– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rydym yn troi nawr at eitem 8—y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig—Carl Sargeant.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig heddiw. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Cyflwynais i’r Bil fis Mawrth diwethaf, a’i nod yw gwarchod y cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydiad pellach yn wyneb galw uchel a phrinder cyflenwad. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael, bydd y Bil yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, gan wybod na fyddant mewn perygl o orfod eu gwerthu ar ôl ychydig o flynyddoedd.
Llywydd, mae'r Bil yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan y cynlluniau hyn. Mae llawer o eiddo wedi mynd i’r sector rhentu preifat, gan arwain at gostau uwch i denantiaid, a phan fo budd-daliadau tai yn cael eu hawlio, gall gostio mwy fyth i'r pwrs cyhoeddus. Er bod yr hawl i brynu wedi ei wahardd mewn rhai rhannau o Gymru, mae angen sylweddol am dai yn parhau ledled y wlad, ac mae'r Bil yn diddymu’r hawliau ledled Cymru, sy'n golygu y bydd tai cymdeithasol yn cael eu diogelu ledled y wlad. Datblygwyd y Bil yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn 2015, a oedd yn dangos cefnogaeth glir ar gyfer nodau'r Bil hwn.
Bydd y Bil yn diddymu’r hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd, a'r hawl i gaffael ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, a hynny o leiaf un flwyddyn ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Ond i annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, bydd yr hawl yn dod i ben ar gyfer cartrefi sy’n newydd i'r stoc tai cymdeithasol, ac felly sydd heb unrhyw denantiaid presennol, ddeufis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybodaeth lawn am effeithiau'r Bil, a hynny mewn modd amserol, ac mae'r Bil wedi ei ystyried gan aelodau'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a'r Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n ddiolchgar i'r tri Chadeirydd hynny, John Griffiths, Huw Irranca-Davies a Simon Thomas, a'r holl Aelodau am y craffu ystyrlon. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i randdeiliaid am y dystiolaeth sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad cadarn a gyflwynwyd i mi. Yn anochel, nid yw rhai rhanddeiliaid yn cytuno â phob agwedd, ond rwy’n credu eu bod nhw i gyd yn cydnabod yr angen i ddiogelu ein stoc o dai cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rwy’n ystyried yn ofalus argymhellion y pwyllgorau, gyda'r bwriad o ymateb yn gadarnhaol i gynifer o'r rhai hynny â phosibl, naill ai drwy welliannau’r Llywodraeth, neu drwy ddulliau eraill, megis canllawiau. Rwy’n rhannu'r awydd a fynegwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sicrhau bod gwybodaeth glir a phriodol yn cael ei darparu i denantiaid am ddiddymu. Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, rwy’n bwriadu lansio ymgynghoriad â thenantiaid ar y ddogfen wybodaeth yfory. Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â thenantiaid yn elfen allweddol o'r ymgynghoriad. Byddan nhw’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru i gasglu barn tenantiaid am y wybodaeth, a byddan nhw’n bwydo'r canlyniadau yn ôl i ni. Rwy'n ddiolchgar i’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid am eu cymorth â’r mater hwn.
Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori â grŵp llywio cynhwysiant ariannol y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol ar yr agweddau ariannol ar yr hawl i brynu a'r wybodaeth a ddarperir i denantiaid hefyd. Yn ogystal â darparu copi o'r ddogfen wybodaeth i landlordiaid cymdeithasol, mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn argymell gwelliant i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu copi o'r ddogfen i sefydliadau perthnasol eraill pan gaiff ei rhoi i landlordiaid cymdeithasol. Rydym ni’n bwriadu anfon y ddogfen at ystod eang o randdeiliaid, ond rwy'n ystyried y byddai’r argymhelliad yn gwella’r Bil a bwriadaf gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 yn dilyn argymhellion y pwyllgor.
Hefyd, argymhellodd y pwyllgor welliant i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid cymwys ei darparu i’w holl denantiaid perthnasol, megis y dyddiadau pan ddaw cyfyngiadau ar y cartrefi newydd a’r diddymiad llawn i rym. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y pwyllgor, ac rwy’n cydnabod y pryder y gallai tenantiaid fod yn llai ymwybodol nag eraill, ac rwy’n bwriadu cyflwyno’r gwelliant yng Nghyfnod 2 i nodi'r wybodaeth ofynnol am effeithiau'r Bil y mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol ei darparu i denantiaid.
Yn olaf, Llywydd, mae'r pwyllgor yn argymell gwelliant i sicrhau bod landlordiaid cymwys yn rhoi’r wybodaeth ofynnol i denantiaid yn y ffyrdd mwyaf priodol a hygyrch i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Rwy’n gwerthfawrogi pryder y pwyllgor y dylai'r ddogfen wybodaeth i denantiaid fod ar gael i denantiaid ym mha bynnag ffordd sy’n angenrheidiol i ddiwallu eu hanghenion a chytunaf yn llwyr â'r egwyddor y tu ôl i’r argymhelliad hwn. Fodd bynnag, nid wyf yn ystyried bod angen gwneud darpariaeth yn y Bil, gan fod landlordiaid eisoes yn effeithiol iawn wrth ymgysylltu â'u tenantiaid. Yn unol â'r egwyddor y tu ôl i'r argymhelliad, felly, yn rhan o'r ymgynghoriad ar y wybodaeth sydd i'w hanfon at denantiaid, byddaf hefyd yn ymgynghori ar yr arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid a byddaf hefyd yn rhoi cyngor i landlordiaid cymdeithasol ar ledaenu’r wybodaeth honno.
Nid yw argymhellion eraill y pwyllgor yn gofyn am welliannau i'r Bil, Llywydd. Maen nhw’n argymell y dylwn i weithio gyda'r gwasanaethau cynghori perthnasol i fonitro ac adolygu effaith y Bil ar y galw am wasanaethau, gyda'r bwriad o ddarparu cymorth ariannol ychwanegol cyn diddymu os bydd yr angen yn codi. Byddwn ni’n gweithio gyda gwasanaethau cynghori ac yn monitro effaith y Bil, ac nid wyf yn rhagweld yr angen am adnoddau ychwanegol, ond rwy'n hapus i barhau i ystyried yr angen hwn.
Rwyf hefyd yn croesawu'r adroddiad gan bwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Mae'r pwyllgor wedi gofyn i mi egluro'r rhesymeg y tu ôl i'r Bil ddiwygio deddfwriaeth gyfredol y DU yn hytrach na chyfuno Bil annibynnol. Llywydd, os caf i gymryd moment i egluro, mae'r Bil yn diddymu'r hawl i brynu a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr gan ddeddfwriaeth sy'n dyddio'n ôl i 1985. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid iddo ddiwygio deddfwriaeth bresennol Lloegr a Chymru i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. Er mwyn cyfuno’r newidiadau angenrheidiol hyn gyda darpariaeth annibynnol ar wahân, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i ailddatgan yn helaeth iawn y gyfraith sy'n ymwneud â'r hawl i brynu am gyfnod dros dro yn unig. Yn y Bil—sydd â’r unig bwrpas o ddiddymu'r hawl yn hytrach na gwneud darpariaeth ynglyn â hynny—dyna pam yr ydym ni wedi symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo hygyrchedd a chydlyniad cyfraith ddwyieithog Cymru o hyd. Mewn llawer o achosion, bydd hyn yn arwain at gyfuno deddfwriaeth bresennol. Ni fyddai prosiect cyfuno cyfraith tai gyffredinol, fodd bynnag, yn ychwanegiad priodol i'r Bil, sy'n gwneud darpariaeth sylweddol am y maes cul ac ar wahân o gyfraith tai yn unig ar y mater penodol hwn. Byddai cyfuno cyfraith tai yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn ac mae angen ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.
Mae argymhellion eraill yn ymwneud â darparu gwybodaeth gan Weinidogion Cymru i landlordiaid, ac mae'r pwyllgor yn argymell y gwneir gwelliannau i ddyletswydd Gweinidogion Cymru i wneud popeth sy’n rhesymol i ddarparu'r wybodaeth i landlordiaid yng Nghymru. Llywydd, er fy mod yn nodi argymhelliad pwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, ystyriwyd y darpariaethau hyn gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol hefyd, a oedd yn fodlon ar y trefniadau presennol yn y Bil. Felly, nid wyf yn bwriadu cyflwyno gwelliant ar y mater hwn ar sail argymhellion y pwyllgor polisi Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Mae dau argymhelliad arall pwyllgor y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar gyfer gwelliannau yn berthnasol i agweddau eithaf technegol sy’n ymwneud â drafftio manwl y Bil, a byddaf yn ceisio cyngor pellach ar y materion technegol cyn Cyfnod 2, a byddaf yn rhoi'r cyfle i’r pwyllgorau a'r Senedd graffu ar hynny.
Llywydd, yn olaf, rwy'n ddiolchgar am waith craffu a chefnogaeth y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n falch eu bod yn fodlon ar y modelu yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a’u bod o’r farn na fyddai'r baich y gallai'r Bil osod ar y sector yn rhy drwm. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am y dyrchafiad hefyd.
