, yn bwysicach na dim mae’n debyg, nid yw'r uchelgais bob amser yno i wneud hynny. Felly, yr her yr wyf i wedi ei gosod ar gyfer y tîm adolygu yw ceisio canfod y cynhwysion sy'n gwneud cynghorau tref a chymuned yn llwyddiannus ac i fod yn gadarnhaol iawn am y gwaith da y maen nhw’n ei wneud ond gofyn wedyn sut y gallwn ni gymhwyso hynny’n gyffredinol i rannau eraill o Gymru, a chynnwys rhannau o Gymru lle nad yw cynghorau tref a chymuned o bosib yn bodoli ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, rydym ni’n cynhyrchu llawlyfr, gyda'n cynghorau tref a chymuned, gydag Un Llais Cymru, llawlyfr i ganiatáu i gynghorau tref a chymuned sy'n fodlon gwneud mwy nag y maen nhw wedi ei wneud yn y gorffennol i ddysgu gwersi gan y cynghorau hynny sydd wedi gwneud hynny yn llwyddiannus eisoes ac i allu eu helpu drwy'r broses honno.
O ran cynnal etholiadau, cododd Gareth Bennett y mater pwysig iawn o ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Fe wnaethom ofyn y cwestiwn yn y papur ymgynghori: ydym ni eto wedi cyrraedd y cam lle y gallwn ni ganiatáu i bobl bleidleisio ar y ffôn neu lechen neu ar gyfrifiadur? Rydym ni’n gwneud llawer o bethau eraill mewn sawl rhan arall o'n bywydau—bancio ar y rhyngrwyd ac yn y blaen—sy'n gofyn am ddiogelwch sylweddol iawn, ond rwy'n credu ei fod yn gwestiwn pwysig. Rwyf am ailadrodd hyn yn yr ymarfer ymgynghori. Er mor hen ffasiwn yw ein system bresennol ni, un o'i chryfderau mawr, Llywydd, yw bod bobl yn ymddiried ynddi. Rydych chi’n mynd, rydych chi’n rhoi eich croes ar y papur pleidleisio, rydych chi’n cymryd y papur eich hun, rydych chi’n ei roi yn y blwch pleidleisio—fe allwch chi weld sut y mae'r system yn gweithio. Rwy'n credu y byddai angen i ni feddwl yn ofalus am symud i gyfeiriadau lle y byddai’n haws tanseilio ffydd pobl yn hygrededd y broses, ond rydym ni eisiau gwybod beth mae pobl yng Nghymru yn ei feddwl am hyn.
Cyfeiriodd Gareth Bennett at ein cynigion ar gyfer gwneud prif weithredwyr yn swyddogion canlyniadau statudol mewn etholiadau lleol a diddymu'r system bresennol o ffioedd personol. Codwyd y cwestiwn o ble i dynnu'r llinell o ran gweithwyr awdurdodau lleol. Nid oes gennyf farn sefydlog ar hynny. Rwyf yn credu ei fod yn gwestiwn pwysig i’w ailadrodd. Rwy'n credu y bydd gan undebau llafur ac eraill sylwadau pwysig i’w cyfrannu inni yn hyn o beth.
Rwy'n credu ei bod hi’n iawn y dylai ymgeiswyr sy'n aelodau o blaid wleidyddol ddatgan hynny yn rhan o'u hymgeisyddiaeth. Nid oes unrhyw beth i atal unrhyw un rhag sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond yn fy marn i, os ydych chi’n cynnig eich hun fel ymgeisydd annibynnol ac wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol yn ystod y 12 mis diwethaf, yna mae gan bleidleiswyr yr hawl i wybod hynny. Maen nhw wedyn yn gallu ystyried hynny gyda phopeth arall wrth benderfynu pwy i bleidleisio drosto.
