Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a hefyd am iddo ein llongyfarch ar y gwaith a wnaed i sicrhau buddsoddiad sylweddol gan CAF yn etholaeth fy ffrind a’m cydweithiwr John Griffiths? Mae'n mynd i fod yn ychwanegiad pwysig i sylfaen gweithgynhyrchu yng Nghymru. Am y tro cyntaf, byddwn yn adeiladu trenau. Mae'n brosiect cyffrous iawn, ac mae hefyd yn un sydd â photensial i ehangu’n fawr iawn. Hefyd, mae hwn yn ddatblygiad cyntaf o’i fath yn y byd, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn rhywbeth, eto, y gall y de-ddwyrain fod yn falch ohono a hynny’n haeddiannol. Mae’n seiliedig ar economi’r dyfodol, yn elfen o'r economi a fydd ar flaen y gad yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol—eto, cyflawniad cyffrous a thestun balchder.
O ran cymorth i gwmnïau sy’n cychwyn, bydd yn hanfodol fod Busnes Cymru a’r banc datblygu yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y cyngor a'r cymorth priodol a chywir ar gael ar bob cam o'r daith i’r rheini sy’n cychwyn busnes neu’r bobl busnes sydd eisoes yn gweithredu menter ficro, fach neu ganolig ei maint. Am y rheswm hwn, bydd yn rhaid cael trefniant cyson ac rwyf wedi gofyn i uwch swyddogion o Fusnes Cymru a Chyllid Cymru fel ei gilydd i gynnal darn cyflym o waith yn edrych ar sut y gallwn gysoni gwaith a swyddogaethau'r ddau yn y ffordd orau.
Yn ogystal â hynny, fel yr amlinellais— yn dilyn datganiad llafar heddiw byddaf yn anfon llythyr at yr Aelodau yn rhoi manylion pob un o'r cronfeydd—mae adnodd ychwanegol bellach ar gael i ficrofusnesau. Mae wedi treblu yn ei werth dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn parhau i ddarparu cyfleoedd a oedd, cyn i Gyllid Cymru weithredu'r swyddogaethau i gefnogi microfusnesau, yn anodd eu cael gan fanciau masnachol. Rwyf hefyd o’r farn y bydd y banc datblygu, gyda strategaeth ddigidol, yn sicrhau y bydd y gwasanaethau porth y mae’n eu gweithredu o ran Busnes Cymru yn glir, yn dryloyw ac yn syml yn eu swyddogaeth. Mae Busnes Cymru eisoes yn llwyfan cryf iawn, wedi ei hen sefydlu, y bydd banc datblygu Cymru yn gallu ei ddefnyddio.