I now call on the Chair of the Equality, Local Government and Communities Committee, John Griffiths.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Rwy'n falch iawn fy mod i’n gallu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni er mwyn helpu i lywio ein gwaith—yn benodol, tenantiaid ledled Cymru a gymerodd amser i ddod i’n digwyddiadau grŵp ffocws. Hoffwn i ddiolch i aelodau o'r pwyllgor am eu gwaith ar y Bil a chydnabod eu parodrwydd i weithio gyda'i gilydd, hyd yn oed pan oedd gennym ni safbwyntiau eithaf gwahanol ar faterion pwysig yn ymwneud â chynnwys y Bil.
Cadeirydd, roedd ein hystyriaeth o'r Bil wedi canolbwyntio ar brofi pa un a fydd yr egwyddorion cyffredinol yn cyflawni nod y polisi i ddiogelu’r cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydu pellach yn wyneb y galw uchel a’r prinder cyflenwad. Yn ein gwaith craffu, rydym ni wedi ystyried pob un o'r darpariaethau yn fanwl. Wrth wneud hyn, rydym ni wedi sôn am faterion ehangach, gan gynnwys y cyflenwad tai ac effaith Mesur Tai (Cymru) 2011. Roedd y Mesur hwn yn gam tuag at y ddeddfwriaeth hon, ac wedi galluogi awdurdodau lleol i wneud cais i atal yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael mewn ardaloedd lle mae pwysau uchel o ran tai.
Wrth gwrs, mae’r hawl i brynu yn un o'r polisïau cyhoeddus mwyaf adnabyddus, ac, ers ei gyflwyno yn y 1980au cynnar, mae rhyw 135,000, 136,000 o gartrefi awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu gwerthu o dan y cynllun. Mae llawer wedi manteisio arno, ac mae wedi bod yn ddadleuol. Yng Nghymru, pwyslais y polisi oedd diogelu'r stoc o dai cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, yn gyntaf drwy leihau lefel y disgownt sydd ar gael, a thrwy gynnig y cyfle i wneud cais i atal y cynlluniau mewn ardaloedd lle mae pwysau sylweddol o ran tai. Y Bil hwn, felly, yw penllanw yr ymagwedd hon.
Cawsom dystiolaeth gadarn a oedd yn dangos y dylid defnyddio’r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael i fynd i'r afael â'r pwysau sylweddol am dai y mae cymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu. Rydym ni’n gwybod bod yna alw mawr am dai cymdeithasol ac y gallai’r rhan fwyaf o’r darparwyr tai cymdeithasol lenwi pob un o'u heiddo lawer gwaith drosodd. Rydym ni’n cydnabod nad dileu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yw'r unig arf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac nad dyma’r prif arf o ran cynyddu’r cyflenwad o dai ychwaith. Fodd bynnag, bydd yn gwneud yn siŵr bod tai cymdeithasol presennol a newydd yn cael eu cadw yn y sector a bod modd eu defnyddio at eu diben: sef darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf.
Rydym ni’n deall y bydd tenantiaid yn colli hawl y maen nhw wedi gallu ei harfer ers dros 30 mlynedd, ond rydym ni’n cytuno â Llywodraeth Cymru, os na ddiddymir yr hawliau, mae perygl y bydd y cynlluniau hyn yn parhau i danseilio ymdrechion gan y sector tai cymdeithasol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Er y diddymir yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael, erbyn hyn mae mentrau eraill ar gael i helpu pobl i brynu eu cartrefi, gan gynnwys Help i Brynu. Er bod gan rai aelodau o'r pwyllgor bryderon penodol na chaiff tenantiaid mewn ardaloedd sydd yn cael eu heffeithio gan y diddymu cyfle arall i brynu eu cartref, daeth y pwyllgor i'r casgliad mwyafrifol i argymell i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol hynny, fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn gwella’r Bil, ac rwy’n troi at y meysydd hyn nawr.
Mae pob un o'n hargymhellion yn ceisio cryfhau’r darpariaethau hynny yn adran 8. Mae'r rhain yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth i helpu tenantiaid i ddeall effaith y Bil cyn cyflwyno’r diddymu. Y bwriad yw y bydd yr wybodaeth hon yn helpu tenantiaid i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau. Cadeirydd, mae hyn, wrth gwrs, yn newid polisi arwyddocaol, sy'n disodli’r polisi adnabyddus a hirsefydlog hwnnw sydd wedi bodoli ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’n hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau wrth wneud yn siŵr y gall y rhai hynny a allai gael eu heffeithio gan y newid ddeall yr effaith y gallai ei chael arnyn nhw, a gwneud penderfyniadau o ran pa un a ydynt am arfer eu hawl i brynu neu gaffael cyn ei cholli am byth.
Yn argymhelliad 2, yna, rydym ni’n galw i'r Bil gael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu'r ddogfen wybodaeth i sefydliadau perthnasol fel gwasanaethau cynghori a grwpiau sy'n cynrychioli tenantiaid. Rydym ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod tenantiaid ledled Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson. I'r perwyl hwn, yn argymhelliad 3, rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i'r Bil i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid cymwys ei rhoi i denantiaid. Dylai gwybodaeth o'r fath gynnwys y dyddiadau y bydd y cyfyngiadau a’r diddymu llawn yn dod i rym.
Mae'n hanfodol bod tenantiaid ledled Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson i sicrhau nad yw’r lle y maent yn byw ynddo yn effeithio ar faint o wybodaeth y maent yn ei derbyn, a’i hansawdd. Ni ddylai fod yna loteri cod post. Yn gysylltiedig â hyn, rydym ni hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn y Bil i sicrhau bod landlordiaid yn cyfleu'r newidiadau yn y ffordd fwyaf hygyrch a phriodol. Mae gennym dystiolaeth glir i ddangos bod hyn yn rhywbeth y mae landlordiaid cymdeithasol yn dda am ei wneud, ond, drwy ddiwygio'r Bil fel yr ydym ni’n ei awgrymu, rydym ni’n credu y bydd yn sicrhau cysondeb ar draws y sector. Bydd hefyd yn lleihau'r perygl bod rhai grwpiau penodol o denantiaid yn methu â chael yr wybodaeth angenrheiddiol i wneud penderfyniadau gwybodus.
Cadeirydd, rwy'n ddiolchgar bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r materion hyn ynghylch gwybodaeth yn y Siambr heddiw. Rwyf wedi clywed, a bydd Aelodau yn gyffredinol wedi clywed yr hyn a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud. Mae'n cyfrannu rhywfaint, yn fy marn i, at fynd i'r afael â phryderon y pwyllgor, ond, yn amlwg, mae’r argymhellion a wnawn ni fel yr wyf i wedi'u hamlinellu.
Yn amlwg, Cadeirydd, o ran y cyngor a fydd ar gael, mae’r pwysigrwydd bod gan denantiaid fynediad at gyngor clir a diduedd ynghylch pa un a ddylen nhw arfer eu hawl i brynu neu gaffael yn hanfodol. Nid oeddem wedi ein hargyhoeddi am yr angen am wasanaethau cyngor ychwanegol, ond rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet yn monitro effaith y Bil ar y galw am wasanaethau cynghori presennol ac yn ystyried rhoi cymorth ychwanegol, os bydd angen. Unwaith eto, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd i'r afael â'r materion hynny yn ei araith agoriadol heddiw, Cadeirydd, a byddwn ni i gyd, rwy’n credu, yn ystyried sut y gellir datblygu hynny maes o law.
Cadeirydd, rydym ni’n croesawu'r cyfle i adolygu'r wybodaeth ddrafft ar gyfer tenantiaid, a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ein gwaith craffu, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Drwy wneud hyn, roeddem ni’n gallu ei rhannu â rhanddeiliaid a chael eu barn arni, ac mae ein hargymhelliad olaf yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fynd â hyn ymhellach, ac y dylid profi'r ddogfen wybodaeth gyda thenantiaid i sicrhau ei bod yn gwbl addas at ei diben.
Cadeirydd, rwy’n gallu gweld bod fy amser wedi dod i ben, felly, i gloi, Cadeirydd, rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd yr argymhelliad hwn. Roeddem ni’n falch iawn i gael cyfrannu at y cynigion deddfwriaethol ac rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn gwella’r Ddeddf yn y pen draw. Diolch yn fawr.
Thank you very much. I call on the Chair of the Finance Committee, Simon Thomas.
Thank you, Chair, and it’s a pleasure to speak on behalf, very briefly, of the Finance Committee, just to outline the financial implications of the Abolition of the Right to Buy and Associated Rights (Wales) Bill.
The Finance Committee wishes to bring the Assembly’s attention to the wide variation in the figures in the regulatory impact assessment in estimating the potential costs and benefits that could arise from implementing the Bill’s provisions. The figures provided range from a potential benefit of £57.4 million to a potential cost of £75.3 million. This would usually be a cause for concern, but the Cabinet Secretary explained that uncertainties in predicting the number of property sales was the reason for this variation. He provided us with the details of the modelling used by the Welsh Government to measure the financial impact on social landlords, and the committee was reassured by this work.
