2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Medi 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal diwedd oes yn ne-ddwyrain Cymru? (OAQ51053)
Mae ein buddsoddiad o £3 miliwn yn yr hosbis newydd ym Malpas a agorwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein hymrwymiad i ofal diwedd oes yn y de-ddwyrain. Mae'r cynllun cyflawni gofal diwedd oes wedi’i ddiweddaru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017, hefyd yn nodi'r camau yr ydym ni’n eu cymryd i sicrhau dull cydweithredol o wella gofal diwedd oes ledled Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, roeddwn i’n bresennol yn lansiad yr uned cleifion mewnol o’r radd flaenaf ym Malpas. Mae'r uned 15 gwely yn cynnig cymorth i bobl ag anghenion rheoli symptomau cymhleth a gofal diwedd oes, ac fel y soniasoch, mae'r buddsoddiad o £3 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gyfer hosbis Dewi Sant yn enghraifft dda o sut i ddarparu gofal hosbis o'r radd flaenaf ac yn helpu i fodloni’r galw am wasanaethau gofal lliniarol yn y de-ddwyrain. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i dalu teyrnged i weledigaeth y bwrdd cyfarwyddwyr yn Dewi Sant, yn enwedig y prif weithredwr, Emma Saysell, a chefnogaeth aruthrol y gymuned leol a gwirfoddolwyr, ac i ddangos y gall buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl pan fo'i angen arnynt fwyaf?
Gwnaf. Mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, oherwydd mae'r buddsoddiad wedi galluogi tîm gofal hosbis Dewi Sant i ddarparu model gofal lliniarol a gydnabyddir yn gyffredinol fel enghraifft dda o ofal o'r radd flaenaf. Nawr bod yr adeilad newydd wedi’i gwblhau ac ar agor, bydd yr elusen, wrth gwrs, yn gallu cynorthwyo mwy o bobl sydd angen eu cymorth ar ddiwedd eu bywydau nawr, ac rwy’n llongyfarch yr elusen ei hun yn fawr am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau bod yr hosbis yn cael ei agor.
Prif Weinidog, a gaf i gytuno â sylwadau Jayne Bryant, a hefyd croesawu agor yr hosbis newydd ym Malpas? Fel y mae’r prif weithredwr, Emma Saysell, wedi ei ddweud, mae hwn yn ddatblygiad nodedig a’r gobaith yw y bydd yn llenwi bylchau a nodwyd yn flaenorol yn y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn mynd o nerth i nerth.
Byddwch yn gwybod, Prif Weinidog, fy mod i’n aml yn codi mater clefyd niwronau motor yn y Siambr hon a'i effaith ofnadwy ar ddioddefwyr, yr amcangyfrifir bod hyd at 5,000 ohonynt ledled y DU ar unrhyw adeg. Mae un o ganfyddiadau allweddol adroddiad diweddar Demos ar effaith ariannol MND ar ddioddefwyr a'u teuluoedd wedi dweud y gall gwasanaethau yn aml fod yn araf i ymateb i anghenion dioddefwyr MND oherwydd cyflymder datblygiad y clefyd. Felly, a allwch chi ymrwymo i edrych eto ar y ddarpariaeth o wasanaethau, gan gynnwys gofal hosbis a lliniarol yng Nghymru, i sicrhau—oes, mae gennym ni adeilad newydd gwych ym Malpas, ac mae hwnnw’n un rhan o'r jig-so—y gall y gwasanaethau a ddarperir gadw i fyny â dioddefwyr clefydau cymhleth fel MND?
Mae'r Aelod yn codi mater pwysig. Roeddwn i ar fai yn anghofio ei longyfarch, wrth gwrs, ar ei briodas ddiweddar, a'i ymroddiad i ddod yn ôl yma. Credaf nad oedd hwnnw’n ddewis iddo ei wynebu, ond, serch hynny, mae ef yma. Ond fy llongyfarchiadau, yn amlwg, iddo ef a'i wraig newydd.
Mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy. Mae’n datblygu’n gyflym iawn fel rheol. Weithiau, mae'n symud yn gyflymach mewn rhai pobl nag eraill. Mae'n anodd rhagweld cyflymder datblygiad y salwch, ond, yn anffodus, wrth gwrs, mae'n hysbys beth mae'r salwch yn ei wneud i'r corff yn y pen draw. Rydym ni eisiau gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor i sicrhau bod lefel y gofal yn iawn i'r unigolyn, gan ein bod ni’n gwybod nad yw'n bosib rhagweld gydag unrhyw gywirdeb sut y bydd y clefyd yn datblygu o ran ei gyflymder, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r elusennau clefyd niwronau motor er mwyn ei gyflawni.