9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:46, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser dilyn dau siaradwr ymosodol y gallaf, drwy gael fy nghymharu â nhw, rwy’n ymddangos yn gymedrol ac yn gydsyniol. [Chwerthin.] Mae'n Fil rhyfeddol o wrthdroadol, hwn, oherwydd un o'r polisïau a wnaeth y blaid Lafur yn anetholadwy yn y 1980au oedd ei gwrthwynebiad penderfynol i gyflwyno'r hawl i brynu. Wrth gwrs, mae'r niferoedd yn wahanol iawn erbyn hyn, felly o bosibl efallai na fydd yn cael yr un effaith wenwynig ar y Blaid Lafur ag y gwnaeth eu hagwedd bryd hynny. Hefyd, mae gen i deimlad rhyfedd o déjà vu, oherwydd roeddwn i’n rhan o’r gwaith o berswadio Llywodraeth Thatcher i gynnwys cymdeithasau tai ym Mil tai 1979, a oedd yn rhoi i denantiaid cymdeithasau tai yr un hawliau a gynigiwyd i denantiaid y cyngor, ac, am yr un rhesymau ag y mae David Melding wedi eu hamlinellu, peth da iawn oedd hynny wrth gynyddu amrywiaeth perchnogaeth mewn ystadau.

Mae hwn yn Fil ideolegol oherwydd ei fod bob amser wedi ymddangos braidd yn hurt i mi, o ran polisi cymdeithasol, bod Llywodraeth yn sybsideiddio'r brics a’r morter yn hytrach na’r bobl hynny sydd angen cymorth i allu fforddio to uwch eu pen. Wrth gwrs, mae’n ffordd eithriadol o ddrud i ddarparu ar gyfer angen cymdeithasol, i adeiladu tai mewn gwirionedd yn hytrach na rhoi i bobl y modd o dalu rhent.

Mae'r ffigurau yn dangos yn ddiamwys bod y Bil hwn yn gwbl amherthnasol i'r ateb i'r argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru. Edrychwch ar y ffigurau. Dim ond 141 o dai a werthwyd gan awdurdodau lleol o dan yr hawl i brynu y llynedd. Gwerthodd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig 133 o dan y ddeddfwriaeth hawl i gaffael; gwerthwyd 299 ganddynt yn wirfoddol. Felly, dim ond 274 oedd cyfanswm nifer y tai o eiddo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a werthwyd o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu allan o stoc o 1.4 miliwn o dai yng Nghymru gyfan. Felly, yn amlwg, nid oes unrhyw arwyddocâd o gwbl i hyn y tu hwnt i arwyddocad ideolegol i'r Blaid Lafur, sydd bellach yn mynd yn ôl i’w meddylfryd gwreiddiol ar ôl 20 neu 30 mlynedd. Os edrychwn ni ar y ffigurau stoc, mae hyn yn eithaf dramatig. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn berchen ar 87,000 o eiddo ar rent. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn berchen ar 137,000. Mae tai rhent preifat yng Nghymru—202,000. Perchen-feddiannaeth—bron i 1 miliwn. A beth rydym ni’n sôn amdano yma yw 274 o dai neu fflatiau sydd wedi eu gwerthu o dan y ddeddfwriaeth hawl i brynu mewn blwyddyn.