Some stakeholders have voiced concern that a surge in applications by eligible tenants to exercise their right to buy could result in an increased workload during the one-year period following Royal Assent. We believe this concern must be weighed against the Cabinet Secretary’s assertion that there is much support for the Bill within the housing sector—support that was echoed by John Griffiths, the committee Chair, who’s just spoken.
Finally, I would like to re-iterate an issue that this Finance Committee and our predecessor committee have raised on a number of occasions relating to the costs of implementing secondary legislation provisions. In the case of this Bill, the Cabinet Secretary has assured us that the foreseeable costs are accounted for in full.
Byr iawn. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Cadeirydd. Rhoesom adroddiad ni ar y Bil hwn ar 7 Gorffennaf, a gwnaethom bum argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyffredinol, roeddem ni’n fodlon ar y cydbwysedd a sicrhawyd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi’i adael i’r is-ddeddfwriaeth, a hefyd bod hawliau dynol yn cael eu cynnwys fel y nodir yn y memorandwm esboniadol a thystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i ni.
Fodd bynnag, fe wnaethom awgrymu y byddem ni wedi hoffi cael esboniad mwy trylwyr ynghylch pam y dewisodd Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno Bil sy'n diwygio deddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn y DU, yn hytrach nag un sydd wedi’i chydgrynhoi ac yn annibynnol. Felly, rwyf mewn gwirionedd yn ddiolchgar iawn heddiw, ac mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn, am ei fod wedi nodi ei farn ac eglurhad pellach ar y cofnod yn y fan hyn heddiw yn y Siambr. Roedd o gymorth mawr mewn gwirionedd—a hefyd ei sylwadau ar gyfraith ddwyieithog Cymru, yn ogystal â dyfodol y ddeddfwriaeth wedi’i chydgrynhoi.
Gwnaethom ni ddau argymhelliad mewn cysylltiad ag adran 8 o'r Bil. Yn gyntaf, mae’r pwyllgor wedi bod o’r farn ers amser hir fod yn rhaid i ddinasyddion wybod yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt er mwyn i’r gyfraith fod yn effeithiol. Felly, rydym ni’n croesawu'r gofyniad a nodir ar wyneb y Bil i baratoi a chyhoeddi dogfen wybodaeth wedi'i thargedu i gynorthwyo tenantiaid i ddeall effeithiau'r Bil hwn. Fodd bynnag, rydym ni’n nodi bod y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd 'pob cam rhesymol' i ddarparu copi o'r ddogfen hon i bob landlord cymwys. Nid oeddem ni’n ystyried bod hynny'n mynd yn ddigon pell, felly, fe wnaethom ni argymell y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliant yng Ngham 2 i osod dyletswydd ddiamod ar Weinidogion Cymru i ddarparu’r ddogfen wybodaeth i bob landlord cymwys yng Nghymru.
Nawr, rydym ni’n cydnabod yr heriau o ran cysylltu â landlordiaid sydd wedi eu lleoli y tu allan i Gymru, ac mae argymhelliad 3 o'n hadroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa honno. Yn sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, nododd fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried y mater hefyd, ac roedden nhw’n fodlon ar ffurf cynigion y Bil fel ag y maent. Felly, byddem ni’n gofyn yn syml i'r Gweinidog, a fydd yn edrych eto ar hyn wrth i Gyfnod 2 nesáu i weld a yw'n afresymoll o drwm ac yn afresymol o gymhleth ac, os nad ydyw, efallai y byddai'n ystyried ein hargymhelliad ymhellach bryd hynny.
Gwnaethom ni ddau argymhelliad hefyd mewn cysylltiad ag adran 9 o'r Bil ynghylch pwerau i wneud rheoliadau. Mae’r cyntaf o'r rhai hyn yn ceisio lleihau lled y pŵer, a nod yr ail yw gwella eglurder. Nawr, rwy’n nodi ac yn croesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet mewn cysylltiad â'r ddau argymhelliad hynny heddiw y bydd yn ceisio tystiolaeth bellach cyn Cyfnod 2 o'r Bil, ac rwy'n siŵr y bydd aelodau'r pwyllgor ac Aelodau'r tŷ hwn yn dychwelyd yn briodol i’r materion hyn yn y cam hwnnw. Ac rwy’n diolch i aelodau fy mhwyllgor a’n tîm am eu gwaith craffu ar y Bil hwn.
Cadeirydd, mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyma'r unig ffordd i fodloni’r argyfwng tai. Bu’r galw am dai yn uwch na’r cyflenwad o dai yng Nghymru, fel ar draws y DU, ers nifer o flynyddoedd. Mae'r galw ychwanegol am dai yn deillio o gynydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un-person, ond hefyd ffactorau eraill megis y cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’r ymosodiad parhaus ar yr hawl i brynu yn dargyfeirio ymylol o'r brif broblem—diffyg adeiladu tai. Bydd y diddymu yn cael gwared ar gyfle hanfodol i denantiaid tai cymdeithasol ddod yn berchen ar dai. Mae wedi bod yn bolisi aruthrol o boblogaidd—efallai’r enwocaf yn yr ugeinfed ganrif.
Yn hytrach na mynd i'r afael ag anghenion tai drwy gyfraddau adeiladu tai priodol, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad presennol—mae hyn i’w groesawu, ond nid yw’n ddigonol. Ers 2004, mae Llywodraethau Cymru olynol— â phob un wedi cynnwys y Blaid Lafur, ac un wedi cynnwys Plaid Cymru—wedi eu rhybuddio am yr argyfwng tai sydd ar y gorwel, oni bai bod llawer mwy o dai yn cael eu hadeiladu.
Roedd adroddiad yr Athro Holmans o’r enw ‘Yr Angen a'r Galw am Dai yng Nghymru yn y Dyfodol’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru—rwy’n rhoi clod iddi am hynny—yn amcangyfrif bod angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd ar Gymru, neu 12,000 bob blwyddyn, rhwng 2011 a 2031, o dan yr hyn a elwir yr amcanestyniad amgen. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun, bydd gan Gymru ddiffyg o ryw 66,000 o gartrefi yn 2031, sydd gyfwerth â thref o faint Merthyr.
Ond yr agwedd waethaf yw nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn bodloni ei thargedau annigonol. Mae'r gyfradd cwblhau tai newydd yn methu’n gyson â chyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a dim ond 6,900 o gartrefi a gwblhawyd yn 2015-16, o gymharu â'r targed o 8,700. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru gyrraedd ei tharged tai ei hunan oedd yn 2007-08. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r argyfwng tai, mae angen iddyn nhw roi'r gorau i wastraffu amser ar ffactorau ymylol fel diddymu'r hawl i brynu, ac mae angen iddyn nhw fabwysiadu'r amcanestyniad amgen a gynigiwyd gan yr Athro Holmans. Yn 2015, dadleuodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr fod angen 14,000 o gartrefi y flwyddyn yn ychwanegol ar Gymru i fodloni'r galw. Pa bynnag amcanestyniad yr ydych chi’n ei gymryd, mae'n eithaf amlwg bod Llywodraeth Cymru yn syrthio yn bell iawn iawn y tu ôl i unrhyw beth tebyg i gyfradd ddigonol o adeiladu tai.
Fel y dywedodd y Gweinidog, gwerthwyd 139,000 o gartrefi rhwng 1981 a 2016 o dan y cynllun hawl i brynu. Ac mae’n rhaid i chi ddweud ei fod wedi cyflawni ei bwrpas bwriadedig—cafodd 139,000 o deuluoedd gymorth i brynu eu cartrefi, ac mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Geidwadol Cymru yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae'n wir, yn y blynyddoedd diwethaf, bod y lefelau o’r stoc tai cymdeithasol a werthwyd wedi bod yn isel iawn, ac felly mae’r effaith a gaiff ar argaeledd tai cyffredinol yn ymylol. Yr unig reswm bod modd teimlo’r effaith o gwbl yw oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu digon o gartrefi—dyna sydd wraidd y broblem. Ac, yn wir, canfu ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun, wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy’n dyfynnu,
‘Mae’r Hawl i Brynu wedi cael ychydig iawn neu ddim effaith ar allu awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.... Ymddengys bod ffactorau eraill, megis yr economi ac argaeledd tir a chyllid yn cael mwy o ddylanwad.’
O na fyddech wedi gwrando ar eich ymgynghorwyr arbenigol eich hun yn hyn o beth ac wedi mynd i'r afael â'r problemau hyn, oherwydd dyna’n amlwg beth y mae angen i ni ei wneud.
Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud, dylai hyd yn oed y polisïau mwyaf llwyddiannus gael eu hadolygu o bryd i'w gilydd. Ac os yw Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio'r hawl i brynu, yna byddem yn ymgysylltu'n adeiladol â hynny, oherwydd bod rhai dadleuon yn bodoli y gellir eu gwneud ar gyfer y math hwnnw o bolisi. Ond—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn fyr, gwnaf.
