Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dechrau â'r pwynt olaf un, sef pwysigrwydd sicrhau bod banc datblygu Cymru yn fanc i Gymru gyfan? O ran y pencadlys, bydd nifer y staff a fydd yn cael ei leoli yn y pencadlys yn 50 o fewn y ddwy flynedd nesaf. Rydym ni’n rhagweld y byddwn yn dechrau gyda 20, a fydd yn cynnwys rhai uwch reolwyr, ond mae strategaeth leoli yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Cyllid Cymru. Bydd hynny ar gael ym mis Awst a bydd yn rhoi manylion am yr union swyddogaethau a fydd yn cael eu cynnig yn y pencadlys o'r cychwyn cyntaf a'r cynigion ar gyfer cynyddu nifer y staff.
Mae wedi bod yn amlwg iawn fod Cyllid Cymru yn disgwyl, yn ystod y broses esblygu i fod yn fanc datblygu, y bydd staff presennol yn y gogledd ond hefyd bydd yn gwneud yn siŵr fod unrhyw adnoddau ar gyfer staff ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r pencadlys newydd wrth iddo ddatblygu cronfeydd newydd a chyfleoedd newydd. Ond rwy’n awyddus i sicrhau, a gwn fod Cyllid Cymru yn awyddus i wneud hynny gyda’u cynllun busnes—a byddaf yn trafod yr achos busnes mewn eiliad—gwn eu bod yn awyddus iawn i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn gallu cael mynediad hawdd, mynediad corfforol, i gyngor a chefnogaeth banc datblygu. Ac mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda Busnes Cymru yn edrych ar sut y gallen nhw sicrhau eu bod yn elwa o fuddiannau cyffredin ac, o bosibl, sut y gallen nhw gydleoli gwasanaethau. Ein barn ni yw mai dim ond un pwynt cyswllt sydd ei angen arnoch i gael y cyngor a'r cymorth angenrheidiol, pa un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio dechrau busnes neu’n ddyn busnes eisoes ac yn ceisio tyfu’ch busnes. Felly, mae'n gwneud synnwyr i allu dod â gweithgareddau Busnes Cymru a'r banc datblygu at ei gilydd ac, yn yr un modd, i sicrhau bod swyddogaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyd-fynd yn dda â Busnes Cymru a'r banc datblygu.
O ran yr achos busnes, yn ôl yr hyn a addawyd, rwyf wedi gofyn i Gyllid Cymru rannu ei achos busnes mewn cyhoeddiad briffio a fydd ar gael y mis hwn. Cefais fy sicrhau o hynny. Felly, bydd hynny ar gael i'r Aelodau yn fuan iawn.
O ran y model hybrid a godwyd gan yr Aelod, wrth gwrs, datblygwyd y model yn dilyn dau adroddiad gan bwyllgorau, yr olaf yn 2015, pan nododd y Pwyllgor Menter a Busnes, dan gadeiryddiaeth fedrus eich cydweithiwr Nick Ramsay, fod Cyllid Cymru yn sylfaen gadarn ar gyfer ei datblygu yn fanc datblygu ac na ddylid colli arbenigedd. Felly, mae'r model hwn yn un cadarn.
O ran y gymhareb o ddenu buddsoddiad preifat, rydym yn credu bod hynny’n gyraeddadwy—mae’r gymhareb 1.15:1 yn gyraeddadwy a bydd yn cyfrannu at y targed o £1 biliwn dros bum mlynedd. O ran yr adnodd ychwanegol a fydd ar gael, rwyf eisoes wedi cyhoeddi heddiw y bydd adnodd ychwanegol ar ffurf dwy gronfa, a hefyd y banc datblygu, yng nghwrs ei bum mlynedd gyntaf, yn ailgylchu llawer o'r buddsoddiad. Bydd hynny’n ei dro yn sicrhau, drwy'r ffioedd rheoli, y bydd yn gweithredu heb gost i bwrs y wlad.
Gwnaeth Russell George bwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau bod y sgiliau digonol o fewn y banc datblygu o'r cychwyn cyntaf. Nawr, rwyf o’r farn y dylem ni i gyd gydnabod bod Cyllid Cymru wedi newid yn eithaf sylweddol ac, o ran ehangu sylfaen y sgiliau sydd ynddo—mae ganddo enw da eisoes, enw da iawn am lwyddo, wrth ddenu staff o'r radd flaenaf i ymuno â'i luoedd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi ennill a denu nifer o unigolion profiadol iawn, gan gynnwys rhai i swyddi cadeirydd, prif weithredwr, a chyfarwyddwyr anweithredol. Ac rwy’n credu, er ein bod ni, efallai, yn eithaf pell o ganolbwynt arbenigedd ariannol Llundain, byddwn yn gallu manteisio ar dai benthyca Llundain, ac rwyf i yn credu y bydd y banc datblygu yn gallu sefydlu cysylltiadau cryf y gellid eu defnyddio i gefnogi busnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru.
Rwy'n credu mai datblygiad allweddol arall i Cyllid Cymru yw’r arian y mae wedi ei weithredu ar gyfer cwsmeriaid dros y ffin. Mae wedi galluogi Cyllid Cymru i ennill ei enw da a hefyd i ennill sgiliau ychwanegol. Felly, mae gennyf hyder yng Nghyllid Cymru, wrth iddo ddod yn fanc datblygu Cymru, y bydd ganddo’r profiad a'r sgiliau, a’r bri hefyd, i ddenu'r goreuon yn y sector a hefyd i fagu’r sgiliau hynny oddi mewn iddo.
O ran gwarantau, rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig i’w wneud—ac mae hwn yn bwynt arwyddocaol iawn y mae’r Aelod yn ei godi—fod ein dewisiadau ar gyfer dyfodol banc datblygu Cymru yn aros yn agored a diben yr uned wybodaeth yw asesu tueddiadau cyfredol a newydd i edrych ar unrhyw rwystrau sy'n bodoli sy'n rhwystro mentrau micro, bach, a chanolig eu maint rhag tyfu a dyfeisio ffyrdd o oresgyn y rhwystrau hynny. Ac felly, dros y blynyddoedd nesaf, tebyg y gallai dyfodol y banc datblygu esblygu yn unol â hynny.