Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rwy’n holi tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ein helpu ni drwy esbonio hanes y datblygu polisi yma, oherwydd cawsom fynediad at ddau adolygiad cyllid—roedd y ddau dros gyfnod o chwe mis—ac nid ydych wedi dilyn llawer o'u hargymhellion allweddol, ac yn wir, fe wnaethoch yn groes i hynny. Rydych chi, er enghraifft, wedi caniatáu i Gyllid Cymru weithredu cronfeydd buddsoddi yn Lloegr ar hyn o bryd. Roedd hynny yn gwbl groes i argymhelliad y tîm adolygu, ac fe ddywedon nhw’n benodol nad oedden nhw’n teimlo mai Cyllid Cymru oedd y strwythur cywir i fynd â'r banc datblygu yn ei flaen hefyd.
Roedden nhw’n trafod maes penodol, sef cyfalaf menter, lawer gwaith. Wrth ei natur, y mae'n golygu risg uchel iawn. Byddai rhai yn dweud ei fod, yn y rhan fwyaf o achosion, bron â bod, yn cael ei yrru gan drachwant. Nid yw'n sefyll ochr yn ochr â diwylliant, fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda banc datblygu sy'n eiddo cyhoeddus, sydd o reidrwydd wedi ei rwymo yn y rheolau ac yn tueddu i fod rhywfaint yn llai parod i dderbyn risg. Disgrifiwyd hyn i mi heddiw gan rywun sydd wedi gweithio yn y Ddinas fel cael siop trwsio beiciau modur mewn ward mamolaeth. A’r awgrym o ran mynediad at adolygiad cyllid oedd, mewn gwirionedd, fod yr elfen honno—mae gennym broblem sylweddol yng Nghymru o ran mynediad at gyfalaf menter—yn cael ei chyfeirio yn allanol i bob pwrpas, ac felly’n gweithio gyda chronfeydd cyfalaf menter presennol a rhai newydd. Byddai'n ddiddorol gweld, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydym yn mynd ar hyd y llwybr hwnnw. Crybwyllodd—rwy’n credu bod Russell George wedi holi am fenthyca. Yn eich datganiad, roeddech yn cyfeirio at ddysgu o'r enghreifftiau rhyngwladol—Banc Datblygu Busnes Canada, Finnvera yn y Ffindir—mae gan y banciau datblygu hynny y gallu i fenthyca ar eu liwt eu hunain, felly a wnewch chi ddweud ychydig mwy ynghylch a fydd gan y banc datblygu y gallu i wneud hynny?
Roedd gen i ddiddordeb yn yr hyn a ddywedodd yn union ar ddiwedd ei sylwadau nawr o ran bod yn agored i strwythurau’r dyfodol, oherwydd mae rhai awgrymiadau diddorol i’w cael. Os mai sefydliad sydd yn ei ariannu ei hunan yr ydym yn ei drafod, pam na chrëwn ni mewn gwirionedd, i bob pwrpas, sefydliad annibynnol cyhoeddus ei ddibenion, a fyddai naill ai drwy—rwy’n ymatal rhag awgrymu gwarant, Ysgrifennydd y Cabinet, ar hyn o bryd, neu, fel y mae Gerry Holtham wedi ei awgrymu waddoli’r sefydliad o bosibl, sydd wedyn yn gallu bod yn rhydd i fynd ymlaen a gweithio gyda mwy o ymdeimlad o ystwythder o bosibl nag a fyddai'n wir ar hyn o bryd?
Yn olaf, rwyf ychydig yn bryderus am y pencadlys, Ysgrifennydd y Cabinet—. Roeddwn wrth fy modd â thudalen flaen Y Leader heddiw, ac mae'n ardderchog gweld sefydliadau cenedlaethol newydd yn cael eu creu ar hyd a lled Cymru, ond mae'n rhaid i’r peth fod yn ddilys. Wyddoch chi, oni wnaeth RBS dwyllo wrth ddweud bod eu pencadlys yng Nghaeredin, ond, mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn gwneud y penderfyniadau allweddol yn Llundain? A wnaiff ddweud mwy am nifer yr uwch gyfarwyddwyr a fydd yn cael eu lleoli yn y pencadlys, os nad yw am fod yn bencadlys mewn enw’n unig?