Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Yn gyntaf oll, a gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru am eu llwyddiant yn denu CAF a chlwstwr technoleg y byd fel ei gilydd i Gasnewydd? Nid newyddion da i Gasnewydd yn unig yw hyn, ond i’r de-ddwyrain hefyd. Yn anffodus, wrth gwrs, mae’n rhaid bod yna 'ond' yn rhywle, ac, yn yr achos hwn, dyma ydyw: er ei bod yn ganmoladwy denu diwydiant newydd i Gymru, mae hefyd lawn gyn bwysiced fod pob busnes a sefydlwyd eisoes yng Nghymru yn cael gafael ar gyllid fel a phryd a lle bo angen. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi gwybod i'r Siambr ynglŷn â sut mae'n credu y bydd banc datblygu Cymru yn rhoi gwasanaeth fel hyn yn well na Chyllid Cymru sy’n dod i ben? Ac, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi codi pryderon sawl gwaith o ran mynediad at gyllid, yn enwedig o ran busnesau bach a chanolig yn y sector ymchwil a datblygu. A wnaiff addo i ni y bydd y prosesau i ymgeisio am gyllid o'r fath yn syml ac yn dryloyw, yn enwedig o ystyried y pwyslais a nodir yn fynych gan Lywodraeth Cymru ar greu sector arloesol cadarn yng Nghymru?