7. 6. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 5:21, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, rwy’n cefnogi sylwadau fy nghyd-Aelodau o ran diwygio etholiadol. A, gyda llaw, pleidleisio electronig: hwyrach yr hoffech chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Estonia i gael gwybod am hynny.

Ond ynghudd yn eich datganiad, mewn gwirionedd, roedd agwedd bwysig iawn i mi, a hynny yw'r posibilrwydd o newid ffiniau pob bwrdd iechyd lleol, yn enwedig o ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nawr, fe allai hynny effeithio ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond mae hefyd yn effeithio ar lawer o fy etholwyr oherwydd bod yr afon Afan yn ffin artiffisial a ddefnyddir gan y gwasanaethau ambiwlans: mae’r rhai i'r dwyrain yn mynd i ysbyty Tywysoges Cymru; a’r rhai i'r gorllewin yn mynd i Dreforys. Ac, felly, mae llawer o fy etholwyr yn defnyddio'r gwasanaethau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn yr ardal honno. Nawr, ni ddylai ffiniau beri rhwystrau; rwy’n derbyn hynny. Ond fe hoffai llawer o fy nhrigolion gael sicrwydd na fydd y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn bryd yn cael eu heffeithio, ac y byddant yn parhau i gael yr un math o wasanaeth. Felly, yn yr ymgynghoriad yr ydych chi’n bwriadu ei gynnal, a allwch chi gyflwyno'r achos ynghylch sut y bydd y gwasanaethau hynny'n cael eu cynnal, fel na fydd etholwyr ym Mhort Talbot ac Aberafan yn cael eu heffeithio gan unrhyw newid?