Rydym ni’n cynnig yn ein hymgynghoriad na ddylid cael mandad deuol, na ddylai pobl allu bod yn Aelodau Cynulliad ac yn aelodau o awdurdod lleol ar yr un pryd. Ceir y mater o gyflog, fel y dywedodd Gareth Bennett. Caiff Aelod Cynulliad ei dalu am wneud swydd llawn amser, ac rydym ni’n credu mai dyna ddylai’r swydd fod, ond ceir gwrthdaro buddiannau hefyd nad ydynt yn ymwneud â thâl yn unig. Rydym ni’n gwneud penderfyniadau pwysig iawn yn y fan yma sy'n effeithio ar awdurdodau lleol, ac rydym ni’n credu ei bod yn sefyllfa anghyfforddus i orfod gwneud y penderfyniadau hynny a hefyd eu derbyn, a’n cynnig ni yw na ddylem ni ganiatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol.
Weithiau, wrth i bobl ddadlau dros strwythurau a phwerau, caiff y rheswm dros lywodraeth leol yn aml ei anghofio: darparu gwasanaethau lleol cost-effeithiol o ansawdd uchel; i ymateb i angen lleol; i wneud pob un o'r uchod gydag atebolrwydd democrataidd, lleol.
O ran cynghorau cymuned a thref, a fydd pob cyngor cymuned a thref yn cael yr un pwerau, waeth beth yw eu maint, a beth sy'n digwydd yn yr ardaloedd trefol hynny, megis Dwyrain Abertawe, lle nad oes cynghorau cymuned ar hyn o bryd?
Rwyf unwaith eto yn ailadrodd fy nghefnogaeth i bleidleisio yn 16 oed, rhywbeth y mae fy ffrind Julie Morgan wedi dadlau drosto cyhyd ag y gallaf gofio.
Rwy'n falch o weld pleidleisio trwy fwyafrif llethol ar gyfer newidiadau i systemau pleidleisio llywodraeth leol i atal y system bleidleisio rhag newid bron iawn yn flynyddol.
O ran pobl sy'n cael sefyll etholiad, beth am ganiatáu i'r rhai sy'n cael eu cyflogi yn anuniongyrchol gan gyngor i sefyll? Rydym ni wedi gweld sefyllfa yn gynharach eleni lle cafodd rhywun ei wahardd—roedd yn gweithio i gorff a oedd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y cyngor roedd e’n perthyn iddo, ynghyd yn ogystal ag i wyth o gynghorau eraill. Dylai'r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol, yn fy marn i, gael sefyll.
Pa resymau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros beidio â chyflwyno pleidleisio electronig? Mae pobl ifanc yn disgwyl defnyddio eu ffonau ar gyfer bron popeth ac i bleidleisio yn electronig, ac maen nhw’n ei chael hi braidd yn rhyfedd, mynd i neuadd yr ysgol, a chael pensel heb fin a darn o bapur.
Rwy'n croesawu gweithio ar draws cynghorau o ran trafnidiaeth, defnydd tir strategol a datblygu economaidd. Nid yw’r rhain, wrth gwrs, yn newydd, ydyn nhw? Rwy’n cofio—rwy'n siwr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio hefyd—yr hen gynllun datblygu sirol. Roeddwn i hefyd yn gadeirydd y grŵp trafnidiaeth gorllewin Cymru o'r enw SWWITCH. Roeddwn i hefyd yn aelod o fforwm economaidd gorllewin Cymru. Roedd llawer iawn o waith caled yn cael ei wneud rhwng Penfro ac Abertawe ymhell cyn bod unrhyw sôn am naill ai ad-drefnu llywodraeth leol nac unrhyw si am yr angen am newid o ran gweithio’n draws-bleidiol. Felly, nid oes unrhyw beth y soniwyd amdano yn newydd. Y cwestiwn sydd gennyf i yw: pam mae’r cynigion ar gyfer y canolbarth a’r de-orllewin yn hytrach na dinas-ranbarth bae Abertawe? Ym mha fodd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod gan bobl yn Y Trallwng unrhyw beth yn gyffredin â'r bobl yn Abertawe o ran naill ai trafnidiaeth, datblygu economaidd neu ddefnydd tir?
