9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 6:19, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Cadeirydd, mae angen i ni adeiladu mwy o gartrefi—llawer mwy o gartrefi. Dyma'r unig ffordd i fodloni’r argyfwng tai. Bu’r galw am dai yn uwch na’r cyflenwad o dai yng Nghymru, fel ar draws y DU, ers nifer o flynyddoedd. Mae'r galw ychwanegol am dai yn deillio o gynydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un-person, ond hefyd ffactorau eraill megis y cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol. Mae’r ymosodiad parhaus ar yr hawl i brynu yn dargyfeirio ymylol o'r brif broblem—diffyg adeiladu tai. Bydd y diddymu yn cael gwared ar gyfle hanfodol i denantiaid tai cymdeithasol ddod yn berchen ar dai. Mae wedi bod yn bolisi aruthrol o boblogaidd—efallai’r enwocaf yn yr ugeinfed ganrif.

Yn hytrach na mynd i'r afael ag anghenion tai drwy gyfraddau adeiladu tai priodol, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad presennol—mae hyn i’w groesawu, ond nid yw’n ddigonol. Ers 2004, mae Llywodraethau Cymru olynol— â phob un wedi cynnwys y Blaid Lafur, ac un wedi cynnwys Plaid Cymru—wedi eu rhybuddio am yr argyfwng tai sydd ar y gorwel, oni bai bod llawer mwy o dai yn cael eu hadeiladu.

Roedd adroddiad yr Athro Holmans o’r enw ‘Yr Angen a'r Galw am Dai yng Nghymru yn y Dyfodol’, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru—rwy’n rhoi clod iddi am hynny—yn amcangyfrif bod angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd ar Gymru, neu 12,000 bob blwyddyn, rhwng 2011 a 2031, o dan yr hyn a elwir yr amcanestyniad amgen. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun, bydd gan Gymru ddiffyg o ryw 66,000 o gartrefi yn 2031, sydd gyfwerth â thref o faint Merthyr.

Ond yr agwedd waethaf yw nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn bodloni ei thargedau annigonol. Mae'r gyfradd cwblhau tai newydd yn methu’n gyson â chyrraedd y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, a dim ond 6,900 o gartrefi a gwblhawyd yn 2015-16, o gymharu â'r targed o 8,700. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru gyrraedd ei tharged tai ei hunan oedd yn 2007-08. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r argyfwng tai, mae angen iddyn nhw roi'r gorau i wastraffu amser ar ffactorau ymylol fel diddymu'r hawl i brynu, ac mae angen iddyn nhw fabwysiadu'r amcanestyniad amgen a gynigiwyd gan yr Athro Holmans. Yn 2015, dadleuodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr fod angen 14,000 o gartrefi y flwyddyn yn ychwanegol ar Gymru i fodloni'r galw. Pa bynnag amcanestyniad yr ydych chi’n ei gymryd, mae'n eithaf amlwg bod Llywodraeth Cymru yn syrthio yn bell iawn iawn y tu ôl i unrhyw beth tebyg i gyfradd ddigonol o adeiladu tai.

Fel y dywedodd y Gweinidog, gwerthwyd 139,000 o gartrefi rhwng 1981 a 2016 o dan y cynllun hawl i brynu. Ac mae’n rhaid i chi ddweud ei fod wedi cyflawni ei bwrpas bwriadedig—cafodd 139,000 o deuluoedd gymorth i brynu eu cartrefi, ac mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Geidwadol Cymru yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae'n wir, yn y blynyddoedd diwethaf, bod y lefelau o’r stoc tai cymdeithasol a werthwyd wedi bod yn isel iawn, ac felly mae’r effaith a gaiff ar argaeledd tai cyffredinol yn ymylol. Yr unig reswm bod modd teimlo’r effaith o gwbl yw oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu digon o gartrefi—dyna sydd wraidd y broblem. Ac, yn wir, canfu ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun, wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy’n dyfynnu,

‘Mae’r Hawl i Brynu wedi cael ychydig iawn neu ddim effaith ar allu awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.... Ymddengys bod ffactorau eraill, megis yr economi ac argaeledd tir a chyllid yn cael mwy o ddylanwad.’

O na fyddech wedi gwrando ar eich ymgynghorwyr arbenigol eich hun yn hyn o beth ac wedi mynd i'r afael â'r problemau hyn, oherwydd dyna’n amlwg beth y mae angen i ni ei wneud.

Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud, dylai hyd yn oed y polisïau mwyaf llwyddiannus gael eu hadolygu o bryd i'w gilydd. Ac os yw Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygio'r hawl i brynu, yna byddem yn ymgysylltu'n adeiladol â hynny, oherwydd bod rhai dadleuon yn bodoli y gellir eu gwneud ar gyfer y math hwnnw o bolisi. Ond—