9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:49 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:49, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n wir, yn ystod y cyfnod o amser dan sylw. Ie, 139,000. Yn yr un—[Torri ar draws.] Yn yr un cyfnod, mae nifer y tai neu fflatiau sy'n cael eu rhentu'n breifat wedi cynyddu gan 110,000. Felly, mae'r farchnad yn newid ac mae yna argyfwng tai am y rheswm a nododd David Melding. Mae gennym sefyllfa ofnadwy mewn gwirionedd, gan fod gennym gyfyngiadau sylweddol ar adeiladu drwy'r ddeddfwriaeth gynllunio, ar y naill law, ac rydym yn gwybod, gyda'r ffigurau mewnfudo, bod pwysau aruthrol o ran y galw, yn ogystal ag oherwydd rhannu aelwydydd a meddiannaeth unigol. Mae mwy o alw am eiddo, ac rydym yn gwybod, er gwaethaf yr holl sôn am gyni a glywir yn gyson yn y Siambr hon, bod y cynnydd enfawr yn y swm o arian mewn cylchrediad trwy leddfu meintiol mewn gwirionedd wedi cyfranu i raddau helaeth at brisiau asedau, ac mae effaith hyn wedi dechrau yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr ac yn llifo tuag allan. Felly, os ydym ni am ddatrys y broblem tai—ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd eisiau gwneud hynny—yna mae'n rhaid i ni edrych yn rhywle arall yn hytrach na’r mesur hwn i gyflawni’r canlyniad hwnnw.

Ond yr hyn yr wyf i’n ei ganfod mor rhyfeddol am hyn yw bod hwn wedi bod yn bolisi rhyddhau mawr dros y blynyddoedd i gannoedd o filoedd o bobl a oedd yn dymuno bod yn berchen ar eu tai eu hunain. Nid oedd y ffaith eu bod yn eiddo cyngor neu’n eiddo tai cymdeithasol yn golygu eu bod yn symud allan i wireddu eu dymuniad i fod yn berchen ar eu heiddo eu hunain, a bod eu heiddo wedyn ar gael i bobl eraill a oedd eu hangen. Caiff eiddo eu clymu i fyny am genedlaethau, yn aml, gan bobl sy'n byw mewn tai awdurdod lleol neu dai cymdeithasol. Nid yw hynny'n mewn unrhyw ffordd yn golygu eich bod yn mynd i allu bodloni'r amcanion cymdeithasol yr ydym ni i gyd yn cytuno arnynt. Roeddwn o blaid democratiaeth perchenogaeth eiddo, ac rwy’n dal i fod, ac rwyf o blaid, fel y dywedodd Neil McEvoy, fod pobl dosbarth gweithiol sy’n dyheu am fywyd gwell yn gallu bod yn rhan o hynny.