Diolch i Mike Hedges am y sylwadau yna. A fyddwn ni’n rhoi'r un pwerau i bob cyngor tref a chymuned? Nid fel y maen nhw ar hyn o bryd, oherwydd eu bod mor amrywiol. Rydym ni’n cynnig pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer rhai cynghorau tref a chymuned, ond bydd trothwyon y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cyrraedd. Cawn weld beth fydd canlyniad adroddiad y grŵp adolygu. Os ydyn nhw’n gallu cynnig patrwm mwy unffurf, o ran pwerau a daearyddiaeth, fel bod cynghorau tref a chymuned yn bodoli ym mhob man, yna caiff yr achos dros eu trin i gyd yr un fath ei gryfhau.
Rwy’n credu, Llywydd, y bydd mwyafrif ar lawr y Cynulliad hwn o blaid rhoi’r bleidlais i bobl 16 a 17 mlwydd oed, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth Mike Hedges i hynny.
Mae e’n ychwanegu categori arall at bobl sy'n cael eu hatal ar hyn o bryd rhag sefyll mewn etholiadau awdurdodau lleol, ac rwy’n credu fod hyn o bosib yn ychwanegu elfen arall at ein cwestiwn ynghylch pa un a ydym ni ar hyn o bryd yn or-gaeth yn y ffordd yr ydym ni’n dehongli’r rheol honno.
Beth yw'r achos yn erbyn pleidleisio o bell? Wel, rwy’n credu bod pobl nad ydyn nhw eto wedi eu hargyhoeddi o hynny weithiau yn dweud bod y weithred o bleidleisio yn weithred ddifrifol iawn ac y gallai lleihau hynny i allu clicio botwm ar eich ffôn danseilio’r difrifoldeb a ddylai fod ynghlwm â’r cyfraniad at ddemocratiaeth. Mae rhai pobl—mae'n debyg fy mod i’n ddigon hen ffasiwn i gytuno â hyn͏—yn hoffi’r weithred gyfunol o gerdded i orsaf bleidleisio ac yn hoffi gweld pobl eraill yn gwneud yr un peth. Rwyf i'n hoffi sefyll mewn rhes gyda phobl eraill yn gwneud yr un peth. I mi, mae'n rhoi bywyd i’n hymdeimlad cyfunol o ddemocratiaeth, ond mae hynny oherwydd y bûm i’n gwneud hyn ers amser mor faith. Efallai fod y gwrthwynebiad diogelwch yn wrthwynebiad mwy arwyddocaol. A ydym ni eto yn siwr bod y systemau yn ddigon diogel fel y byddai pobl yn credu na allai neb amharu ar eu pleidlais ddemocrataidd͏—na allai neb newid eich pleidlais, na allech chi ganfod a fu rhywun yn ceisio ymyrryd?
Mae e'n hollol gywir nad yw gweithio rhanbarthol yn rhywbeth newydd. Yr hyn y mae ein cynigion yn ei wneud yw gwneud gweithio rhanbarthol yn systematig ac yn orfodol.
Pam y canolbarth a’r gorllewin? Rydym ni wedi cymryd rhanbarth CLlLC ei hun; dyna sut mae CLlLC yn ei threfnu ei hun. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad, Llywydd, bydd gennym ni ddigon o hyblygrwydd yn y rhanbarth hwnnw fel y gall pedwar cyngor dinas-ranbarth Abertawe gydweithio, ac i’r cynghorau sy’n rhan o fenter Tyfu Canolbarth Cymru—Ceredigion a Phowys— barhau i weithio gyda'i gilydd mewn ffordd unigryw. Ond, bydd yn rhaid iddyn nhw gynllunio ar y cyd, fel nad oes ffiniau artiffisial ac fel nad oes unrhyw deimlad na all Ceredigion a Phowys, er enghraifft, fanteisio ar rai o’r dadleuon a rhai o'r posibiliadau y byddai'r ardal ranbarthol ehangach yn eu creu.
Hoffwn groesawu'r datganiad. Roedd dwy elfen yr oeddwn yn awyddus i roi sylw iddynt. Un: o ran y dewisiadau y byddwch chi’n ymgynghori arnyn nhw ynglŷn â diwygio, rwy'n siomedig nad yw pleidleisio gorfodol yn un o'r dewisiadau y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn arno. Rwy'n credu bod ei gwneud hi’n ofynnol i bobl gymryd rhan yn rhan o'u dyletswyddau dinesig ehangach—mae cael pleidleisio yn bwysig yn un pwysig. Rwy'n sylweddoli bod y farn honno’n un ddadleuol, ond rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol i gychwyn dadl ar hynny.
