<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:47, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Ddydd Llun, rhyddhaodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad beirniadol am ymddygiad Caerdydd a’r Fro mewn perthynas â chaffael a recriwtio. Nawr, rwy’n deall hynny. Mewn ymateb, mae prif weithredwr GIG Cymru wedi ysgrifennu at Fyrddau Iechyd Lleol i ofyn am sicrwydd ynglŷn â’u prosesau. Beth yw eich barn chi? A ydych yn credu mai un digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn?