Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi symud ymlaen efo’r ddeddfwriaeth yma heddiw. Mae’n hen bryd iddo fo ddigwydd ac mae’n cywiro camgymeriad hanesyddol sydd wedi cyfrannu at gyflenwad annigonol o dai cymdeithasol yng Nghymru.
Bob wythnos rydw i, fel llawer ohonoch chi, yn cael pobl yn dod i’m cymhorthfa efo problemau tai—pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol anaddas, gorlawn, neu maen nhw’n byw efo perthnasau, ar fin mynd yn ddigartref, neu maen nhw’n methu â chael tŷ cymdeithasol, a heb ddigon o bwyntiau i symud i fyny’r rhestr. Mae hwn yn rhywbeth sy’n digwydd bob wythnos.
Mae adroddiad y pwyllgor yn adlewyrchu cytundeb cyffredinol gyda’r egwyddorion, heblaw am anghytundeb amlwg yr Aelod Ceidwadol. Fe wnaeth fy nghyfaill Jocelyn Davies lawer o waith yn y maes yma fel Gweinidog tai, a phob clod iddi hi am sefydlu’r prosesau sydd wedi galluogi awdurdodau lleol i atal yr hawl i brynu. Mewn ffordd, mae’r ddeddfwriaeth yma yn cadarnhau’r arfer dda honno.
Cwpwl o bethau am yr hawl i brynu: nid oedd o’n gwneud llawer o synnwyr ariannol gan ei fod yn gymhorthdal i rai a oedd efo ychydig o arian ac oedd yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Nid oedd o fudd i drigolion mewn blociau fflatiau mewn ardaloedd nad oedd yn ddeniadol, a oedd yn methu â chael morgeisi. Fe wnaeth o olygu lleihad yn y stoc tai cymdeithasol gan gynyddu gorlenwi a digartrefedd o ganlyniad. Mewn rhai achosion, fe greoedd elw i landlordiaid prynu i rentu gan greu amodau tai salach, yn amlach na pheidio.