A ydych chi’n derbyn y bydd wastad angen stoc o dai cymdeithasol, ac a ydych chi’n gwrthwynebu tai cymdeithasol yn ideolegol?
Nid yn unig yr wyf i’n derbyn y bydd wastad angen stoc o dai cymdeithasol, rwy’n credu mai tai cymdeithasol yw’r dewis gorau o bell ffordd i lawer iawn o bobl, ac fe ddylem ni ateb y galw hwnnw, ac adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Dyna beth y mae angen i ni ei wneud. Ac yn syml, byddwn wedi dymuno gweld y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau ar y sail honno, i gwrdd â'r argyfwng diamheuol sydd yn ein hwynebu yn gyffredinol o ran adeiladu tai.
Mae'n rhaid i mi ddod i ben nawr, gan fod amser yn mynd yn brin. Yn anffodus, Cadeirydd, mae Plaid Geidwadol Cymru mewn lleiafrif ar y pwnc hwn. Rwy'n ddigon o realydd i gydnabod hynny. Felly, gan dybio y bydd y cynnig hwn yn pasio—heb ein cymorth ni—byddwn ni wedyn, fel plaid, yn symud i'r cam nesaf ac yn ceisio gwella’r Bil yn adeiladol. Ein prif flaenoriaeth fydd darganfod y cydbwysedd cywir rhwng hawliau tenantiaid i gael cyfnod pontio rhesymol—bob tenant—ac, os mai dyna yw ewyllys y Cynulliad, dod â’r hawl i brynu i ben. Dyna fydd y prif beth y byddwn ni’n canolbwyntio arno.
Cadeirydd, a gaf fi ddweud i gloi—
Cewch, a wnewch ddod i gasgliad, os gwelwch yn dda?
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths. Fe ddywedais i mai llais y lleiafrif ydw i, ond rwy’n diolch i chi, John, am y ffordd ragorol y gwnaethoch chi gadeirio’r pwyllgor a sicrhau bod gennyf bob cyfle i gyflwyno fy mhryderon wrth baratoi'r adroddiad. Diolch.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi symud ymlaen efo’r ddeddfwriaeth yma heddiw. Mae’n hen bryd iddo fo ddigwydd ac mae’n cywiro camgymeriad hanesyddol sydd wedi cyfrannu at gyflenwad annigonol o dai cymdeithasol yng Nghymru.
Bob wythnos rydw i, fel llawer ohonoch chi, yn cael pobl yn dod i’m cymhorthfa efo problemau tai—pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol anaddas, gorlawn, neu maen nhw’n byw efo perthnasau, ar fin mynd yn ddigartref, neu maen nhw’n methu â chael tŷ cymdeithasol, a heb ddigon o bwyntiau i symud i fyny’r rhestr. Mae hwn yn rhywbeth sy’n digwydd bob wythnos.
Mae adroddiad y pwyllgor yn adlewyrchu cytundeb cyffredinol gyda’r egwyddorion, heblaw am anghytundeb amlwg yr Aelod Ceidwadol. Fe wnaeth fy nghyfaill Jocelyn Davies lawer o waith yn y maes yma fel Gweinidog tai, a phob clod iddi hi am sefydlu’r prosesau sydd wedi galluogi awdurdodau lleol i atal yr hawl i brynu. Mewn ffordd, mae’r ddeddfwriaeth yma yn cadarnhau’r arfer dda honno.
Cwpwl o bethau am yr hawl i brynu: nid oedd o’n gwneud llawer o synnwyr ariannol gan ei fod yn gymhorthdal i rai a oedd efo ychydig o arian ac oedd yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Nid oedd o fudd i drigolion mewn blociau fflatiau mewn ardaloedd nad oedd yn ddeniadol, a oedd yn methu â chael morgeisi. Fe wnaeth o olygu lleihad yn y stoc tai cymdeithasol gan gynyddu gorlenwi a digartrefedd o ganlyniad. Mewn rhai achosion, fe greoedd elw i landlordiaid prynu i rentu gan greu amodau tai salach, yn amlach na pheidio.
Felly, mae hi’n hen bryd symud ymlaen efo hyn, ac mae angen y buddsoddiad hefyd. Rydw i’n cytuno efo beth mae David Melding yn ei ddweud—mae angen y buddsoddiad hefyd a fydd yn dod â thon newydd o dai cymdeithasol. Ni fydd y ddeddfwriaeth ar ei ben ei hun yn datrys y broblem o ddiffyg cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn wahanol i’r Torïaid, rydym ni yn credu ei fod o’n rhan o’r jig-so. Nid ydy o’n fater ymylol; mae o’n rhan o’r datrysiad, ac un a ddylai arwain at gynnydd mewn buddsoddiad a mwy o dai cymdeithasol.
Ar ôl pasio’r Ddeddf yma, mae’n debyg y bydd yna rai pobl mewn tai cymdeithasol yn dal i hoffi prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae gen i gydymdeimlad efo hynny. Felly, law yn llaw â’r ddeddfwriaeth yma, mae angen datblygu opsiynau ‘shared equity’ a rhentu i brynu—opsiynau y mae’r cymdeithasau tai wedi’u defnyddio yn y gorffennol. Mi ddylid hefyd edrych am ddulliau eraill i helpu pobl i symud tuag at berchnogi eu tai, os mai dyna ydy eu dymuniad nhw.
Yn olaf, mae yna risg wrth i’r ddedlein agosáu—risg y byddwn ni’n gweld rhai mudiadau yn cynnig arian i bobl i brynu eu tai, gyda golwg ar wneud arian sydyn. Mae rhai pobl wedi galw hyn yn rhywbeth y mae angen gweithio yn benodol i’w osgoi. Fe’i trafodwyd yn y pwyllgor, ac fe gafwyd tystiolaeth i’r perwyl yna. Rydw i’n credu bod hyn yn haeddu mwy o ystyriaeth a mwy o ymchwil a dylid ystyried cynnig cyngor ariannol annibynnol i’r rhai sydd ei angen o.
Rydw i hefyd yn bryderus y gall fod cynnydd sydyn yn y nifer sydd am brynu cyn i’r Ddeddf ddod i rym, gan leihau’r stoc ymhellach—y sbeic y mae rhai wedi sôn amdano fo. Mi hoffwn i weld y Llywodraeth yn rhoi mwy o ystyriaeth i’r agwedd yna hefyd. Diolch yn fawr.
Mae bwriad Llywodraeth Cymru i ddiddymu’r Bil hawl i brynu yn ceisio mynd i'r afael â mater y stoc tai cymdeithasol, ac mae hyn yn sicr yn fater difrifol, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r modd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r broblem.
Mae gwahanol agweddau ar yr argyfwng tai. Mae diddymu'r hawl i brynu yn un ffordd o ystyried y broblem, ond dim ond rhan fach o'r darlun cyffredinol ydyw. Ychydig iawn o werthiannau hawl i brynu a geir erbyn hyn, o’i gymharu â 20 neu 30 mlynedd yn ôl. Rydym ni yn UKIP yn derbyn bod yr hawl i brynu wedi achosi problemau mewn rhai ffyrdd. Roedd yn anghywir na chaniatawyd i’r elw o werthiannau tai cyngor lifo yn ôl i mewn i'r gronfa o arian, gan ganiatáu i dai cyngor newydd gael eu hadeiladu. Byddem yn argymell polisi lle y byddai’r holl refeniw yn y dyfodol o werthiannau hawl i brynu yn cael ei ailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Rydym ni’n derbyn y dystiolaeth na fyddai hyn, ynddi’i hun, mewn unrhyw ffordd yn hwyluso sefyllfa tebyg am debyg sef bod ty cymdeithasol newydd yn cael ei adeiladu am bob un a gaiff ei werthu. Nid yw hyn yn ymarferol yn economaidd, fel y gwnaeth gwahanol dystion nodi yn ystod yr ymchwiliad yn y cyfnod pwyllgor.
Ond mae amrywiaeth o offer ar gael i Lywodraeth Cymru i ysgogi adeiladu rhagor o dai yng Nghymru. Yn UKIP, rydym ni’n argymell creu mwy o gartrefi modiwlaidd wedi’u hadeiladu mewn ffatri, a allai fod yn llawer mwy fforddiadwy na thai a adeiladwyd yn gonfensiynol. A chyfeiriodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru ei hun, Mark Drakeford, yn ddiweddar at y broblem o fancio tir, lle bo gan ddatblygwyr eiddo mawr asedau tir sylweddol, ond nad ydynt yn adeiladu arnynt am flynyddoedd lawer. Gyda dyfodiad pwerau treth newydd Llywodraeth Cymru, gellid dyfeisio ffyrdd—eto, fel y mae Mark Drakeford wedi’i awgrymu—i ysgogi’r datblygwyr i adeiladu. Rydym ni’n credu y gallai hyn gyflwyno cyfle newydd.
