<p>Twristiaeth yn Islwyn</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 1:31, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae tasglu’r Cymoedd wedi mynegi eu dymuniad i ddefnyddio tirwedd naturiol wych Cymru i hyrwyddo ein heconomi. Yn Islwyn, mae gennym daith olygfaol ryfeddol coedwig Cwmcarn, ac mae angen ei hailagor. Mae gennym bwll glo hanesyddol gradd II Navigation, gyda’i adeiladau rhestredig gradd II. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i arddangos y Cymoedd gwych i’r byd, ac o ganlyniad, i adfywio ein heconomi?