<p>Twristiaeth yn Islwyn</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:33, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd nad yw Cymru yn cyrraedd ei photensial llawn o ran denu twristiaid rhyngwladol sy’n gwario llawer o arian. Nododd nad yw Cymru’n gwneud cystal â’n cystadleuwyr yn rhyngwladol, gydag oddeutu 3 y cant o’r ymwelwyr a 2 y cant o’r gwariant. O ystyried pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, pa gamau y bwriada Ysgrifennydd y Cabinet eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid rhyngwladol a ddaw i Islwyn, a Chymru yn gyffredinol? Diolch.