9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 5:57, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig heddiw. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Cyflwynais i’r Bil fis Mawrth diwethaf, a’i nod yw gwarchod y cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydiad pellach yn wyneb galw uchel a phrinder cyflenwad. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael, bydd y Bil yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, gan wybod na fyddant mewn perygl o orfod eu gwerthu ar ôl ychydig o flynyddoedd.

Llywydd, mae'r Bil yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan y cynlluniau hyn. Mae llawer o eiddo wedi mynd i’r sector rhentu preifat, gan arwain at gostau uwch i denantiaid, a phan fo budd-daliadau tai yn cael eu hawlio, gall gostio mwy fyth i'r pwrs cyhoeddus. Er bod yr hawl i brynu wedi ei wahardd mewn rhai rhannau o Gymru, mae angen sylweddol am dai yn parhau ledled y wlad, ac mae'r Bil yn diddymu’r hawliau ledled Cymru, sy'n golygu y bydd tai cymdeithasol yn cael eu diogelu ledled y wlad. Datblygwyd y Bil yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn 2015, a oedd yn dangos cefnogaeth glir ar gyfer nodau'r Bil hwn.

Bydd y Bil yn diddymu’r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd, a'r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, a hynny o leiaf un flwyddyn ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Ond i annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, bydd yr hawl yn dod i ben ar gyfer cartrefi sy’n newydd i'r stoc tai cymdeithasol, ac felly sydd heb unrhyw denantiaid presennol, ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybodaeth lawn am effeithiau'r Bil, a hynny mewn modd amserol, ac mae'r Bil wedi ei ystyried gan aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a'r Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n ddiolchgar i'r tri Chadeirydd hynny, John Griffiths, Huw Irranca-Davies a Simon Thomas, a'r holl Aelodau am y craffu ystyrlon. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i randdeiliaid am y dystiolaeth sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad cadarn a gyflwynwyd i mi. Yn anochel, nid yw rhai rhanddeiliaid yn cytuno â phob agwedd, ond rwy’n credu eu bod nhw i gyd yn cydnabod yr angen i ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rwy’n ystyried yn ofalus argymhellion y pwyllgorau, gyda'r bwriad o ymateb yn gadarnhaol i gynifer o'r rhai hynny â phosibl, naill ai drwy welliannau’r Llywodraeth, neu drwy ddulliau eraill, megis canllawiau. Rwy’n rhannu'r awydd a fynegwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sicrhau bod gwybodaeth glir a phriodol yn cael ei darparu i denantiaid am ddiddymu. Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, rwy’n bwriadu lansio ymgynghoriad â thenantiaid ar y ddogfen wybodaeth yfory. Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â thenantiaid yn elfen allweddol o'r ymgynghoriad. Byddan nhw’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru i gasglu barn tenantiaid am y wybodaeth, a byddan nhw’n bwydo'r canlyniadau yn ôl i ni. Rwy'n ddiolchgar i’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid am eu cymorth â’r mater hwn.

Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori â grŵp llywio cynhwysiant ariannol y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol ar yr agweddau ariannol ar yr hawl i brynu a'r wybodaeth a ddarperir i denantiaid hefyd. Yn ogystal â darparu copi o'r ddogfen wybodaeth i landlordiaid cymdeithasol, mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn argymell gwelliant i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu copi o'r ddogfen i sefydliadau perthnasol eraill pan gaiff ei rhoi i landlordiaid cymdeithasol. Rydym ni’n bwriadu anfon y ddogfen at ystod eang o randdeiliaid, ond rwy'n ystyried y byddai’r argymhelliad yn gwella’r Bil a bwriadaf gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 yn dilyn argymhellion y pwyllgor.

Hefyd, argymhellodd y pwyllgor welliant i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid cymwys ei darparu i’w holl denantiaid perthnasol, megis y dyddiadau pan ddaw cyfyngiadau ar y cartrefi newydd a’r diddymiad llawn i rym. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y pwyllgor, ac rwy’n cydnabod y pryder y gallai tenantiaid fod yn llai ymwybodol nag eraill, ac rwy’n bwriadu cyflwyno’r gwelliant yng Nghyfnod 2 i nodi'r wybodaeth ofynnol am effeithiau'r Bil y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol ei darparu i denantiaid.

