9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:37, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn dechrau:

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl i ddiwallu eu hanghenion tai... Mae'r Bil yn... cydnabod pwysigrwydd cartrefi diogel, sicr a fforddiadwy yn rhan o wead bywyd pobl a chymunedau cryf.’

Ychydig o jôc drasig a di-chwaeth, yn anffodus. Erbyn i’r Ceidwadwyr adael y Llywodraeth yn 1997, roedd gwerthiannau hawl i brynu yng Nghymru yn cael eu gweithredu ar sail tebyg am debyg, bron, ond, yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos bod Llywodraeth Cymru—Llywodraeth Lafur Cymru—wedi lleihau mwy na 70 y cant ar nifer y cartrefi cymdeithasol newydd—wrth i restrau aros gynyddu, ac roedd adolygiad tai y DU yn 2012 yn dweud mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd blaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol. Erbyn yr ail Gynulliad, roedd ymgyrch Cartrefi i Gymru yn rhybuddio y byddai yna argyfwng tai. Cafodd ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru. Fel y mae paragraff agoriadol maniffesto Homes for All Cymru mis Hydref 2014 yn nodi, ‘Mae yna argyfwng tai’; argyfwng a achoswyd gan fethiant Llafur i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd ers 1999, nid yr hawl i brynu.

Byddai bwriad Llafur Cymru i ddiddymu'r hawl i brynu yng Nghymru yn golygu na fydd tenantiaid yn gallu prynu cartref a bod cyfle arall yn cael ei golli i gynyddu'r cyflenwad tai fforddiadwy a dechrau mynd i'r afael â’r argyfwng cyflenwad tai hwnnw. Hawl y tenant i brynu yw’r cynllun perchnogaeth tai cost isel mwyaf effeithiol erioed, ond nid oedd yn arwydd o ddiwedd y cyflenwad tai cymdeithasol, ond yn newid i gymdeithasau tai dielw fel prif ddarparwyr, oherwydd bod modd iddyn nhw gael gafael ar fwy o gyllid ac adeiladu mwy o gartrefi yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae cyfyngiadau ar brynu wrth gwrs. Mae’n rhaid i denant fod wedi bod yn breswylydd ac yn talu rhent am o leiaf bum mlynedd ac mae maint y disgownt yn cael ei bennu gan hyd y denantiaeth. Os yw tenantiaid yn gwerthu’n gynnar, mae'n rhaid iddynt ad-dalu’r gostyngiad. Wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf yn gwneud hynny. Dangosodd ymchwil annibynnol fod dwy ran o dair o'r tenantiaid a brynodd yn dal i fyw yno dau ddegawd neu fwy ar ôl hynny. Mae ymchwil annibynnol arall wedi dangos bod tenantiaid mewn eiddo awdurdodau lleol, ar gyfartaledd, yn mynd i fod yn aros ynddyn nhw am 15 mlynedd arall neu fwy, sy’n dangos y byddai’r effaith ar y cyflenwad o ganlyniad i ddiddymu'r hawl i brynu yn gwbl ddibwys.

Nid yw’r bwriad arfaethedig i gael gwared ar yr hawl i brynu yn gwneud dim i greu mwy o gartrefi, nac i gynyddu nifer yr aelwydydd sydd â’u drws ffrynt eu hunain. Fel y gwnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig ganfod rai blynyddoedd yn ôl, ni fyddai atal yr hawl i brynu ynddo'i hun yn arwain at gynnydd yn y cyflenwad o dai fforddiadwy.

Ar y llaw arall, gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig amlinellu cynigion i ddiwygio’r hawl i brynu, buddsoddi’r elw o werthiannau mewn tai cymdeithasol newydd, a thrwy hynny gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a helpu i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai Llafur, gan adlewyrchu’r polisi hawl i brynu yn Lloegr, lle y gwnaeth Llywodraeth y DU, ar ôl 2010, ymrwymo i ail-fuddsoddi, am y tro cyntaf erioed, y derbyniadau ychwanegol o werthiannau hawl i brynu mewn tai rhent fforddiadwy newydd. Os yw cyngor yn methu â gwario'r derbyniadau o fewn tair blynedd, mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd yr arian nas gwariwyd i'r Llywodraeth, gyda llog.

Dangosodd ymchwil annibynnol a gyflwynwyd i un o bwyllgorau'r Cynulliad rai blynyddoedd yn ôl, ar gyfer pob tri gwerthiant, y gallai’r arian a ryddhawyd gynhyrchu dau gartref newydd ar gyfer dwy aelwyd newydd. O’i gymharu, ni fydd diddymu, ar ei ben ei hun, yn adeiladu yr un cartref ychwanegol, ni fydd yn cynyddu’r cyflenwad, ac ni fydd felly’n gwella fforddiadwyedd. Rhwng 2010 a 2015, adeiladwyd mwy na dwywaith cymaint o dai cyngor yn Lloegr nag ym mhob un o 13 mlynedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf ar lefel y DU, pan wnaeth rhestrau aros Lloegr bron dyblu wrth i nifer y tai cymdeithasol i'w rhentu gael ei dorri gan 421.000. Mae'r esboniad—