9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 6:05, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Cadeirydd. Rwy'n falch iawn fy mod i’n gallu cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a hoffwn i ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni er mwyn helpu i lywio ein gwaith—yn benodol, tenantiaid ledled Cymru a gymerodd amser i ddod i’n digwyddiadau grŵp ffocws. Hoffwn i ddiolch i aelodau o'r pwyllgor am eu gwaith ar y Bil a chydnabod eu parodrwydd i weithio gyda'i gilydd, hyd yn oed pan oedd gennym ni safbwyntiau eithaf gwahanol ar faterion pwysig yn ymwneud â chynnwys y Bil.

Cadeirydd, roedd ein hystyriaeth o'r Bil wedi canolbwyntio ar brofi pa un a fydd yr egwyddorion cyffredinol yn cyflawni nod y polisi i ddiogelu’r cyflenwad o dai cymdeithasol rhag erydu pellach yn wyneb y galw uchel a’r prinder cyflenwad. Yn ein gwaith craffu, rydym ni wedi ystyried pob un o'r darpariaethau yn fanwl. Wrth wneud hyn, rydym ni wedi sôn am faterion ehangach, gan gynnwys y cyflenwad tai ac effaith Mesur Tai (Cymru) 2011. Roedd y Mesur hwn yn gam tuag at y ddeddfwriaeth hon, ac wedi galluogi awdurdodau lleol i wneud cais i atal yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael mewn ardaloedd lle mae pwysau uchel o ran tai.

Wrth gwrs, mae’r hawl i brynu yn un o'r polisïau cyhoeddus mwyaf adnabyddus, ac, ers ei gyflwyno yn y 1980au cynnar, mae rhyw 135,000, 136,000 o gartrefi awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu gwerthu o dan y cynllun. Mae llawer wedi manteisio arno, ac mae wedi bod yn ddadleuol. Yng Nghymru, pwyslais y polisi oedd diogelu'r stoc o dai cymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, yn gyntaf drwy leihau lefel y disgownt sydd ar gael, a thrwy gynnig y cyfle i wneud cais i atal y cynlluniau mewn ardaloedd lle mae pwysau sylweddol o ran tai. Y Bil hwn, felly, yw penllanw yr ymagwedd hon.

Cawsom dystiolaeth gadarn a oedd yn dangos y dylid defnyddio’r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael i fynd i'r afael â'r pwysau sylweddol am dai y mae cymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu. Rydym ni’n gwybod bod yna alw mawr am dai cymdeithasol ac y gallai’r rhan fwyaf o’r darparwyr tai cymdeithasol lenwi pob un o'u heiddo lawer gwaith drosodd. Rydym ni’n cydnabod nad dileu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael yw'r unig arf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac nad dyma’r prif arf o ran cynyddu’r cyflenwad o dai ychwaith. Fodd bynnag, bydd yn gwneud yn siŵr bod tai cymdeithasol presennol a newydd yn cael eu cadw yn y sector a bod modd eu defnyddio at eu diben: sef darparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd â'r angen mwyaf.

Rydym ni’n deall y bydd tenantiaid yn colli hawl y maen nhw wedi gallu ei harfer ers dros 30 mlynedd, ond rydym ni’n cytuno â Llywodraeth Cymru, os na ddiddymir yr hawliau, mae perygl y bydd y cynlluniau hyn yn parhau i danseilio ymdrechion gan y sector tai cymdeithasol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Er y diddymir yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael, erbyn hyn mae mentrau eraill ar gael i helpu pobl i brynu eu cartrefi, gan gynnwys Help i Brynu. Er bod gan rai aelodau o'r pwyllgor bryderon penodol na chaiff tenantiaid mewn ardaloedd sydd yn cael eu heffeithio gan y diddymu cyfle arall i brynu eu cartref, daeth y pwyllgor i'r casgliad mwyafrifol i argymell i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol hynny, fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn gwella’r Bil, ac rwy’n troi at y meysydd hyn nawr.

