<p>Cadw Staff Presennol yn y Gwasanaeth Iechyd</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:37, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch o gadarnhau bod y Llywodraeth hon wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys yng Nghymru yn gynyddol. Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddais gynnydd sylweddol arall ar ben cynnydd yn y ddwy flynedd flaenorol. Pe baech yn mynd i siarad â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, neu ag Unsain, fel yr undeb llafur sy’n cynrychioli’r nifer fwyaf o nyrsys yng Nghymru, byddent yn cydnabod bod y Llywodraeth hon yn cynyddu lleoedd hyfforddi, yn ogystal â’r ymgyrch ‘Hyfforddi/Gweithio/Byw’ a gyflwynwyd gennym, gan weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid yn y gwasanaeth, ac yn ychwanegol at gadw bwrsariaeth y GIG rydym yn falch o fod wedi’i chadw, yn wahanol i’r penderfyniad a wnaed dros y ffin.

Mae hon yn Llywodraeth sydd o ddifrif ynglŷn â chynllunio gweithlu, o ddifrif ynglŷn â gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr staff ac o ddifrif ynglŷn â chael y staff i wneud y gwaith sydd i’w wneud. Ond mae hynny’n galw am sgwrs wahanol ynglŷn ag adnoddau, ac ni all Aelodau o unrhyw blaid bwyntio bys at y Llywodraeth hon a dweud, ‘Rhyddhewch fwy o adnoddau i’r gwasanaeth iechyd gwladol’ heb nodi pa rannau eraill o wariant gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y dylid gwneud toriadau pellach ynddynt er mwyn gwneud hynny. Rydym eisoes yn gwneud penderfyniadau hynod o boenus i roi adnoddau ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Credaf fod ein staff a’n cyhoedd yn haeddu gonestrwydd yn y ddadl hon a dyna beth y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud.