Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n dda gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar sefydlu banc datblygu i Gymru, ac nid yw’n syndod o gwbl i gydweithwyr yma fy mod yn croesawu’n wresog leoliad y banc yn y gogledd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn y fan acw, mae ffanffer ar dudalen flaen y 'Wrexham Leader' heddiw, ond cafodd le amlwg yn y 'Flintshire Leader' hefyd. Yn fy marn i mae hyn yn dangos yr arwyddocâd sydd iddo dros ffiniau’r siroedd ac i'r rhanbarth yn gyffredinol. Er fy mod i, yn amlwg, yn cydnabod yr angen am y banc hwn i gefnogi busnesau, fel y dylai, ar hyd a lled y wlad, rwyf ond yn dymuno canolbwyntio yn fyr ar yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn eich datganiad am nod y banc i feithrin 50 o swyddi. Ar hynny, er fy mod yn cydnabod bod yn rhaid i’r bobl sy’n cael eu recriwtio i’r swyddi hyn feddu ar y sgiliau cywir er mwyn i’r banc fod yn llwyddiannus, byddwn i'n awyddus i weld sut y gallai hynny mewn gwirionedd gynnig cyfleoedd i bobl yn y rhanbarth ei hun, gan fy mod yn awyddus i weld bod y swyddi a ddaw gyda datganoli, yn enwedig y sefydliadau yn sgil datganoli wrth i ni symud ymlaen, yn cynnig cyfle gwirioneddol ledled Cymru. Felly, os nad yw'r sgiliau eisoes yno yn y rhanbarth, a fydd unrhyw gyfle yn y dyfodol i edrych ar sut y gellid cynnig prentisiaethau hefyd?
Fy mhwynt olaf yw hyn. Yn eich tystiolaeth i sesiwn ddiweddar o Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, rwy’n credu i chi sôn am gyfleoedd posibl i gydleoli Busnes Cymru â Chyllid Cymru yn y banc datblygu. Tybed a wnewch chi ymhelaethu ar hyn—sut, yn wir, y gallai fod nid yn unig yn gydleoli ond yn gydweithio, a fyddai’n helpu pobl i gael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael o ran cymorth ariannol, ond hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth wirioneddol o'r cyfle sydd yno i gael cyngor ac arweiniad. Daeth yn gwbl amlwg i mi, yn enwedig mewn ymweliad diweddar yn eich cwmni i fragdy’r Hafod yn fy etholaeth i, nad yw pobl ar lawr gwlad yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael ar eu cyfer. Rwyf o’r farn y gallai cydweithio yn well o bosibl ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw o sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa yn effeithiol ar y gwasanaethau.