Yn ail, roeddwn i eisiau crybwyll y gweddnewidiad ehangach y mae'r Gweinidog yn ei gynnig o ran y ffiniau. Mae llawer o'r pwyslais ar yr adeileddau ffisegol, ond tybed faint o ystyriaeth a roddir i’r gweddnewid digidol a fydd yn sail i lawer o hyn. Mae lledaeniad data mawr a deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio o'n cwmpas ym mhob man. Rwy'n ymwybodol nad oes unrhyw ddiwedd ar gwmnïau preifat yn dod ar ofyn awdurdodau lleol gan gynnig atebion parod i awtomeiddio llawer o'u swyddogaethau i ryddhau adnoddau er mwyn gallu eu cyfeirio at wasanaethau rheng flaen, ac rwy'n credu y byddai'n well pe byddem ni’n gwneud hyn mewn ffordd bwyllog a chynlluniedig ledled Cymru, yn hytrach na bod awdurdodau lleol unigol yn gwneud hynny ar sail ad hoc. Nid oes rhaid i hyn fod yn fygythiad, ond bydd yn newid, ac yn newid na allwn ni ei osgoi. Felly, tybed a allai ef ddweud ychydig mwy am swyddogaeth yr elfen ddigidol yn y prosiect gweddnewid ehangach oedd ganddo mewn golwg.
Un uchelgais sydd gennyf i ar gyfer yr ymgynghoriad yw bod gennym ystod ehangach o bosibiliadau a mwy o syniadau ar gyfer sut y gallem ni ddiwygio'r ffordd yr ydym ni’n cynnal etholiadau yng Nghymru ar ei ddiwedd nag oedd gennym ni ar y dechrau. Bydd y bobl hynny sy'n hyrwyddo cyfranogiad gorfodol yn ein democratiaeth, rwy’n gobeithio, yn manteisio ar y cyfle hwn i wneud y safbwyntiau hynny yn hysbys ac i esgor ar y math o ddadl mae Lee Waters wedi ei hawgrymu.
O ran gweddnewid digidol, un o'r rhesymau pam yr wyf yn meddwl bod gweithio͏ rhanbarthol—yn arbennig yn y cyswllt hwn, gan rannu gwasanaethau cefn swyddfa—mor bwysig yw y bydd yn caniatáu i awdurdodau lleol feithrin eu gallu eu hunain i symud i'r cyfeiriad hwn heb orfod dibynnu ar brynu gwasanaethau ac atebion parod, fel y dywedodd, o rywle arall.
Llywydd, rwyf wedi dweud sawl gwaith: Ar y cyfan rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan fy rhyngweithio gydag awdurdodau lleol a'u parodrwydd i fod yn rhan o greu eu dyfodol eu hunain. Roeddwn braidd yn siomedig o’u hymateb i'r ymgynghoriad ynglŷn â gwasanaethau cefn swyddfa. Rwy'n credu bod yna fwy o amharodrwydd nag y dylid fod wrth feddwl am ffyrdd y gallant rannu rhai o’r gwasanaethau ar draws ffiniau—dim digon o grebwyll am bosibiliadau gweddnewid digidol ar gyfer y dyfodol. Ac rwyf wedi dweud wrth awdurdodau lleol, ac rwyf am ailadrodd hyn yma y prynhawn yma: mae ein Papur Gwyn a'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn arwydd ein bod yn symud tuag at sefyllfa lle caiff mwy o wasanaethau eu rhannu yng Nghymru, ac mae'n daith y bydd angen i bob awdurdod lleol fod yn rhan ohoni.