Pan ddaeth y Gweinidog â’i ddeddfwriaeth arfaethedig i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, roeddwn yn cefnogi’r amcanion yn fras, a gwrandewais ar y dystiolaeth. Rwyf wedi mynd ag achos y Llywodraeth yn ôl i grŵp UKIP i gynnal profion ar y cynigion, ac i’w gwneud yn destun trafodaeth a dadl gadarn. Yn y pen draw, daeth y grwp i’r farn bendant bod cael gwared ar yr hawl i brynu yn rhwystr rhy gryf i’r dyhead i fod yn berchen ar eiddo. Felly, fel grŵp, nid ydym yn cefnogi egwyddor gyffredinol y Bil, a byddem yn annog y Gweinidog i edrych ar y dulliau eraill sydd ar gae iddo erbyn hyn a fyddai’n galluogi lefelau llawer uwch o adeiladu tai yng Nghymru nag yr ydym wedi eu gweld yn y blynyddoedd diwethaf.
Rwy'n cydnabod y bu’r hawl i brynu yn bwysig iawn i lawer iawn o deuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sydd â phlentyn ag anabledd ac sy'n poeni am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r plentyn pan fyddant yn marw. Mae eu galluogi nhw i adael eu cartref iddo yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r unigolyn hwnnw a allai fod yn agored i niwed ac yn methu ag ennill ei fywoliaeth ei hun. Felly, nid wyf yn wrthwynebus yn ideolegol i’r hawl i brynu, ond credaf fod y cyfuniad o’r hawl i brynu a'r methiant i adeiladu tai newydd yn lle'r stoc tai hwnnw wedi arwain at gyfuniad o amgylchiadau sydd wedi gwaethygu’r sefyllfa. A dyna pam mae angen i ni gymryd y cam hwn.
Oherwydd ni fyddai wedi bod yn broblem pe byddai'r derbyniadau o’r cynllun hawl i brynu wedi eu hailfuddsoddi gan y Trysorlys yn yr awdurdodau lleol i'w galluogi i adeiladu tai newydd i greu stoc newydd, gan gynnwys y gostyngiad yn amlwg, a oedd yn eithaf sylweddol ar y dechrau, a phe byddai wedi cyd-fynd ag adeiladu tai preifat hefyd, ond y gwrthwyneb a ddigwyddodd: mae'r adeiladwyr tai preifat wedi bod yn gwneud dim ac wedi methu ag adeiladu’r cartrefi newydd fforddiadwy o ansawdd da sydd eu hangen ar bobl. Mae hyn, yn arbennig i bobl ifanc, wedi creu sefyll ofnadwy. Oherwydd, os nad oes gennych chi blentyn nid ydych chi’n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol, ac felly maent yn cael eu gwthio i'r sector rhentu preifat a chan fod y prisiau mor uchel nid ydynt yn gallu cynilo arian ar gyfer blaendal. Mae pobl yn goddef hyn pan nad oes ganddyn nhw blant, yn enwedig myfyrwyr—maent yn goddef tai mewn cyflwr ofnadwy—oherwydd eu bod yn meddwl, ‘Wel, dros dro yw hyn a byddaf yn symud ymlaen y flwyddyn nesaf’, ond ar ôl i chi ddechrau cael plant mae'n hollol anobeithiol, oherwydd mae’n golygu na all eich plant byth fod yn siŵr y gallant barhau i fynd i'r un ysgol. Gallant gael eu symud ymlaen flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid oes ganddynt unrhyw sicrwydd deiliadaeth o gwbl.
Felly, cytunaf yn llwyr fod angen inni adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cael anhawster mawr i gyrraedd y targedau heriol sydd eisoes wedi eu pennu. Pe byddech chi, David Melding, yn gallu mynd at y goeden arian hud sydd gan Theresa May, yna efallai y gallem ni i gyd fod yn adeiladu mwy o gartrefi, a dyna beth y byddem ni’n hoffi ei wneud—tai preifat a chymdeithasol.
Hoffwn ddweud i gloi, pe na fyddem ni eisoes wedi bod yn bwriadu cymryd y cam hwn byddem yn sicr wedi bod angen gwneud hynny ar ôl tân Grenfell oherwydd rwy’n meddwl bod tân Grenfell yn newid popeth. Rwy'n credu bod ymddygiad llawer o awdurdodau lleol yn Llundain, sydd wedi bod yn allforio’r bobl dlawd ar gyfradd ryfeddol, yn enwedig yr awdurdodau lleol hynny a benderfynodd ddymchwel ystadau tai i wneud lle ar gyfer datblygiadau newydd yn y sector preifat, yn gwbl annerbyniol a bydd angen rhoi diwedd ar hynny. Rwy'n rhagweld yn hyderus y bydd rhwymedigaeth ar bob awdurdod lleol i gynllunio ar gyfer anghenion tai cymdeithasol eu poblogaethau a’u diwallu. Ond, am y tro, ni allwn, rwy’n credu, barhau i ganiatáu i’r stoc fynd y tu allan i'r sector cymdeithasol ar bron yr un gyfradd ag yr ydym yn bwriadu adeiladu. Felly, yr oedd yn gwbl iawn—
A wnaiff yr Aelod ildio? Mae'r ffigurau—. Hyd yn oed os yw'r Gweinidog yn gobeithio adeiladu tua 3,500 i 4,000 o dai cymdeithasol y flwyddyn, mae prin 400 yn cael eu gwerthu ar hyn o bryd, felly mae gwahaniaeth mawr.
Iawn. Wel, rwy’n derbyn hynny, nawr, gyda'r gostyngiad yn y disgownt, mae hynny’n llai. Ond y ffaith yw bod sefydliadau tai cymdeithasol yn dweud wrthym eu bod yn amharod iawn i adeiladu tai cymdeithasol newydd os ydynt o’r farn eu bod wedyn yn mynd i gael eu defnyddio i weithredu’r hawl i brynu, a dyna beth sy'n eu dal yn ôl. Mae angen i ni roi'r sicrwydd iddynt nad dyna fydd yn digwydd. Os bydd y sefyllfa'n newid, a bod llawer iawn mwy o arian yn dod i awdurdodau lleol i adeiladu tai cymdeithasol, yna gallwn ailedrych ar hyn yn llwyr, ond, ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl gwneud hyn ac mae’n rhaid i ni yn sicr adeiladu mwy o gartrefi o bob math, ac felly rwyf i o’r farn bod y cam hwn yn gwbl briodol.
Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn dechrau:
‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion tai... Mae'r Bil yn... cydnabod pwysigrwydd cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy yn rhan o wead bywyd pobl a chymunedau cryf.’
Ychydig o jôc drasig a di-chwaeth, yn anffodus. Erbyn i’r Ceidwadwyr adael y Llywodraeth yn 1997, roedd gwerthiannau hawl i brynu yng Nghymru yn cael eu gweithredu ar sail tebyg am debyg, bron, ond, yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod Llywodraeth Cymru—Llywodraeth Lafur Cymru—wedi lleihau mwy na 70 y cant ar nifer y cartrefi cymdeithasol newydd—wrth i restrau aros gynyddu, ac roedd adolygiad tai y DU yn 2012 yn dweud mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd blaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol. Erbyn yr ail Gynulliad, roedd ymgyrch Cartrefi i Gymru yn rhybuddio y byddai yna argyfwng tai. Cafodd ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru. Fel y mae paragraff agoriadol maniffesto Homes for All Cymru mis Hydref 2014 yn nodi, ‘Mae yna argyfwng tai’; argyfwng a achoswyd gan fethiant Llafur i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd ers 1999, nid yr hawl i brynu.
Byddai bwriad Llafur Cymru i ddiddymu'r hawl i brynu yng Nghymru yn golygu na fydd tenantiaid yn gallu prynu cartref a bod cyfle arall yn cael ei golli i gynyddu'r cyflenwad tai fforddiadwy a dechrau mynd i'r afael â’r argyfwng cyflenwad tai hwnnw. Hawl y tenant i brynu yw’r cynllun perchnogaeth tai cost isel mwyaf effeithiol erioed, ond nid oedd yn arwydd o ddiwedd y cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn newid i gymdeithasau tai dielw fel prif ddarparwyr, oherwydd bod modd iddyn nhw gael gafael ar fwy o gyllid ac adeiladu mwy o gartrefi yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae cyfyngiadau ar brynu wrth gwrs. Mae’n rhaid i denant fod wedi bod yn breswylydd ac yn talu rhent am o leiaf bum mlynedd ac mae maint y disgownt yn cael ei bennu gan hyd y denantiaeth. Os yw tenantiaid yn gwerthu’n gynnar, mae'n rhaid iddynt ad-dalu’r gostyngiad. Wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf yn gwneud hynny. Dangosodd ymchwil annibynnol fod dwy ran o dair o'r tenantiaid a brynodd yn dal i fyw yno dau ddegawd neu fwy ar ôl hynny. Mae ymchwil annibynnol arall wedi dangos bod tenantiaid mewn eiddo awdurdodau lleol, ar gyfartaledd, yn mynd i fod yn aros ynddyn nhw am 15 mlynedd arall neu fwy, sy’n dangos y byddai’r effaith ar y cyflenwad o ganlyniad i ddiddymu'r hawl i brynu yn gwbl ddibwys.
