Mercher, 19 Gorffennaf 2017
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod pwynt o drefn wedi cael ei godi ddoe ynglŷn â’r defnydd o iaith yn y Siambr. Mae hyn wedi fy annog i fyfyrio’n fwy cyffredinol...
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth yn Islwyn er mwyn cynorthwyo adfywio economaidd? OAQ(5)0199(EI)
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datblygu economaidd yng ngorllewin Cymru yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0201(EI)
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn eu cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0203(EI)
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0195(EI)
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i newid statws Cymru fel rhan dlotaf y Deyrnas Unedig? OAQ(5)0212(EI)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ffyniant yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0207(EI)
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig? OAQ(5)0205(EI)[W]
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y cleifion sy’n cael eu cyfeirio am driniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0201(HWS)[W]
2. Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i gadw staff presennol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(5)0196(HWS)
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr anafiadau a gaiff eu trin mewn ysbytai yng Nghymru sydd wedi’u hachosi gan frathiadau cŵn? OAQ(5)0210(HWS)
4. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru yn 2017? OAQ(5)0197(HWS)
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran ymchwil ac arloesedd clinigol yn y GIG yng Nghymru? OAQ(5)0199(HWS)
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth bresennol o feddygfeydd yng Nghymru? OAQ(5)0202(HWS)
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dirywiad mewn diogelwch mewn carchardai ieuenctid yn sgil cyhoeddi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Carchardai Cymru a Lloegr EM ar gyfer...
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y canllawiau cyfredol ar gyfer rheoli a chael gwared ar strwythurau peryglus, ar ôl i ddyn farw pan ddisgynnodd adeilad yn Sblot ddoe?...
Yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad. Ann Jones.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem pump, sef y datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar ddiwygio cyllidol—gwersi gan yr Alban.
Eitem 6, felly, ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cyfoeth Naturiol Cymru a chraffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor...
Mae hynny’n dod â ni at yr eitem nesaf, sef cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i ymestyn penodiad cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Rydw i’n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y...
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar—[Torri ar draws.] Fe arhoswn am funud. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Diolch. Iawn, symudwn yn awr...
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safon meddygfeydd yng ngogledd Cymru?
Pa seilwaith sy'n cael ei roi ar waith i ddenu busnes i ogledd Torfaen?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia