Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 19 Medi 2017.
Mae’n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, nad yw CICau yn arolygiaeth. Mae gennym ni arolygiaeth iechyd sy'n gwneud hynny. Mae ganddyn nhw swyddogaeth, wrth gwrs, o ran gweithredu fel llais cleifion ac mewn sawl ffordd arall. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau y bu cyfarfod cadarnhaol iawn gyda bwrdd y CIC. Ceir llawer o dir cyffredin yn y Papur Gwyn ei hun. Ceir rhai materion y bydd angen eu trafod ymhellach, ond y bwriad yw cryfhau llais y claf ar draws Cymru gyfan, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda CICau er mwyn cyflawni hynny.