Nid yw’r bwriad arfaethedig i gael gwared ar yr hawl i brynu yn gwneud dim i greu mwy o gartrefi, nac i gynyddu nifer yr aelwydydd sydd â’u drws ffrynt eu hunain. Fel y gwnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig ganfod rai blynyddoedd yn ôl, ni fyddai atal yr hawl i brynu ynddo'i hun yn arwain at gynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy.
Ar y llaw arall, gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig amlinellu cynigion i ddiwygio’r hawl i brynu, buddsoddi’r elw o werthiannau mewn tai cymdeithasol newydd, a thrwy hynny gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a helpu i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai Llafur, gan adlewyrchu’r polisi hawl i brynu yn Lloegr, lle y gwnaeth Llywodraeth y DU, ar ôl 2010, ymrwymo i ail-fuddsoddi, am y tro cyntaf erioed, y derbyniadau ychwanegol o werthiannau hawl i brynu mewn tai rhent fforddiadwy newydd. Os yw cyngor yn methu â gwario'r derbyniadau o fewn tair blynedd, mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd yr arian nas gwariwyd i'r Llywodraeth, gyda llog.
Dangosodd ymchwil annibynnol a gyflwynwyd i un o bwyllgorau'r Cynulliad rai blynyddoedd yn ôl, ar gyfer pob tri gwerthiant, y gallai’r arian a ryddhawyd gynhyrchu dau gartref newydd ar gyfer dwy aelwyd newydd. O’i gymharu, ni fydd diddymu, ar ei ben ei hun, yn adeiladu yr un cartref ychwanegol, ni fydd yn cynyddu’r cyflenwad, ac ni fydd felly’n gwella fforddiadwyedd. Rhwng 2010 a 2015, adeiladwyd mwy na dwywaith cymaint o dai cyngor yn Lloegr nag ym mhob un o 13 mlynedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf ar lefel y DU, pan wnaeth rhestrau aros Lloegr bron dyblu wrth i nifer y tai cymdeithasol i'w rhentu gael ei dorri gan 421.000. Mae'r esboniad—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn fyr.
Diolch. Rwy’n diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych chi'n cytuno â llyfrgell ymchwil Tŷ'r Cyffredin bod y Llywodraeth Geidwadol wedi adeiladu y nifer lleiaf o dai yng Nghymru a Lloegr ers Baldwin?
Mae Cymru wedi bod dan y blaid Lafur ers 1999, dim byd i'w wneud â Lloegr, ac mae rhifau Lloegr wedi cynyddu ers i Lafur beidio â bod mewn grym. Dyna beth y mae'r ystadegau yn ei ddweud. Chi greodd yr argyfwng. Mae’n rhaid i chi fyw gydag ef. Gwnewch chi rywbeth yn ei gylch.
Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn datgan, rhwng 2011-12 a 2015-16, bod cyfanswm o 11,508 o unedau tai ychwanegol wedi eu hadeiladu, ond mae hyn wedi ei chwyddo trwy gynnwys perchnogaeth cartref cost isel a chartrefi rhent canolradd. Ond mae ffigurau Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos, yn yr un cyfnod, bod cyfanswm nifer yr anheddau a gwblhawyd yng Nghymru yn 29,939, o'i gymharu â 47,598 rhwng 1992-1993 a 1996-7, y pum mlynedd olaf pan oedd Llywodraeth Geidwadol yn gyfrifol am dai yng Nghymru.
Mae ffigurau Llywodraeth Cymru hefyd yn datgelu mai dim ond 4,347 o anheddau a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2015-16, o’i gymharu â 13,558 yn ystod y pum mlynedd olaf pan yr oedd Llywodraeth Geidwadol yn gyfrifol am dai yng Nghymru. Dyma pam y mae gan Gymru argyfwng cyflenwad fforddiadwy, a dyna pam fod y Bil sinigaidd hwn yn ddim ond twyll ideolegol i guddio brad tai mawr Llafur. Gwenwch chi, Weinidog. Dylech chi fod yn ysgwyd eich pen mewn cywilydd, oherwydd chi achosodd yr argyfwng hwn, ac rydych chi wedi eistedd yno yn anwybyddu'r rhybuddion am yr argyfwng, a nawr rydych chi’n honni mai rhywun arall a greodd yr argyfwng. Wel, rydych chi’n rhai da am feio pobl eraill. Onid yw hi’n bryd i chi ddechrau cymryd cyfrifoldeb am y llanast yr ydych wedi'i greu?
Rwy’n meddwl yr hoffwn i longyfarch rhai o'r ACau Llafur am wneud eu rhan dros yr argyfwng tai, o gofio bod cynifer ohonynt yn landlordiaid, a bod ganddynt fuddiant mewn mwy nag un eiddo. Rwy'n ystyried hynny ychydig yn rhagrithiol, a bod yn onest. [Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad cyn i chi fynd ymhellach?
Na, na. Mae ACau yn mynd i fod yn pleidleisio yma—
Os ydych chi’n ei daflu, mae angen i chi ei gymryd yn ôl.
Cymryd beth yn ôl?
Eich ensyniad.
Rwy’n eich llongyfarch chi i gyd ar wneud eich rhan dros yr argyfwng tai trwy fod yn berchen ar eiddo ychwanegol.
A wnewch chi barhau, Neil McEvoy?
Iawn. Rwy’n credu, mewn gwirionedd, bod hwn yn fwy o ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus nag unrhyw beth arall. Rwyf eto i glywed am ymateb dilys i, os yw tŷ yn cael ei werthu a’r arian yn cael ei roi yn ôl i mewn i'r system a’i fod yn disodli'r stoc, beth sydd o'i le ar hynny? Nid wyf wedi clywed ateb i hynny, mewn gwirionedd, oherwydd, rwy’n credu, ar draws y Siambr yma, nid oes neb yn cytuno â lleihau stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Un peth yr ydym ni i gyd yn ei fethu, hefyd, yw bod yna filoedd o eiddo gwag hir dymor y dylid eu hadnewyddu. Dylem fod yn cyflogi adeiladwyr lleol i adnewyddu’r eiddo hyn a rhoi cartref i bobl yn gyflym.
O ran yr atebion, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn brin o gyfalaf, ond mae yna gronfeydd pensiwn mawr ym mhob awdurdod lleol, a ddylai gael eu harneisio ar gyfer buddsoddiad cyfalaf, gyda chynllun i ddarparu tai cymdeithasol ar rent a hefyd, os gall pobl ei fforddio, i gael eu prynu. Rwy'n credu bod hwnnw'n gynnig dilys iawn ac y byddai'n ariannu llawer iawn o adeiladu tai. Oherwydd, os edrychwch chi ar y sector preifat, a phobl yn buddsoddi mewn cronfeydd pensiwn, un maes y byddant bob amser yn buddsoddi ynddo yw tai. Mae'r ased yn cronni gwerth a hefyd ceir cyfradd o adenillion ar yr eiddo bron ar unwaith.
Felly, rwy’n credu, i ddychwelyd at yr hyn a ddywedais yn gynharach, yr hyn sy’n fy mhoeni i am hyn—wrth gwrs, rwyf wedi fy rhwymo gan y chwip heddiw, ond yr hyn sy’n fy mhoeni i am hyn yw bod yna bobl yn eistedd yn y Siambr hon nad ydynt yn berchen ar un eiddo, nad ydynt â budd mewn dau, mae rhai â budd mewn tri, ac maent yn dweud wrth bobl dosbarth gweithiol ar ein hystadau na ellir eu caniatáu i fod yn berchen ar eu heiddo eu hunain. Rhagrith. Rhagrith.
Mae'n bleser dilyn dau siaradwr ymosodol y gallaf, drwy gael fy nghymharu â nhw, rwy’n ymddangos yn gymedrol ac yn gydsyniol. [Chwerthin.] Mae'n Fil rhyfeddol o wrthdroadol, hwn, oherwydd un o'r polisïau a wnaeth y blaid Lafur yn anetholadwy yn y 1980au oedd ei gwrthwynebiad penderfynol i gyflwyno'r hawl i brynu. Wrth gwrs, mae'r niferoedd yn wahanol iawn erbyn hyn, felly o bosibl efallai na fydd yn cael yr un effaith wenwynig ar y Blaid Lafur ag y gwnaeth eu hagwedd bryd hynny. Hefyd, mae gen i deimlad rhyfedd o déjà vu, oherwydd roeddwn i’n rhan o’r gwaith o berswadio Llywodraeth Thatcher i gynnwys cymdeithasau tai ym Mil tai 1979, a oedd yn rhoi i denantiaid cymdeithasau tai yr un hawliau a gynigiwyd i denantiaid y cyngor, ac, am yr un rhesymau ag y mae David Melding wedi eu hamlinellu, peth da iawn oedd hynny wrth gynyddu amrywiaeth perchnogaeth mewn ystadau.