Dim ond rhai sylwadau, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod problem gyda phleidleisio drwy'r post, yn enwedig ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn nad yw eu llofnod bob amser yn cyfateb, ac maen nhw wedi canfod bod eu pleidleisiau wedi eu diystyrru mewn etholiadau diweddar. Rwy’n credu, os ydym ni i gyd yn onest yn y fan yma, hefyd, fe wyddom ni i gyd fod yna broblem gyda phleidleisio drwy'r post a didwylledd y broses. Mae gen i bryderon ynglŷn ag annog mwy o bleidleisio drwy'r post, gan fy mod i’n credu y dylai pleidleisio drwy'r post gael ei gyfyngu. Dylai fod rheswm pam y mae gennych bleidlais drwy’r post, oherwydd caiff y broses ei chamddefnyddio, ac rydym ni i gyd yn gwybod hynny.
Mae angen i ni annog pobl i bleidleisio, ac rwy'n credu bod y syniad o archfarchnadoedd a mannau eraill cyffelyb yn syniad gwirioneddol dda. Unwaith eto, yn ôl at uniondeb y broses, roedd enghraifft yn 2016 yn etholiad y Cynulliad yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, pryd yr aeth rhywun i bleidleisio am 08:30, ac fe ddywedwyd wrtho ei fod eisoes wedi pleidleisio. Rhoddodd yr unigolyn ddisgrifiad i'r person o’r sawl a oedd wedi bod yno am 07:30 ac wedi pleidleisio yn ei enw ef. Nawr, rwy’n sicr yn credu bod dadl dros, efallai, brofi hunaniaeth wrth bleidleisio, oherwydd fe ddywedwn i fod y broses ar y funud yn llawer rhy hawdd ei chamddefnyddio, i ddefnyddio'r un ymadrodd eto.
Fe hoffwn i weld refferenda lleol yn cael grym gwirioneddol. Unwaith eto, cawsom refferendwm lleol yn lle rwyf i'n byw, pryd y pleidleisiodd 99.9 y cant o bobl yn mewn ffordd arbennig, ac fe gawson nhw eu hanwybyddu, ac fe bleidleisiodd miloedd o bobl hefyd.
Mae'n rhaid i mi gyffwrdd ar y mandad deuol. Rwy'n cymryd yn ganiataol ei fod yn berthnasol i Dŷ'r Arglwyddi hefyd. Efallai y gallwch chi egluro hynny.[Torri ar draws.] Ni fyddai gen i, yn sicr, ond mae gan rai cyd-Aelodau yma fandad deuol yn hynny o beth. Yn anad dim, mae'n fater o egwyddor ddemocrataidd. Cefais fy ethol yn gynghorydd, a’m hail-ethol yn ddiweddar. Roedd pawb yn gwybod fy mod yn Aelod Cynulliad. Beth sy’n rhoi'r hawl i chi fel unigolyn, fel Gweinidog, i ddweud wrth bobl na chânt bleidleisio drosof i neu dros unrhyw un arall i fod yn gynghorydd iddyn nhw? O ran y lwfansau, ydw, rwy’n hapus i roi fy lwfansau, 50 y cant i'r gymuned a 50 y cant i Blaid Cymru. Ond mater o ddemocratiaeth yw hwn. Pwy ydych chi, Weinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, i ddweud wrth bobl nad oes ganddyn nhw’r hawl i bleidleisio dros bobl? Nid yw hynny’n iawn.
Mae'n debyg bod datganiad buddiannau o ryw fath yn y fan yna, Llywydd, ac wrth gwrs, nid fy lle i yw dweud unrhyw beth wrth unrhyw un. Lle’r Cynulliad Cenedlaethol hwn fyddai penderfynu, ac os ydym ni yn penderfynu, bydd hynny oherwydd mai dyma’r fforwm democrataidd lle yr ydym ni’n gwneud y penderfyniadau hynny. Dyna fydd sail unrhyw benderfyniad sy'n deillio o’r ymarfer ymgynghori hwn.