Mae pob un o'n hargymhellion yn ceisio cryfhau’r darpariaethau hynny yn adran 8. Mae'r rhain yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth i helpu tenantiaid i ddeall effaith y Bil cyn cyflwyno’r diddymu. Y bwriad yw y bydd yr wybodaeth hon yn helpu tenantiaid i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau. Cadeirydd, mae hyn, wrth gwrs, yn newid polisi arwyddocaol, sy'n disodli’r polisi adnabyddus a hirsefydlog hwnnw sydd wedi bodoli ers dros 30 o flynyddoedd. Mae’n hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr awenau wrth wneud yn siŵr y gall y rhai hynny a allai gael eu heffeithio gan y newid ddeall yr effaith y gallai ei chael arnyn nhw, a gwneud penderfyniadau o ran pa un a ydynt am arfer eu hawl i brynu neu gaffael cyn ei cholli am byth.

Yn argymhelliad 2, yna, rydym ni’n galw i'r Bil gael ei ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu'r ddogfen wybodaeth i sefydliadau perthnasol fel gwasanaethau cynghori a grwpiau sy'n cynrychioli tenantiaid. Rydym ni hefyd yn credu ei bod yn bwysig bod tenantiaid ledled Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson. I'r perwyl hwn, yn argymhelliad 3, rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i'r Bil i nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i landlordiaid cymwys ei rhoi i denantiaid. Dylai gwybodaeth o'r fath gynnwys y dyddiadau y bydd y cyfyngiadau a’r diddymu llawn yn dod i rym.

Mae'n hanfodol bod tenantiaid ledled Cymru yn derbyn gwybodaeth gyson i sicrhau nad yw’r lle y maent yn byw ynddo yn effeithio ar faint o wybodaeth y maent yn ei derbyn, a’i hansawdd. Ni ddylai fod yna loteri cod post. Yn gysylltiedig â hyn, rydym ni hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darpariaeth yn y Bil i sicrhau bod landlordiaid yn cyfleu'r newidiadau yn y ffordd fwyaf hygyrch a phriodol. Mae gennym dystiolaeth glir i ddangos bod hyn yn rhywbeth y mae landlordiaid cymdeithasol yn dda am ei wneud, ond, drwy ddiwygio'r Bil fel yr ydym ni’n ei awgrymu, rydym ni’n credu y bydd yn sicrhau cysondeb ar draws y sector. Bydd hefyd yn lleihau'r perygl bod rhai grwpiau penodol o denantiaid yn methu â chael yr wybodaeth angenrheiddiol i wneud penderfyniadau gwybodus.

Cadeirydd, rwy'n ddiolchgar bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r materion hyn ynghylch gwybodaeth yn y Siambr heddiw. Rwyf wedi clywed, a bydd Aelodau yn gyffredinol wedi clywed yr hyn a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud. Mae'n cyfrannu rhywfaint, yn fy marn i, at fynd i'r afael â phryderon y pwyllgor, ond, yn amlwg, mae’r argymhellion a wnawn ni fel yr wyf i wedi'u hamlinellu.

Yn amlwg, Cadeirydd, o ran y cyngor a fydd ar gael, mae’r pwysigrwydd bod gan denantiaid fynediad at gyngor clir a diduedd ynghylch pa un a ddylen nhw arfer eu hawl i brynu neu gaffael yn hanfodol. Nid oeddem wedi ein hargyhoeddi am yr angen am wasanaethau cyngor ychwanegol, ond rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod Ysgrifennydd y Cabinet yn monitro effaith y Bil ar y galw am wasanaethau cynghori presennol ac yn ystyried rhoi cymorth ychwanegol, os bydd angen. Unwaith eto, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd i'r afael â'r materion hynny yn ei araith agoriadol heddiw, Cadeirydd, a byddwn ni i gyd, rwy’n credu, yn ystyried sut y gellir datblygu hynny maes o law.

Cadeirydd, rydym ni’n croesawu'r cyfle i adolygu'r wybodaeth ddrafft ar gyfer tenantiaid, a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ein gwaith craffu, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Drwy wneud hyn, roeddem ni’n gallu ei rhannu â rhanddeiliaid a chael eu barn arni, ac mae ein hargymhelliad olaf yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fynd â hyn ymhellach, ac y dylid profi'r ddogfen wybodaeth gyda thenantiaid i sicrhau ei bod yn gwbl addas at ei diben.

Cadeirydd, rwy’n gallu gweld bod fy amser wedi dod i ben, felly, i gloi, Cadeirydd, rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd yr argymhelliad hwn. Roeddem ni’n falch iawn i gael cyfrannu at y cynigion deddfwriaethol ac rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn gwella’r Ddeddf yn y pen draw. Diolch yn fawr.