Mae hwn yn Fil ideolegol oherwydd ei fod bob amser wedi ymddangos braidd yn hurt i mi, o ran polisi cymdeithasol, bod Llywodraeth yn sybsideiddio'r brics a’r morter yn hytrach na’r bobl hynny sydd angen cymorth i allu fforddio to uwch eu pen. Wrth gwrs, mae’n ffordd eithriadol o ddrud i ddarparu ar gyfer angen cymdeithasol, i adeiladu tai mewn gwirionedd yn hytrach na rhoi i bobl y modd o dalu rhent.
Mae'r ffigurau yn dangos yn ddiamwys bod y Bil hwn yn gwbl amherthnasol i'r ateb i'r argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru. Edrychwch ar y ffigurau. Dim ond 141 o dai a werthwyd gan awdurdodau lleol o dan yr hawl i brynu y llynedd. Gwerthodd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig 133 o dan y ddeddfwriaeth hawl i gaffael; gwerthwyd 299 ganddynt yn wirfoddol. Felly, dim ond 274 oedd cyfanswm nifer y tai o eiddo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a werthwyd o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu allan o stoc o 1.4 miliwn o dai yng Nghymru gyfan. Felly, yn amlwg, nid oes unrhyw arwyddocâd o gwbl i hyn y tu hwnt i arwyddocad ideolegol i'r Blaid Lafur, sydd bellach yn mynd yn ôl i’w meddylfryd gwreiddiol ar ôl 20 neu 30 mlynedd. Os edrychwn ni ar y ffigurau stoc, mae hyn yn eithaf dramatig. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn berchen ar 87,000 o eiddo ar rent. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen ar 137,000. Mae tai rhent preifat yng Nghymru—202,000. Perchen-feddiannaeth—bron i 1 miliwn. A beth rydym ni’n sôn amdano yma yw 274 o dai neu fflatiau sydd wedi eu gwerthu o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu mewn blwyddyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rhwng 1 Ebrill 1981 a 31 Mawrth 2016, gwerthwyd 139,000 o gartrefi cymdeithasau tai awdurdodau lleol. Dyna 45 y cant. Ni chafwyd rhai newydd yn lle dim o’r rhain.
Mae'n wir, yn ystod y cyfnod o amser dan sylw. Ie, 139,000. Yn yr un—[Torri ar draws.] Yn yr un cyfnod, mae nifer y tai neu fflatiau sy'n cael eu rhentu'n breifat wedi cynyddu gan 110,000. Felly, mae'r farchnad yn newid ac mae yna argyfwng tai am y rheswm a nododd David Melding. Mae gennym sefyllfa ofnadwy mewn gwirionedd, gan fod gennym gyfyngiadau sylweddol ar adeiladu drwy'r ddeddfwriaeth gynllunio, ar y naill law, ac rydym yn gwybod, gyda'r ffigurau mewnfudo, bod pwysau aruthrol o ran y galw, yn ogystal ag oherwydd rhannu aelwydydd a meddiannaeth unigol. Mae mwy o alw am eiddo, ac rydym yn gwybod, er gwaethaf yr holl sôn am gyni a glywir yn gyson yn y Siambr hon, bod y cynnydd enfawr yn y swm o arian mewn cylchrediad trwy leddfu meintiol mewn gwirionedd wedi cyfranu i raddau helaeth at brisiau asedau, ac mae effaith hyn wedi dechrau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr ac yn llifo tuag allan. Felly, os ydym ni am ddatrys y broblem tai—ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau gwneud hynny—yna mae'n rhaid i ni edrych yn rhywle arall yn hytrach na’r mesur hwn i gyflawni’r canlyniad hwnnw.
Ond yr hyn yr wyf i’n ei ganfod mor rhyfeddol am hyn yw bod hwn wedi bod yn bolisi rhyddhau mawr dros y blynyddoedd i gannoedd o filoedd o bobl a oedd yn dymuno bod yn berchen ar eu tai eu hunain. Nid oedd y ffaith eu bod yn eiddo cyngor neu’n eiddo tai cymdeithasol yn golygu eu bod yn symud allan i wireddu eu dymuniad i fod yn berchen ar eu heiddo eu hunain, a bod eu heiddo wedyn ar gael i bobl eraill a oedd eu hangen. Caiff eiddo eu clymu i fyny am genedlaethau, yn aml, gan bobl sy'n byw mewn tai awdurdod lleol neu dai cymdeithasol. Nid yw hynny'n mewn unrhyw ffordd yn golygu eich bod yn mynd i allu bodloni'r amcanion cymdeithasol yr ydym ni i gyd yn cytuno arnynt. Roeddwn o blaid democratiaeth perchenogaeth eiddo, ac rwy’n dal i fod, ac rwyf o blaid, fel y dywedodd Neil McEvoy, fod pobl dosbarth gweithiol sy’n dyheu am fywyd gwell yn gallu bod yn rhan o hynny.
Rhianon Passmore.
Diolch i chi, Llywydd—nid oeddwn i’n sylweddoli fy mod yn mynd i gael fy ngalw. Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru). Yn ystod y misoedd ers hynny, cafwyd agos i gonsensws yn dod i'r amlwg o ran cefnogaeth eang i egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae gormod o sylwebyddion wedi cau eu clustiau i atebion ymarferol nad ydynt yn dilyn ateb seiliedig ar y farchnad, ond, i genhedlaeth newydd o bleidleiswyr, mae hyn yn syml yn ideoleg synnwyr cyffredin. Bydd hyn yn cymryd rheolaeth dros gyfleustodau allweddol sydd wedi eu siomi, neu lywio polisi tai sy'n gweithio ar gyfer pobl ac nid marchnadoedd, ac, i bobl gyffredin, nid ydynt yn poeni fawr ddim am y rhesymeg y tu ôl i chwyldro Thatcher; maent eisiau gwybod, yn syml: a yw'n gweithio i mi a fy nheulu?
Felly, beth yw realiti tai a thai cymdeithasol ym Mhrydain a Chymru? Mae yna alw mawr allan yna, galw a all achosi gofid aruthrol, gorlenwi tai, iechyd meddwl gwael, a phlentyndod wedi’i ddifetha i filoedd o deuluoedd. Mae’n ymddangos mai dim ond Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod hyn ac mae’n adeiladu tai cyngor newydd. Mae'n werth nodi nad syniad Margaret Thatcher oedd yr hawl i brynu, ac ni wnaeth hi ei sefydlu’n wreiddiol. Yr hyn a wnaeth hi oedd creu, fel y dywedais i, fersiwn ddogmatig a oedd yn diddymu unrhyw hyblygrwydd ar gyfer y polisi yn ymarferol—dim lle i gynghorau weithredu ar sail stoc yn dirywio.
Caniataodd y Llywodraethau Llafur i’r cynghorau werthu stoc yn y 1970au, ond ar sail wedi ei reoli ac ar sail gynaliadwy iawn. Nid oedd y Torïaid, yn fy marn i, yn gallu ymatal rhag creu’r anhrefn y maent bob amser yn ei greu, sydd wedi arwain at y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Mae hyn yn cynnwys cyn-dai cyngor yn nwylo buddsoddwyr tramor hynod gyfoethog mewn rhannau o'r DU lle mae eu hangen yn daer ar weithwyr allweddol—pobl ddi-fraint, y rhai hynny sydd ar y rhestr, y rhai sy’n gwylio. Pa fath o nonsens dogmatig yw adeiladu tai eto dim ond i’w gwerthu? Fel gwleidyddion, mae'n rhaid i ni fod wedi ein rheoli gan gamau ymarferol. Yn ei ddatganiad yn cyflwyno'r Bil hwn, dywedodd Carl Sargeant:
‘Mae ein cyflenwad o dai cymdeithasol o dan bwysau sylweddol. Rhwng 1 Ebrill 1981’— fel yr wyf wedi datgan—
'a 31 Mawrth yn 2016, gwerthwyd 139,000 o gartrefi awdurdod lleol a chymdeithasau tai’—
45 y cant o hynny o’r stoc hwnnw—
'o dan yr hawl i brynu’, ac ni adeiladwyd tai newydd yn eu lle.