Nid oes gennyf unrhyw bwerau dros Dŷ'r Arglwyddi, ond lle mae gennym ni bwerau newydd dros lywodraeth leol, rwy’n glir yn fy meddwl fy hun y dylai pobl sy'n cael y fraint o eistedd fel Aelodau Cynulliad allu neilltuo’u holl amser a'u hegni i’r swydd honno, ac na ddylen nhw ganfod eu hunain yn y sefyllfa o bleidleisio ar bethau sy'n digwydd yma sy'n cael effaith uniongyrchol ar gyfrifoldebau eraill y maen nhw’n eu cyflawni mewn mannau eraill.
Rwy'n cydnabod y pwynt ynghylch uniondeb y system. Dyma pam, yn rhannol, pan atebais fy nghwestiwn gan Mike Hedges ar bleidleisio electronig, imi ddweud mai dyna un o'r pethau y bydd angen i ni feddwl amdano. Mae tyndra rhwng uniondeb ar y naill law a symlrwydd ar y llall. Hoffwn i wneud pleidleisio drwy'r post yn haws ar gyfer y bobl hynny sy'n dewis pleidleisio yn y ffordd honno. Rwy'n chwilfrydig braidd ynghylch pam y byddai'r Aelod yn dymuno gwneud pleidleisio drwy'r post yn fwy anodd i bobl. Pwy yw ef, gallwn i fod wedi’i ddweud, i benderfynu sut y mae pobl yn dewis arfer eu pleidlais? Felly, rwy’n credu y dylem ni sicrhau bod modd i bobl pleidleisio drwy'r post. Rwy'n credu y dylem ni geisio gwneud y broses yn symlach yn y modd y disgrifiodd Janet Finch-Saunders, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus gyda’r elfen o uniondeb, hefyd.
Rwy’n eithaf gwrthwynebus i gardiau adnabod neu fathau eraill o ddulliau adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio. Rydym ni’n gwybod os awn ni ar hyd y trywydd hwnnw, y caiff hynny effaith anghymesur ar rai cymunedau ac ar garfanau penodol o'r pleidleiswyr, gan gynyddu’r ffordd y mae rhai pobl ar hyn o bryd yn teimlo eu bod nhw wedi eu dieithrio. Pan geir camddefnyddio, rwy’n credu bod ein system yn ddigon cadarn i’w ganfod. Mae angen i ni fod yn effro i hynny, ond yn y tyndra rhwng eisiau gwneud yn siŵr bod pleidleisio mor hwylus a chyfleus ag y bo modd, ac uniondeb y system, rwy’n credu y dylem ni fod yn barod i fod yn fwy pryderus am sicrhau nad oes neb yn colli eu cyfle i bleidleisio, gan barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn hollol ddidwyll.
Llywydd, mae Neil McEvoy yn rhoi hanner ei gyflog i Blaid Cymru— roeddwn i’n gwybod bod rheswm pam y maen nhw’n ei gadw yn y grŵp. Da iawn.
O ran y Papur Gwyn, mae adran 2.56, rydych chi eisoes wedi ei grybwyll, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i Siân Gwenllian, yn nodi tri threfniant ar gyfer craffu: un yw aros fel yr ydych chi, dau yw sefydlu pwyllgor rhanbarthol sefydlog, neu dri, sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae craffu wedi esblygu llawer iawn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, fel y gwn i o fy mhrofiad fy hun o 10 mlynedd mewn llywodraeth leol. Ond hefyd, o ddarllen adroddiadau gwelliant blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ac adroddiadau arbennig ar graffu, fe allwch chi weld bod pethau wedi gwella. Mae gwers i'w dysgu o'r sefyllfa sy'n bodoli erbyn hyn o ran craffu, o'i gymharu â'r sefyllfa yn ystod y 25 mlynedd diwethaf o awdurdodau lleol fel y maen nhw. Pa drafodaethau fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael gyda Swyddfa Archwilio Cymru, sydd wedi gwneud gwaith canmoladwy mewn rhai agweddau ar hyn? A fydd Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi cyngor ar drefniadau llywodraethu? Ac, yn arbennig, sut gallwch chi sicrhau bod y trylwyredd hwn o graffu, a'r safonau a gyrhaeddwyd hyd yn hyn, yn cael eu cynnal ac yn parhau i gael eu gwella, o ystyried y rhyddid y bydd gan y cynghorau i sefydlu trefniadau newydd ar gyfer craffu?
