9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:41, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Cymru wedi bod dan y blaid Lafur ers 1999, dim byd i'w wneud â Lloegr, ac mae rhifau Lloegr wedi cynyddu ers i Lafur beidio â bod mewn grym. Dyna beth y mae'r ystadegau yn ei ddweud. Chi greodd yr argyfwng. Mae’n rhaid i chi fyw gydag ef. Gwnewch chi rywbeth yn ei gylch.

Mae'r memorandwm esboniadol i'r Bil hwn yn datgan, rhwng 2011-12 a 2015-16, bod cyfanswm o 11,508 o unedau tai ychwanegol wedi eu hadeiladu, ond mae hyn wedi ei chwyddo trwy gynnwys perchnogaeth cartref cost isel a chartrefi rhent canolradd. Ond mae ffigurau Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos, yn yr un cyfnod, bod cyfanswm nifer yr anheddau a gwblhawyd yng Nghymru yn 29,939, o'i gymharu â 47,598 rhwng 1992-1993 a 1996-7, y pum mlynedd olaf pan oedd Llywodraeth Geidwadol yn gyfrifol am dai yng Nghymru.

Mae ffigurau Llywodraeth Cymru hefyd yn datgelu mai dim ond 4,347 o anheddau a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2015-16, o’i gymharu â 13,558 yn ystod y pum mlynedd olaf pan yr oedd Llywodraeth Geidwadol yn gyfrifol am dai yng Nghymru. Dyma pam y mae gan Gymru argyfwng cyflenwad fforddiadwy, a dyna pam fod y Bil sinigaidd hwn yn ddim ond twyll ideolegol i guddio brad tai mawr Llafur. Gwenwch chi, Weinidog. Dylech chi fod yn ysgwyd eich pen mewn cywilydd, oherwydd chi achosodd yr argyfwng hwn, ac rydych chi wedi eistedd yno yn anwybyddu'r rhybuddion am yr argyfwng, a nawr rydych chi’n honni mai rhywun arall a greodd yr argyfwng. Wel, rydych chi’n rhai da am feio pobl eraill. Onid yw hi’n bryd i chi ddechrau cymryd cyfrifoldeb am y llanast yr ydych wedi'i greu?