Pa fath o Lywodraeth ddogmatig fyddai’n gweld hyn ac yn gwneud dim, yn seiliedig ar ideoleg hen ffasiwn o farchnad dai sydd wedi dangos ei bod wedi methu? Nid yw dim ond, fel y dywedwyd o'r blaen, ynghylch hynny. Rydym ni i gyd wedi gweld y trychineb yn Kensington, bwrdeistref na all ddarparu tai digonol i’w thrigolion, ond mae'n parhau i ganiatáu i flociau cyfan o eiddo buddsoddi i gael eu hadeiladu. Mae'r blociau gwag hyn yn symboleiddio ein camgymeriadau o ran tai. Mae'r Torïaid yn sôn heddiw am bwysigrwydd y teulu a'r cartref, ond yn sinigaidd yn gwrthod ateb unrhyw gwestiynau ymarferol, ac yn sôn yn delynegol am ateb i bob problem tybiedig o’r 1980au ond yn methu â siarad am hynny nawr. Felly, sut gall teuluoedd yng Nghymru ymddiried mewn plaid na fyddai'n adeiladu unrhyw dai cyngor, yn gwerthu’r ychydig sydd gennym ar ôl, ac, yn fwy sinigaidd, yn defnyddio tai ar lefel leol fel pêl-droed wleidyddol?
Yn olaf, rwyf am sôn am y pwysigrwydd yr wyf yn ei roi ar wireddu'r addewidion a wnaed, ac yn 2016 gwelsom Lywodraeth Lafur Cymru yn cael ei hailethol yn llywodraeth gan bobl Cymru. Gwnaethom sefyll yr etholiad gyda’r bwriad i ddiddymu'r hawl i brynu yn ein maniffesto, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gyflawni hynny nawr.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl. Carl Sargeant.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl hon ar y Bil a'r sylwadau a wnaed gan y rhan fwyaf o'r Aelodau heddiw. Yn ddi-os, mae yna fanylion y bydd angen i ni eu hystyried ymhellach wrth inni symud drwy'r broses graffu. Mae yna hefyd ymrwymiadau yr wyf wedi eu gwneud mewn meysydd sydd angen eu datblygu, a diolchaf i'r Cadeirydd a'r pwyllgor cyfan am eu hymagwedd adeiladol at y rhaglen wrth i ni fwrw ymlaen â hynny.
Rwyf yn ailadrodd y sylwadau yr wyf wedi eu nodi sawl gwaith yn barod, Llywydd, fy mod yn dymuno ymdrin â’r diwygiadau hyn ar sail gydweithredol a thrawsbleidiol, ond mae'n ymddangos yn amlwg iawn nad yw rhai o'r gwrthbleidiau yn cytuno. Yn wir, roedd Gareth Bennett, yn ystod y camau pwyllgor, yn addawol iawn o ran ei ymagwedd at y Bil a natur gefnogol hynny, ond dywedodd ei fod wedi ffurfio dadl yn y grŵp a’i fod wedi mynd â honno at gydweithwyr UKIP, ac mae'n amlwg i mi bod Neil Hamilton wedi dweud wrtho na fyddai'n cefnogi’r Bil hwn am unrhyw reswm arall na hynny.
Y ffaith yw eu bod yn deis a dethol ystadegau ar bob un o'r materion y maent wedi eu codi heddiw, gan gynnwys fy ffrind mawr David Melding. Rwy'n credu bod ei gyfraniad yn wyrdroedig o ran y ffigurau a ddefnyddiodd heddiw. Ymddengys ei fod yn credu mai’r 20,000 o unedau yr ydym yn mynd ar eu trywydd gan y Llywodraeth yw'r unig gartrefi a fydd byth yn cael eu hadeiladu yng Nghymru. Ein cyfraniad o 20,000, yn ogystal â'r sector preifat, a fydd yn cyflawni'r angen am dai ar gyfer ein cymunedau. Gwnaf ildio.
‘Tai fforddiadwy' ddywedais i; nes i ddim dweud ‘cyfanswm nifer y cartrefi’; dywedais i ‘fforddiadwy’.
Ac mae'n amlwg iawn hefyd bod yr Aelod wedi codi mater perfformiad y weinyddiaeth Lafur hon ers 1999, a chafodd ei gefnogi'n fedrus gan weiddi a chyfraniad Mark Isherwood.
Gadewch i mi roi rhai ffeithiau iddo am yr hawl i brynu ac, yn wir, roedd ymyriad Joyce Watson yn llygad ei le. Mae'r Llywodraethau Ceidwadol o dan Theresa May a David Cameron wedi methu â darparu cartrefi ar draws y DU. Yn wir, hwn yw’r swm isaf o dai a ddarperir gan weinyddiaeth Geidwadol ers 1923. Felly, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gyngor oddi wrthych chi ar adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru. Mae angen i chi ei gael yn iawn o'r canol, hefyd. Mae’r £1 biliwn yr ydych yn ei roi i weinyddiaeth Gogledd Iwerddon yn gyfle y gallech chi ei roi dros Gymru yma er mwyn i ni allu adeiladu mwy o gartrefi. Rhowch i ni yr hyn yr ydym yn ei haeddu yma yng Nghymru, hefyd, yn hytrach na chwyno o'r ymylon.
Y ffaith arall yr wyf yn credu y byddai'n werth ei nodi yn y Siambr hon yw, am y cyfnod diwethaf o bum mlynedd—bod ffigurau cyfredol—rhwng 2012-13 a 2016-17, o dan y polisi ychwanegiadau un am un—dyma'r un y mae Mark Isherwood yn dweud wrthym ni amdano, gwerthu un, adeiladu un—dywedaf wrthych chi beth a ddigwyddodd yn Lloegr: 54,581 o werthiannau hawl i brynu gan awdurdodau lleol yn Lloegr. Beth wnaethon nhw ei adeiladu? Deuddeg mil, pedwar cant a saith deg dau. Nid yw hynny’n un am un yn union yn ôl fy mathemateg i. Felly, peidiwch â rhoi'r rhethreg am adeilad i mi—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad eto, ond byddaf yn gwneud hynny os caf rywfaint mwy o amser ymhen dipyn.
Yn olaf, o ran y manylion ychwanegol y mae cydweithwyr wedi eu cyflwyno—Siân Gwenllian, rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad i gefnogi'r Bil. Rwyf wedi cwrdd â'ch Aelod arweiniol ar dai ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae hi wedi gallu ei rhoi ar ran y grŵp. Rydych chi’n yn llygad eich lle, mae mater y rhentu i brynu a’r ‘sbeic’ yn fy mhoeni i o ran yr hyn y gallai hynny gyfeirio ato, ond rwy'n credu bod canlyniadau cadarnhaol amcanion polisi tymor hir hwn yn drech na mater y ‘sbeic’ dros y cyfnod o 12 mis. Ond fe wnaf weithio gyda'ch cydweithwyr i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd drwy hynny.
Rwy’n credu—eto, cododd Huw Irranca y mater o ran y ddyletswydd absoliwt ar Weinidogion o safbwynt cyngor. Byddaf yn ystyried hynny ymhellach, ond gwrandewais ar gyngor y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac roeddent yn glir iawn o ran eu barn, ond byddaf yn ailystyried hynny.
Unwaith eto, yr hyn a allai fod yn ddefnyddiol i Aelodau, ar y sail bod rhai Aelodau wedi defnyddio ystadegau nad wyf yn eu cydnabod yma—y ffaith amdani yw bod £4.4 miliwn o gost ychwanegol i Lywodraeth y DU ar fudd-dal tai ar gyfer cyn-eiddo rhentu i brynu sydd bellach yn y sector rhent preifat. Felly, sut y mae’n gwneud synnwyr economaidd i wneud hynny yn y lle cyntaf? Rwy'n credu, unwaith eto, y dylai Aelodau ystyried hyn yn gyfres o offerynnau i ddarparu tai cymdeithasol a thai ychwanegol ar gyfer pobl Cymru. Mae’r cynhyrchion yr ydym yn eu datblygu yn ein hadran, fel prosesau rhentu i brynu a phrosesau gweinyddol eraill trwy Rhentu Doeth Cymru a ffactorau eraill yn y Bil Tai, y Ddeddf Tai bellach, yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio’r gyfres hon o offerynnau i greu ateb tai gwell i bawb yng Nghymru. Nid oeddwn i’n mynd i ymateb i'r meistr cynllwynio, Mr McEvoy, yn yr ystyr nad yw'n cefnogi'r egwyddor sosialaidd i ddod â’r hawl i brynu i ben. Rwy’n synnu braidd gan fod ei blaid wedi bod yn gefnogol iawn o'r ymagwedd hon. Yn wir, rwy’n meddwl ei bod yn rhan o ymagwedd eich maniffesto ac mae'n rhywbeth yr wyf i’n ddiolchgar amdano—y cymorth hwnnw. Byddwn yn gofyn iddo fyfyrio ar ei gyfraniad ac efallai bod yn fwy cadarnhaol yn ei gefnogaeth i’r Bil hwn.
Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddod â Chyfnod 1 i'r pwyllgor. Mae bob amser yn ddadl ddiddorol pan fydd gan Mr Melding ei farn glir ar y Bil hwn. Byddaf yn edrych ymlaen yn awchus—. Bydd y sgyrsiau yn parhau, rwy'n siŵr, wrth inni symud ymlaen, ond fy nghynnig i yw cael mwy o gonsensws ynghylch y cyfleoedd y mae’r Bil hwn yn eu cyflwyno o ran creu ateb gwell ar dai i bobl yng Nghymru sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.