Diolch i'r Aelod am hynna. Rwyf yn credu ei bod hi’n briodol i ganiatáu hyblygrwydd i awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd y mae craffu yn gweithio orau yn eu hamgylchiadau eu hunain, ac i gynllunio trefniadau craffu ar gyfer trefniadau rhanbarthol sy'n cyd-fynd â'r ffordd y maen nhw’n cyflawni agweddau eraill ar eu cyfrifoldebau. Rwy’n cytuno â'r hyn a ddywedodd Hefin David am y ffaith fod craffu wedi gwella yn ddiweddar. Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar—adroddiad annibynnol—a oedd yn edrych ar bob rhan o Gymru, Lloegr a'r Alban, a Chymru oedd yr unig ran o Brydain lle yr adroddodd y rhai a oedd ymwneud â chraffu eu bod yn credu bod y system wedi gwella, a'u bod erbyn hyn yn well am graffu nag oedden nhw yn y gorffennol. Mae rhan o hynny o ganlyniad i gyngor a buddsoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i gymryd eu cyngor. Dywedais yn fy natganiad agoriadol, Llywydd, fy mod i’n awyddus i roi cymaint o gyfle â phosib, cyn cyflwyno’r Bil, i weithio gydag awdurdodau lleol eu hunain a phartneriaid, megis Swyddfa Archwilio Cymru, ar rai o fanylion y Bil cyn ei gyflwyno, a bydd gwaith craffu yn sicr yn rhan o’r trafodaethau parhaus hynny.
Ac, yn olaf, David Rees.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, rwy’n cefnogi sylwadau fy nghyd-Aelodau o ran diwygio etholiadol. A, gyda llaw, pleidleisio electronig: hwyrach yr hoffech chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Estonia i gael gwybod am hynny.
Ond ynghudd yn eich datganiad, mewn gwirionedd, roedd agwedd bwysig iawn i mi, a hynny yw'r posibilrwydd o newid ffiniau pob bwrdd iechyd lleol, yn enwedig o ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, fe allai hynny effeithio ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond mae hefyd yn effeithio ar lawer o fy etholwyr oherwydd bod yr afon Afan yn ffin artiffisial a ddefnyddir gan y gwasanaethau ambiwlans: mae’r rhai i'r dwyrain yn mynd i ysbyty Tywysoges Cymru; a’r rhai i'r gorllewin yn mynd i Dreforys. Ac, felly, mae llawer o fy etholwyr yn defnyddio'r gwasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn yr ardal honno. Nawr, ni ddylai ffiniau beri rhwystrau; rwy’n derbyn hynny. Ond fe hoffai llawer o fy nhrigolion gael sicrwydd na fydd y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn bryd yn cael eu heffeithio, ac y byddant yn parhau i gael yr un math o wasanaeth. Felly, yn yr ymgynghoriad yr ydych chi’n bwriadu ei gynnal, a allwch chi gyflwyno'r achos ynghylch sut y bydd y gwasanaethau hynny'n cael eu cynnal, fel na fydd etholwyr ym Mhort Talbot ac Aberafan yn cael eu heffeithio gan unrhyw newid?
Hoffwn ddiolch i David Rees am y pwynt pwysig iawn yna. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr a’r ddau fwrdd iechyd a fydd yn rhan o hyn—sef PABM a Chwm Taf—ar gynnig y gallwn ni wedyn ymgynghori yn ei gylch yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddwn yn gwneud yn siŵr y caiff y pwyntiau a gododd David Rees y prynhawn yma eu hystyried wrth ddatblygu’r cynnig hwnnw. Nid yw ysbyty Tywysoges Cymru yn symud; bydd yn dal i fod yn lle y mae hi heddiw, ond mae defnyddio’r ysbyty yn bwysig iawn i bobl sy'n byw y tu hwnt i Ben-y-bont ar Ogwr ei hun, a byddwn yn gwneud yn siŵr y caiff eu buddiannau eu cynrychioli'n briodol yn y cynnig y byddwn yn ei ddatblygu ar gyfer ymgynghoriad.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.