Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Wel, mae tymor y Cynulliad wedi gorffen ac mae’r flwyddyn ysgol wedi gorffen hefyd. Chwe deg mlynedd yn ôl, daeth Rhyl yn gartref i’r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf. Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiant ac wedi arwain at dwf mewn addysg Gymraeg trwy Gymru. Felly, llongyfarchiadau i ysgol Glan Clwyd. Rydw i’n falch iawn o fod yn Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd, cartref geni addysg iaith Gymraeg. Diolch.