Yn olaf, Llywydd, mae'r pwyllgor yn argymell gwelliant i sicrhau bod landlordiaid cymwys yn rhoi’r wybodaeth ofynnol i denantiaid yn y ffyrdd mwyaf priodol a hygyrch i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Rwy’n gwerthfawrogi pryder y pwyllgor y dylai'r ddogfen wybodaeth i denantiaid fod ar gael i denantiaid ym mha bynnag ffordd sy’n angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion a chytunaf yn llwyr â'r egwyddor y tu ôl i’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, nid wyf yn ystyried bod angen gwneud darpariaeth yn y Bil, gan fod landlordiaid eisoes yn effeithiol iawn wrth ymgysylltu â'u tenantiaid. Yn unol â'r egwyddor y tu ôl i'r argymhelliad, felly, yn rhan o'r ymgynghoriad ar y wybodaeth sydd i'w hanfon at denantiaid, byddaf hefyd yn ymgynghori ar yr arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid a byddaf hefyd yn rhoi cyngor i landlordiaid cymdeithasol ar ledaenu’r wybodaeth honno.

Nid yw argymhellion eraill y pwyllgor yn gofyn am welliannau i'r Bil, Llywydd. Maen nhw’n argymell y dylwn i weithio gyda'r gwasanaethau cynghori perthnasol i fonitro ac adolygu effaith y Bil ar y galw am wasanaethau, gyda'r bwriad o ddarparu cymorth ariannol ychwanegol cyn diddymu os bydd yr angen yn codi. Byddwn ni’n gweithio gyda gwasanaethau cynghori ac yn monitro effaith y Bil, ac nid wyf yn rhagweld yr angen am adnoddau ychwanegol, ond rwy'n hapus i barhau i ystyried yr angen hwn.

Rwyf hefyd yn croesawu'r adroddiad gan bwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Mae'r pwyllgor wedi gofyn i mi egluro'r rhesymeg y tu ôl i'r Bil ddiwygio deddfwriaeth gyfredol y DU yn hytrach na chyfuno Bil annibynnol. Llywydd, os caf i gymryd moment i egluro, mae'r Bil yn diddymu'r hawl i brynu a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr gan ddeddfwriaeth sy'n dyddio'n ôl i 1985. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid iddo ddiwygio deddfwriaeth bresennol Lloegr a Chymru i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Er mwyn cyfuno’r newidiadau angenrheidiol hyn gyda darpariaeth annibynnol ar wahân, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i ailddatgan yn helaeth iawn y gyfraith sy'n ymwneud â'r hawl i brynu am gyfnod dros dro yn unig. Yn y Bil—sydd â’r unig bwrpas o ddiddymu'r hawl yn hytrach na gwneud darpariaeth ynglyn â hynny—dyna pam yr ydym ni wedi symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo hygyrchedd a chydlyniad cyfraith ddwyieithog Cymru o hyd. Mewn llawer o achosion, bydd hyn yn arwain at gyfuno deddfwriaeth bresennol. Ni fyddai prosiect cyfuno cyfraith tai gyffredinol, fodd bynnag, yn ychwanegiad priodol i'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth sylweddol am y maes cul ac ar wahân o gyfraith tai yn unig ar y mater penodol hwn. Byddai cyfuno cyfraith tai yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn ac mae angen ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.

Mae argymhellion eraill yn ymwneud â darparu gwybodaeth gan Weinidogion Cymru i landlordiaid, ac mae'r pwyllgor yn argymell y gwneir gwelliannau i ddyletswydd Gweinidogion Cymru i wneud popeth sy’n rhesymol i ddarparu'r wybodaeth i landlordiaid yng Nghymru. Llywydd, er fy mod yn nodi argymhelliad pwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, ystyriwyd y darpariaethau hyn gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol hefyd, a oedd yn fodlon ar y trefniadau presennol yn y Bil. Felly, nid wyf yn bwriadu cyflwyno gwelliant ar y mater hwn ar sail argymhellion y pwyllgor polisi Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Mae dau argymhelliad arall pwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar gyfer gwelliannau yn berthnasol i agweddau eithaf technegol sy’n ymwneud â drafftio manwl y Bil, a byddaf yn ceisio cyngor pellach ar y materion technegol cyn Cyfnod 2, a byddaf yn rhoi'r cyfle i’r pwyllgorau a'r Senedd graffu ar hynny.

Llywydd, yn olaf, rwy'n ddiolchgar am waith craffu a chefnogaeth y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n falch eu bod yn fodlon ar y modelu yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a’u bod o’r farn na fyddai'r baich y gallai'r Bil osod ar y sector yn rhy drwm. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.