9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:26, 18 Gorffennaf 2017

Felly, mae hi’n hen bryd symud ymlaen efo hyn, ac mae angen y buddsoddiad hefyd. Rydw i’n cytuno efo beth mae David Melding yn ei ddweud—mae angen y buddsoddiad hefyd a fydd yn dod â thon newydd o dai cymdeithasol. Ni fydd y ddeddfwriaeth ar ei ben ei hun yn datrys y broblem o ddiffyg cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn wahanol i’r Torïaid, rydym ni yn credu ei fod o’n rhan o’r jig-so. Nid ydy o’n fater ymylol; mae o’n rhan o’r datrysiad, ac un a ddylai arwain at gynnydd mewn buddsoddiad a mwy o dai cymdeithasol.

Ar ôl pasio’r Ddeddf yma, mae’n debyg y bydd yna rai pobl mewn tai cymdeithasol yn dal i hoffi prynu eu cartrefi eu hunain, ac mae gen i gydymdeimlad efo hynny. Felly, law yn llaw â’r ddeddfwriaeth yma, mae angen datblygu opsiynau ‘shared equity’ a rhentu i brynu—opsiynau y mae’r cymdeithasau tai wedi’u defnyddio yn y gorffennol. Mi ddylid hefyd edrych am ddulliau eraill i helpu pobl i symud tuag at berchnogi eu tai, os mai dyna ydy eu dymuniad nhw.

Yn olaf, mae yna risg wrth i’r ddedlein agosáu—risg y byddwn ni’n gweld rhai mudiadau yn cynnig arian i bobl i brynu eu tai, gyda golwg ar wneud arian sydyn. Mae rhai pobl wedi galw hyn yn rhywbeth y mae angen gweithio yn benodol i’w osgoi. Fe’i trafodwyd yn y pwyllgor, ac fe gafwyd tystiolaeth i’r perwyl yna. Rydw i’n credu bod hyn yn haeddu mwy o ystyriaeth a mwy o ymchwil a dylid ystyried cynnig cyngor ariannol annibynnol i’r rhai sydd ei angen o.

Rydw i hefyd yn bryderus y gall fod cynnydd sydyn yn y nifer sydd am brynu cyn i’r Ddeddf ddod i rym, gan leihau’r stoc ymhellach—y sbeic y mae rhai wedi sôn amdano fo. Mi hoffwn i weld y Llywodraeth yn rhoi mwy o ystyriaeth i’r agwedd yna hefyd. Diolch yn fawr.