<p>Gofal Diwedd Oes</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 19 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 19 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, oherwydd mae'r buddsoddiad wedi galluogi tîm gofal hosbis Dewi Sant i ddarparu model gofal lliniarol a gydnabyddir yn gyffredinol fel enghraifft dda o ofal o'r radd flaenaf. Nawr bod yr adeilad newydd wedi’i gwblhau ac ar agor, bydd yr elusen, wrth gwrs, yn gallu cynorthwyo mwy o bobl sydd angen eu cymorth ar ddiwedd eu bywydau nawr, ac rwy’n llongyfarch yr elusen ei hun yn fawr am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau bod yr hosbis yn cael ei agor.