<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:48, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Amlygodd yr adroddiad ei hun yr hyn rwy’n credu y gallwn gyfiawnhau ei alw’n ‘nepotiaeth’ mewn perthynas â chaffael a recriwtio. Nododd yr archwilydd cyffredinol hefyd ei bod yn anodd iawn cael darlun clir o’r ffeithiau mewn perthynas â’r materion sy’n rhan o’r archwiliad. Mae swyddogion Bwrdd Iechyd y Brifysgol a chyn-swyddogion wedi darparu adroddiadau sy’n anghyson ac yn groes i’w gilydd. Roedd tuedd iddynt feio’i gilydd am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad. Gallwn fynd ymlaen.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym rai rheolwyr a swyddogion rhagorol—nifer o reolwyr a swyddogion rhagorol—yn y GIG yng Nghymru, ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno, yn yr achos hwn, fod ymddygiad wedi bod yn annerbyniol. Mae gennym y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon, mae gennym y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer nyrsys a bydwragedd, felly ble mae’r corff ar gyfer rheoleiddio rheolwyr y GIG? Wrth gwrs, gall rheolwyr wneud yr un faint o niwed i gleifion drwy wneud penderfyniadau gwael. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn ei ystyried?