Part of QNR – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
Mae llesiant gweithlu GIG Cymru yn flaenoriaeth allweddol a gaiff ei chymryd o ddifrif gan Lywodraeth Cymru, cyflogwyr GIG Cymru a’r undebau llafur. Mae’n nodwedd flaenllaw yn rhaglen waith gydweithredol cyfarwyddwyr y gweithlu a datblygu Sefydliadol ac mae nifer o brosiectau ar y gweill. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu eiriolwyr llesiant, sesiynau ymgynghori a galw heibio ym maes seicoleg, digwyddiadau chwaraeon, ymwybyddiaeth ofalgar, sesiynau ymlacio a sioeau teithiol ar y thema llesiant.